Darpar filfeddyg yn sicrhau lle ym Mryste
Mae unigolyn sy’n caru anifeiliaid, ac wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf a’i bryd ar fod yn filfeddyg, wedi profi bod gwaith caled ac ymroddiad yn talu ar ei ganfed, gan iddi sicrhau lle i astudio am radd mewn milfeddygaeth drwy ddilyn llwybr anghonfensiynol i’r brifysgol.
Bydd Tanydd Williams, 21, o Aberdâr, sy’n un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd, yn mynd i ysgol filfeddygol Prifysgol Bryste ym mis Medi ar ôl cwblhau diploma mynediad i addysg uwch mewn biowyddoniaeth yn y coleg.

Ar ôl magwraeth lle roedd hi wedi’i hamgylchynu gan anifeiliaid anwes wedi eu hachub, gan gynnwys Zeus, ei hoff ddaeargi Swydd Stafford, sydd bellach yn 10 oed, roedd Tanydd bob amser yn gwybod ei bod eisiau gyrfa yn gweithio mewn rhyw fodd gydag anifeiliaid.
Tra yn yr ysgol, bu ar leoliad mewn clinig milfeddygol lle bu’n arsylwi ymgynghoriadau, cymorthfeydd a thriniaethau, gan danio ei hawydd i ddilyn y llwybr hwn fel gyrfa iddi hi ei hun.
Cofrestrodd y darpar filfeddyg i wneud Lefel A mewn bioleg a chemeg, yn ogystal â diploma mewn gwyddorau meddygol, i gyflawni ei nod. Ond bu i’r Covid ar y pryd amharu’n ddifrifol ar ei hastudiaethau. Roedd hi’n cydnabod bod aros gartref yn gyson heb anogaeth na chefnogaeth tiwtoriaid wedi effeithio’n negyddol ar ei gwaith, ond gyda chryn ymdrech llwyddodd Tanydd i ddod o hyd i’r cymhelliant i barhau ac i weithio’n annibynnol. Y canlyniad oedd iddi gyflawni’r graddau roedd hi eu heisiau neu eu hangen i fynd i’r brifysgol.
Gan gymryd seibiant i weithio ym maes manwerthu am flwyddyn, penderfynodd Tanydd fynd yn ôl i’r coleg ac ail ganolbwyntio ei sylw ar y gwyddorau milfeddygol.
Ei bwriad i ddechrau oedd ailsefyll ei harholiadau Lefel A yn y coleg, a fyddai hefyd wedi gofyn am ail-sefyll rhai TGAU, ond dywedodd y tiwtoriaid wrth Tanydd fod ganddi opsiwn arall a allai ei gweld yn gwireddu ei breuddwydion yn gynt o lawer – diploma mynediad at fiowyddoniaeth sy’n cael ei dderbyn gan Brifysgol Bryste.
Mae’r cwrs blwyddyn, sy’n cyfateb i dair lefel A, yn gweld dysgwyr yn astudio Bioleg, Microbioleg a Chemeg ochr yn ochr â Mathemateg a Sgiliau Astudio i’w paratoi ar gyfer symud ymlaen i Addysg Uwch i astudio Gwyddorau Biofeddygol a phynciau cysylltiedig.
Meddai Tanydd: “Rwy’n gwneud yn dda pan fyddaf yn cael fy amgylchynu gan bobl eraill ac yn dysgu mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, felly roedd gweithio gartref ar fy mhen fy hun, tra’n treulio gweddill fy amser gartref yn ystod y pandemig, yn anodd iawn i mi. Roeddwn i’n gwybod y byddai’n effeithio ar fy ngraddau ac felly y bu. Ar ôl hynny penderfynais weithio yn Tesco i gynilo rhywfaint o arian, ond roeddwn yn gwybod, rhyw ddydd, fy mod eisiau dychwelyd i ddilyn y llwybr milfeddygol.
“Ro’n i’n teimlo ar goll pan sylweddolais i na allwn i ailsefyll fy Lefelau A ac yn meddwl na fyddwn i’n gallu mynd i’r brifysgol, ond gwnaeth fy nhiwtoriaid bopeth o fewn eu gallu i fy helpu a rhoi sicrwydd i mi fod yna lwybr arall i mi ar gyfer cael gradd filfeddygol. Pan glywais am y cwrs mynediad, manteisiais ar y cyfle, ac rwyf wedi gweithio’n galed iawn ers hynny i gael y graddau sydd eu hangen arnaf i sicrhau fy lle.”
Gan nad yw am adael ei chi Zeus ar ôl pan fydd yn mynd i’r brifysgol, mae Tanydd wedi penderfynu y bydd yn teithio bob dydd yn hytrach na lletya mewn neuadd, er mwyn iddi allu parhau i ofalu am y ci.
Ychwanegodd: “Mae fy nghi wedi mynd yn hen erbyn hyn ac mae ganddo rai problemau iechyd, felly rydw i wir eisiau bod yno i ofalu amdano. Mae wedi bod gyda mi ers pan oeddwn yn 11 mlwydd oed. Rwyf wedi fy magu yn ei gwmni ac mae mor bwysig i mi, gan iddo fod wrth fy ochr am ddegawd.
“Rydw i nawr yn llawn cyffro ar gyfer cychwyn yn y brifysgol. Dwi braidd yn nerfus hefyd gan fy mod yn poeni y bydd gan bawb arall eu Lefel A, ond mae angen i mi atgoffa fy hun fy mod yn haeddu fy lle fel pawb arall ac y byddwn i gyd yn yr un cwch pan fyddwn yn cychwyn ar y cwrs gradd.
“Mae fy nhiwtoriaid wedi dweud wrthyf fod angen i mi gael mwy o ffydd ynof fy hun ac wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy nghwrs. Maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi rhoi mynediad cyson i mi at bob help, yn bersonol a thrwy Teams, gan ddweud wrthyf y gallaf anfon neges atyn nhw unrhyw bryd, sydd wedi bod yn anhygoel.
“Rydw i wir eisiau dangos i ddysgwyr eraill, sydd hwyrach heb wneud cystal a’u disgwyliad yn eu Lefel A, neu sy’n meddwl am ddewisiadau eraill yn lle Lefel A, bod opsiynau eraill ar gael er mwyn cyrraedd prifysgol. Nid un llwybr sydd yna. Efallai nad ydi’r llwybr traddodiadol at ddant pawb ac mae hynny’n iawn.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




