Seren sioe grochenwaith yn dysgu’r grefft i ddysgwyr gyda chyfres o weithdai

Mae enillydd cyfres ddiweddaraf y rhaglen ‘Great Pottery Throw Down’ ar Channel 4 wedi dychwelyd i Goleg y Cymoedd, dros ddegawd ar ôl dechrau astudio yn y coleg, i rannu ei sgiliau a’i chyngor gydag egin artistiaid. Coronwyd Jodie Neale yn bencampwraig y rhaglen grochenwaith yn gynharach eleni, gan guro 11 o artistiaid brwd eraill o bob cwr o’r wlad. Fel rhan o’r gystadleuaeth, cafwyd cyfres o heriau lle roedd gofyn i’r cystadleuwyr ddylunio a chreu darnau ar thema wahanol bob wythnos, gan gynnwys penddelwau a ysbrydolwyd gan gerddorion i setiau parti art deco o’r 1920au.

Astudiodd Jodie’r Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd yn ôl yn 2003 yn wreiddiol, yna aeth ymlaen i ennill gradd BA Anrhydedd mewn Celf Gain yng Ngholeg Sir Gâr yn 2007, cyn cymhwyso a gweithio fel nyrs i’r GIG.

Er gwaethaf peidio â dilyn gyrfa ym myd celf, ni chollodd Jodie ei hangerdd dros fod yn greadigol. Yn fuan ar ôl ennill ei chymhwyster nyrsio, fe ymunodd â dosbarthiadau crochenwaith gyda’r nos ac ailddarganfod ei chariad at y grefft yn gyflym. Ar ôl deuddeg wythnos o ddosbarthiadau, creodd Jodie ei stiwdio ei hun ar waelod ei gardd ac mae hi wedi bod yn creu celf cerameg a darnau crochenwaith oddi yno byth ers hynny. Ar ôl magu hyder, penderfynodd wneud cais am le ar y sioe Channel 4 y llynedd, gan greu argraff ar wylwyr a beirniaid gyda lefel ei sgil a’i chelfyddyd.

Ar ôl dychwelyd adref i Aberdâr yn dilyn y sioe, bydd Jodie yn dychwelyd i’r coleg i gynnal cyfres o weithdai crochenwaith ar gyfer staff a dysgwyr Celf a Dylunio Lefel 3.

Bydd y gweithdai, a gynhelir o ddydd Iau 16 Mehefin tan ddydd Gwener 2 Gorffennaf, yn ymdrin â’r holl bethau sylfaenol sy’n gysylltiedig â chrochenwaith, megis taflu clai ar yr olwyn, rholio ac adeiladu slabiau. Gall y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdai ddisgwyl ennill profiad ymarferol o greu eu jar eu hunain gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addurno, o gerfio i sgraffito.

Gan gyd-fynd â 30 mlynedd ers cyflwyno’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd, bydd y gweithdai yn gwella profiadau dysgu dysgwyr ar y cwrs ymhellach.

Dywedodd darlithydd y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ac arbenigwr animeiddio yng Ngholeg y Cymoedd, Vanessa Batten, sydd wedi trefnu’r gweithdai: “Rydym am ehangu ein darpariaethau cerameg yn y dyfodol, felly mae cael Jodie yn rhannu ei sgiliau ac yn ennyn brwdfrydedd dros grochenwaith yn ne Cymru yn gyfle mor wych i ni fel coleg.

 “Gofynnwyd i Jodie ddysgu ledled y byd ond mae’n cynnal y gweithdai hyn fel sesiynau unigryw gan ei bod am roi yn ôl i’r gymuned a’r coleg lle cychwynnodd ar ei thaith greadigol gyntaf. Mae’n bleser ei chroesawu yn ôl a chynnig y profiad i’n dysgwyr o gael eu haddysgu’n uniongyrchol gan rywun sy’n gwneud pethau anhygoel ers ennill eu cymhwyster yn y coleg.”

Yn dilyn misoedd o ddysgu o bell, mae’r gweithdai eisoes wedi cael canmoliaeth fawr gan ddysgwyr ar y cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.

Mae un o ddysgwyr y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Katie Kirby Jones, yn un o’r dysgwyr cyntaf i fynychu gweithdy. Meddai: “Nid wyf erioed wedi cael llawer o brofiad gyda chlai, felly roedd yn wych cael fy mhrofiad cyntaf gyda rhywun sydd ag angerdd go iawn am weithio gyda’r deunydd. Rwyf wedi dysgu cymaint o dechnegau newydd mewn dim ond un sesiwn ac wedi cael llawer o hwyl hefyd”.

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau