Sgiliau o bob cwr o’r byd yn dod i’r Cymoedd

Mae hyd yn oed tiwtoriaid yn elwa o ddychwelyd i’r dosbarth, a chynigodd arddangosfa ddiweddar yn ein campws Nantgarw y cyfle i sawl un ohonynt oedd am arddangos y sgiliau creadigol y maent wedi casglu o bob cwr o’r byd.

Roedd dysgwyr, staff ac ymwelwyr â’r campws yn gallu gweld amrywiaeth o arddangosfeydd a grëwyd gan diwtoriaid. Gwnaed yr holl ddarnau yn bosibl diolch i’r sgiliau y mae’r tiwtoriaid wedi gallu eu hennill a’u mireinio trwy gyrsiau a ariennir gan y Rhaglen Blaenoriaethu Sgiliau.

Diolch i’r Rhaglen, mae tiwtoriaid o bedwar campws y coleg wedi gallu cymryd rhan mewn cyrsiau ac ystod o gyfleoedd datblygu proffesiynol sydd wedi eu galluogi i ddod ag ystod ehangach o sgiliau, gwybodaeth a phrosesau yn ôl i’r coleg, y maent wedyn yn gallu eu trosglwyddo i’w dysgwyr.

Roedd y corff o waith a arddangoswyd yn y sioe yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, creadigaethau gwneuthurwyr siocledi, gofaint, arbenigwyr tecstiliau, artistiaid cain, arlunwyr, torwyr patrymau a ffotograffwyr. Yn ogystal â’r gwaith gorffenedig, roedd llawer o’r darnau yr oedd tiwtoriaid yn gwirfoddoli i’w harddangos yno i ddangos arferion a phrosesau newydd y bydd dysgwyr nawr yn gallu eu caffael o ganlyniad i’r rhaglen.

Ymhlith y sgiliau hynny mae: dulliau arbrofol o dorri patrymau a gafwyd yn y coleg dylunio rhyngwladol enwog Central Saint Martins, crefftau traddodiadol cerfio marionetau gan y meistri yn y gweithdy ‘Puppets in Prague’, technegau lluniadu newydd yn Ysgol Darlunio Broadway yng Nghaerdydd, ac o San Francisco, prosesau ystafell dywyll a ddatblygwyd gan y ffotograffydd byd-enwog, John Sexton.

Gan fyfyrio ynghylch y gwaith caled a thalent a arddangoswyd yn yr arddangosfa, dywedodd Darlithydd y Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Claire Prosser: Mae ansawdd y gwaith a arddangoswyd yn y coleg, nid yn unig yn dangos sgiliau eithriadol y tiwtoriaid, mae’n ddathliad o’u hymrwymiad i’w datblygiad eu hunain a’u hawydd i ddarparu’r safonau hyfforddiant uchaf i’r rhai y maent yn eu haddysgu.

“Caniataodd y Rhaglen Sgiliau hefyd i gynrychiolwyr y coleg ymchwilio i dechnoleg ac arferion newydd o’r radd flaenaf y gellir eu cymhwyso i wahanol gyrsiau a disgyblaethau, gydag un tiwtor yn teithio i Brifysgol Singularity yn Silicon Valley i archwilio technolegau cyfuniadol esbonyddol a’u heffaith ar nifer o ddiwydiannau.

Wrth sôn am y sioe, a’r rhaglen a sbardunodd y sioe dywedodd Pennaeth y Coleg y Cymoedd, Karen Phillips: “Un o’n nodau yw helpu ennyn brwdfrydedd dros ddysgu ymhlith ein dysgwyr sy’n meithrin ymgyrch gydol oes i ddatblygu’n barhaus. Felly, mae’n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein staff wrth arwain trwy esiampl, trwy ddilyn yr holl gyfleoedd i wneud yr un peth. Mae’r ymrwymiad hwn i gefnogi ein tiwtoriaid a’n staff i wella eu sgiliau eu hunain yn cynrychioli ffordd arall y byddwn yn ceisio galluogi ein dysgwyr i elwa o’r arferion addysgu, sgiliau a dysgu academaidd diweddaraf. “

Cynlluniwyd y Rhaglen Blaenoriaethu Sgiliau Genedlaethol i ganiatáu i’r sector Addysg Bellach ymateb i ddarpariaethau i ymdrin â bylchau o ran sgiliau lefel uwch swydd-benodol, ar lefel ranbarthol fel y nodwyd gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a datblygu’r darpariaethau hynny. Hefyd, mae’n cefnogi sefydliadau addysg bellach i ddatblygu sylfaen sgiliau eu staff trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau