Rydyn ni wedi ein lleoli ar Gampws Ystrad Mynach. Adeiladwyd ein Meithrinfa at y pwrpas yn 1994 ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Chwefror 1995.
Mae derbynfa yn arwain at y brif feithrinfa, y gellir ei chyrraedd drwy ddrws diogel wedi’i gloi â chod diogelwch. Yn yr ardal yma caiff eiddo’r plant ei storio, a gallwch weld y prif hysbysfwrdd ar gyfer rhieni, staff, lluniau proffil a thystysgrifau staff.
Mae hyn yn arwain at ardal chwarae’r plant (plant rhwng 18 mis a dwy a hanner oed). Ochr yn ochr â’r ystafell yma mae ardal i’r plant gysgu os ydyn nhw’n dymuno.
Gerllaw ystafell y plant bach mae cegin y feithrinfa lle mae prydau a byrbrydau maethlon ffres yn cael eu paratoi a’u gweini.
Mae gan ystafell y babanod (babanod rhwng 10 mis a 18 mis oed) ardal ar gyfer chwarae, bwyta a chysgu gyda drysau dwbl yn arwain at ran ddiogel o ardd y feithrinfa. Mae ardal newid cewynnau ar wahân wedi’i gosod wrth ochr ystafell y babanod. Dilynir amserlenni babanod unigol ar gyfer bwydo a chysgu.
Mae’r ystafell cyn-ysgol (ar gyfer plant rhwng dwy a hanner a phump oed) wedi’i lleoli yng nghefn adeilad y feithrinfa ac yn arwain at yr ystafell ymolchi a’r ardaloedd tai bach ar gyfer y plant meithrin.
Gardd – mae ganddon ni ardd ddiogel gyda gorchuddion haul, lloriau diogelwch ac ardal laswelltog.
Mae teledu cylch cyfyng ym mhob ardal