Tîm y Coleg yn ennill medalau chwaraeon yn rownd derfynol y DU

Enillodd Ryan Viney, dysgwr o Goleg y Cymoedd y teitl o Weinydd yr Wythnos, yn rasys nodedig Cwpan Aur Cheltenham a hynny o blith miloedd o staff.

Ymunodd Ryan, dwy ar bymtheg oed o Ferthyr Tudful, â grŵp o 48 o ddysgwyr o gampws Nantgarw ar brofiad gwaith pum niwrnod yn y rasys. Mae’r dysgwyr yn astudio ar ystod o gyrsiau Coginio Proffesiynol a Gwasanaeth Diod a Bwyd Proffesiynol Lefel 1, 2 a 3.

Ar ôl cyrraedd, mae’r dysgwyr yn cael eu rhoi yn eu safleoedd, yn y bariau, y bwytai, y pentref pebyll a’r blychau lletygarwch a threulio’r wythnos yn gweini ar filoedd o westeion. Wrth weithio dan bwysau fel hyn, mae’r dysgwyr yn cael blas ar y diwydiant ac yn sicr yn codi eu hyder a’u sgiliau.

Roedd Ryan wrth ei fodd i dderbyn y teitl Gweinydd yr Wythnos. Dwedodd Ryan: “Ron i wir wedi synnu pan glywais mod i wedi cael fy newis yn Weinydd yr Wythnos o’r miloedd oedd yn cymryd rhan. Roedd yn wythnos wirioneddol brysur a buon ni’n gweithio oriau hir ond dyna ydy natur yr yrfa dw i’n gobeithio ei dilyn. Gwn yr hoffai pob dysgwr ddiolch i’n tiwtoriaid Sharon Vallance, Marilyn Emmanuel a John Williams am ddod gyda ni i’r achlysur – mae’r profiad wedi bod yn amhrisiadwy”.

Gwnaeth ymroddiad a gwaith caled yr holl ddysgwyr drwy gydol yr wythnos argraff fawr ar reolwyr a goruchwylwyr yr achlysur ac ar Gwmni Arlwyo’r Jockey Club a gyflogodd y dysgwyr a chawson nhw eu canmol am eu hymroddiad a’u hagwedd.

Dywedodd y Pennaeth, Judith Evans: “Rhaid i mi longyfarch yr holl ddysgwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn am eu hagwedd aeddfed a’u hymddygiad rhagorol. Mae cyfleoedd fel hyn yn amhrisiadau o ran profiad gwaith ac rydyn ni wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i fod yn barod am y byd gwaith; rydyn ni wedi bod yn mynychu Rasys Cheltenham dros yr ugain mlynedd diwethaf. Rhaid llongyfarch Ryan yn arbennig a gododd proffil Coleg y Cymoedd; roedd pob dysgwr yn llysgennad amlwg dros y coleg”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau