Tîm Cyfryngau’r Cymoedd yn Ennill Arian yng Nghystadleuaeth Worldskills

Tri dysgwr y Cyfryngau Creadigol Coleg y Cymoedd oedd cyd-enillwyr y wobr arian yng Nghystadleuaeth Worldskills UK Live eleni, a gynhaliwyd yn yr NEC, Birmingham.

Ymwelodd 85,000 â’r digwyddiad, sy’n cynnal rowndiau terfynol cystadleuaeth Skills UK, dros y tri diwrnod eleni a chystadlodd 500 o bobl mewn 70 o ddisgyblaethau gwahanol. Ymhlith y cystadlaethau Sgiliau roedd Adeiladu ac Isadeiledd, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw, Digidol, Busnes a Chreadigol a Pheirianneg a Thechnoleg.

Mewn partneriaeth â Natspec, cynhaliwyd Rowndiau Terfynol Inclusive Skills UK; dangosodd y rhain y dalent a’r sgiliau sy’n bodoli ymysg dysgwyr ag anawsterau dysgu.

Yn cynrychioli adran Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd am y tro cyntaf yn y categori Digidol, Busnes a’r Cyfryngau Creadigol (Sgiliau Cynhwysol) oedd Jarrad Thomas-Gilbert (17), Cerys Coleman (17) a Sam Sheppard (17). Mae’r Gystadleuaeth Inclusive Skills yn galluogi pobl ifanc ag anawsterau dysgu ac anableddau i ddangos eu sgiliau gwaith a’u hannibyniaeth gynyddol.

Roedd y tri dysgwr yn astudio ar gwrs Mynediad 3 y Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau pan ymunasant â’r gystadleuaeth fis Ionawr diwethaf i sicrhau lle yn y rownd derfynol ac ers hynny maent wedi symud ymlaen i gwrs Lefel 1 Y Celfyddydau Creadigol a’r Cyfryngau yng nghampws Nantgarw.

Wrth sôn am lwyddiant y tri dysgwr, dywedodd Lesley Cottrell, Llysgennad Sgiliau’r Coleg Roeddwn yn falch o weld ein Tîm Cyfryngau Cynhwysol yn cyd-ennill y fedal Arian. Maent wedi gweithio’n hynod o galed, gyda chymorth eu tiwtor, Ange Fitzgerald, ac mae hynny’n amlwg. Roedd y dysgwyr yn benderfynol, yn hyderus ac yn gallu ymdopi â phob problem a wynebwyd; gyda gwytnwch anhygoel. Roedd yn brofiad gwych i bob un ohonynt ac yn llwyddiant gwych i roi ar eu CV. Mae’r cystadlaethau’n rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin hyder, cynyddu eu sgiliau a chwrdd â phobl yn y diwydiant “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau