Mae mam i ddau a benderfynodd ddychwelyd i’r coleg, ugain mlynedd ar ôl gadael ysgol, er mwyn cael newid yn ei gyrfa, yn dathlu dechrau ei busnes ei hun a rhoi hwb i’w swydd ddelfrydol yn dilyn blwyddyn heriol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu Simone Bevan, 38 mlwydd oed o Lanelli, yn teithio dros 100 milltir y dydd i fynychu cwrs trin gwallt, colur ac effeithiau arbennig yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw, gan jyglo ei hastudiaethau â bod yn fam sengl, tra hefyd yn wynebu nifer o heriau gyda’i bywyd teuluol a phersonol gan gynnwys tor-perthynas a dod allan yn hoyw.
Roedd yn benderfynol o ddilyn ei gyrfa ddelfrydol ac eisiau rhoi’r cyfle gorau iddi hi ei hun i lwyddo, felly manteisiodd y fam ymroddedig ar ei chyfle a dewisodd gofrestru ar gyfer y cwrs yng Ngholeg y Cymoedd, er ei fod mor bell o’i chartref, oherwydd fod iddo enw da yn y diwydiant ac yn cael ei arwain gan rai fu’n gweithio’n broffesiynol ym myd teledu.
Nawr, mae’n ymddangos fod y penderfyniad hwnnw wedi talu ar ei ganfed oherwydd, er gwaethaf blynyddoedd anodd, gan gynnwys astudio ar gyfer gyrfa newydd yn ystod y pandemig, mae Simone wedi cychwyn ei busnes coluro ei hunan tra’n dal yn y coleg ac mae ar y trywydd iawn i gael cynnig lle mewn prifysgol a gyrfa’n gweithio fel technegydd colur ar gyfer cynyrchiadau theatr ar ôl derbyn Rhagoriaeth yn ei diploma.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed i weithio’n llawn amser mewn amrywiol swyddi, o McDonalds i gynllunio parti, penderfynodd Simone newid gyrfa yn 30 oed ar ôl datblygu iselder amenedigol tra’n feichiog gyda’i hail blentyn – cyflwr a effeithiodd mor ddrwg arni fel na allai adael y tŷ – ac roedd hi eisiau rhywbeth i ganolbwyntio arno.
Gan gymryd swydd gyda busnes ar-lein lle bu’n gweithio gartref i werthu cynhyrchion harddwch ac ar ôl sesiynau tiwtorial trwy’r cyfryngau cymdeithasol, darganfu Simone angerdd newydd yn gyflym – cariad at golur – er nad oedd erioed wedi ymddiddori yn y maes hynny. Wrth arbrofi gyda cholur yn rheolaidd, cafodd ei hun yn ffynnu yn y rôl ac yn fuan datblygodd i fod yn berfformiwr gorau’r cwmni.
Ar ôl pedair blynedd, penderfynodd Simone ei bod am fynd â’i sgiliau colur a’i gyrfa i’r lefel nesaf, gan obeithio am waith ym maes effeithiau arbennig i deledu, ac ysgogodd hynny hi i roi’r gorau i’w swydd a chofrestru i astudio diploma estynedig Lefel 3 mewn trin gwallt, coluro a chreu effeithiau arbennig yn y Cymoedd. Nod y cwrs dwy flynedd ydy datblygu ystod eang o sgiliau a thechnegau i naill ai symud ymlaen i addysg uwch neu ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau.
Dywedodd Simone: “Er mod i wrth fy modd yn Simon fy swydd darparu colur, roeddwn i eisiau gwella fy sgiliau. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y syniad o effeithiau arbennig ond gan nad oedd gen i unrhyw hyfforddiant proffesiynol y tu ôl i mi, ac yn brin o wybodaeth, roeddwn i awydd gwneud cwrs wedi ei achredu. Y drafferth oedd, doedd yna ddim rhai yn fy ardal leol, ond roeddwn yn benderfynol o wireddu fy uchelgais.
“Doeddwn i erioed wedi bod mor frwd â hynny’n academaidd o’r blaen nes i mi ganfod bod colur o ddiddordeb angerddol i mi. Dewisais fynd i Goleg y Cymoedd gan fod gan y cwrs enw da yn y diwydiant ac yn cael ei arwain gan staff proffesiynol sydd wedi gweithio’n y cyfrwng.
“Roedd wedi bod yn ddau ddegawd ers fy nyddiau ysgol, felly roeddwn i’n nerfus iawn am ddechrau mynd i’r coleg. Roeddwn yn pryderu na fyddwn yn agos cystal ag eraill ar y cwrs gan fod plant y dyddiau hyn yn dechrau defnyddio colur yn ifanc a dim ond pan oeddwn yn 30 oed y gwnes i ddechrau, ond fe wnes yn dda iawn yn y pen draw!”
Fe wnaeth astudio ar gyfer ei chymhwyster ddatblygu sgiliau Simone a chynyddwyd ei hyder, gan ei hysbrydoli i fentro a dechrau ei busnes ei hun gan gynnig ystod o wasanaethau colur gan gynnwys paratoadau priodasol, coluro ‘glam’ a charnifal. Tra bod y busnes yn gwneud yn dda, mae hi’n parhau i fod eisiau defnyddio ei sgiliau i greu colur mwy dramatig, gyda’r dymuniad o weithio o fewn y timau coluro a steilio ar gyfer cynyrchiadau theatr.
Ychwanegodd: “Pan ymunais i â’r coleg am y tro cyntaf, roeddwn i’n meddwl yr hoffwn i weithio ym maes effeithiau arbennig ar gyfer ffilm a theledu ond sylweddolais yn gyflym fod gen i fwy o ddiddordeb mewn theatr. Yn ogystal â choluro, fe wnes i wir fwynhau steilio gwallt a chreu wigiau cywrain yn ystod fy nghwrs a byddai gweithio mewn perfformiadau llwyfan yn fy ngalluogi i gyfuno’r diddordebau hyn. Byddai hefyd yn fwy addas i mi fel mam sy’n gweithio.
“Rydw i mor gyffrous i weld lle bydd fy ngyrfa yn mynd â fi nesaf. Roedd dychwelyd i gwrs addysg fel dysgwr aeddfed y penderfyniad gorau wnes i. Mae wedi rhoi’r hyder, yr adnoddau a’r cymwysterau i mi gamu’n syth i rôl o fewn y diwydiant. Er y gall fod yn gyfnod nerfus wrth ddechrau o’r dechrau, byddwn yn annog unrhyw un i wneud hyn.
“Yn y tymor hir, rydw i wrth fy modd gyda’r syniad o fynd i fyd addysg a chynnig cymhwyster tebyg yn ardal Sir Gaerfyrddin, gan nad oedd yna gwrs felly i mi ac rwy’n gwybod bod llawer o ddysgwyr creadigol yn yr ardal honno.”