Sgiliau gwerthu un Myfyriwr Lefel A ddarbwyllodd gwmni ffilm i’w chyflogi

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd myfyrwyr o chwe Choleg yn ne ddwyrain Cymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn sialens fenter ‘Trading Places’ sy’n dilyn arddull rhaglen ‘The Apprentice’. Mae’r prosiect, cafodd ei lansio yn 2013, yn cael ei arwain gan First Campus, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’r Morgan Quarter, Caerdydd.

Wedi cydgysylltu drwy’r Hwb Fenter Ranbarthol, mae myfyrwyr o Golegau ar draws de ddwyrain Cymru, yn cynnwys Coleg Pen-y-bont, Coleg Gwent, Coleg y Cymoedd, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Dewi Sant a Choleg Caerdydd a’r Fro yn tyrru i Gaerdydd i werthu amrywiaeth o gynnyrch yn y Morgan Quarter hanesyddol.

I ddathlu Sant Ffolant, bydd thema ramantus i’r cynnyrch, yn caniatáu i siopwyr brynu anrhegion funud olaf ar gyfer rhywun arbennig.

Bydd y sialens yn cymryd lle dros dri diwrnod, ac yn ystod y tridiau bydd y myfyrwyr yn cael cyngor, sgiliau a phrofiad ar ddatblygu a marchnata strategaeth fusnes, yn cynnwys archwilio, trafod, prynu, hybu a gwerthu eu cynnyrch.

Er mwyn i’r myfyrwyr brofi profiad realistig o fywyd menter , mae tîm Trading Places wedi llogi rhif 1, The Royal Arcade i ddefnyddio fel siop dros dro ar ddydd Iau, 13eg o Chwefror. Yn dilyn arddull ‘The Apprentice’, bydd yn rhaid i bob tîm drafod pris y cynnyrch yna gweithio trwy’r dydd i hyrwyddo a gwerthu’r nwyddau i siopwyr.

Bydd y siop dros dro yn agor i fusnes o 9.45yb-5yh, yn dechrau gyda’r brif seremoni agoriadol i ddynodi cam olaf y sialens. Gwahoddir busnesau lleol ac aelodau o’r cyhoedd i ddod i gefnogi’r fenter wreiddiol a chyffrous yma gan ddod i weld y cynnyrch sydd ar gael o bob tîm.

Bydd y tîm buddugol wedi arddangos y sgiliau rheoli busnes mwyaf effeithiol ac wedi arddangos y gwaith tîm gorau trwy gydol y prosiect.

Dywedodd Chris Bissex, pennaeth menter a chyflogadwyedd yn Y Coleg Merthyr Tudful sy’ hefyd yn arwain hwb De ddwyrain Cymru Mae Trading Places yn cynnig cyfle arbennig i’r myfyrwyr ennill profiad o gyflwyno a gwerthu eu cynnyrch yn effeithiol mewn sefyllfa fusnes gwir i fywyd.”

Dywedodd Rory Fleming, rheolwr ystadau yn y Morgan Quarter “Mae Morgan Quarter yn falch i gael eu cysylltu gyda’r fenter yma. Mae tri chwarter o’r siopau yma yn rhai annibynnol sy’n ein gwneud ni’n unigryw i gymharu gyda mannau siopa eraill.”

“Rydyn ni’n dymuno’r gorau i’r holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y fenter Trading Places a gobeithiwn weld llawer o’r entrepreneuriaid yma ar yr heol fawr yn y blynyddoedd nesaf.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau