Taith i Ogledd Cymru i griw Safon Uwch

Mae Coleg y Cymoedd yn ymdrechu i gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i’w ddysgwyr yn ystod eu cyfnod yn y Coleg. Ddechrau mis Tachwedd, teithiodd criw Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith o Goleg y Cymoedd i Wersyll yr Urdd Glan-llyn am gwrs preswyl Cymraeg Safon Uwch. Trefnwyd y cwrs gan yr Urdd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Talwyd am le myfyrwyr y Coleg ar y daith gan grant Hyrwyddo’r Gymraeg fel pwnc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Aeth dau fyfyriwr sy’n astudio Safon Uwch Gyfrannol yn y Gymraeg yn ein Canolfan Safon Uwch yn Nantgarw ar y daith dau ddiwrnod.

Cafwyd nifer o sesiynau oedd yn berthnasol i’r maes llafur fel sesiwn ar drafod cerddi, yr arholiad llafar, hanes yr iaith Gymraeg ac elfennau’r iaith. Ond nid oedd yn waith i gyd. Cafwyd y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored anhygoel fel canŵio, cwrs rhaffau a saethyddiaeth. Hefyd, cafwyd y cyfle i brofi ychydig ar ddiwylliant Cymraeg gyda’r nos gyda gig arbennig gyda’r canwr Gwilym Bowen Rhys.

Dywedodd un o’r myfyrwyr, Katlyn Evans,

“Fe wnes i fwynhau sut roedd y daith yn llawn gweithgareddau a fydd yn fy helpu’n aruthrol i ddysgu’r iaith. Ond nid yn unig hynny, roeddwn i wrth fy modd yn cael cipolwg ar sut beth fyddai bod yn ddwyieithog, oherwydd ar hyd fy oes rydw i newydd siarad Saesneg a dysgu drwy gyfrwng y Saesneg ond yno siaradais a dysgais drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Ychwanegodd Rheolwr y Gymraeg, Lois Roberts, “Diolch yn fawr iawn i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd ac i’r Urdd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am drefnu. Roedd y daith yn llwyddiant mawr. Roedd yn agoriad llygad enfawr i’n myfyrwyr ni. Cawsant y cyfle i ddefnyddio’r iaith am y tro cyntaf erioed y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Yn ogystal â dysgu pethau a fydd yn helpu i lwyddo yn y cwrs, roedd hefyd yn dangos fod y Gymraeg yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol a hwyl!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau