Mae Coleg y Cymoedd yn falch o fod yr unig Goleg Addysg Bellach yng Nghymru i ennill statws TASS.
Mae rhaglen Gyrfa Ddeuol TASS wedi’i hariannu mewn partneriaeth rhwng Coleg y Cymoedd ac athletwyr dawnus sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu doniau ifanc gorau a mwyaf cyffrous ein gwlad.
Mae rhaglen TASS yn helpu athletwyr – 16+ oed – i gydbwyso chwaraeon, addysg a ffordd o fyw tra eu bod yng Ngholeg y Cymoedd.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023, mae 31 o athletwyr sy’n fyfyrwyr sy’n derbyn cymorth TASS ar hyn o bryd. Mae rhagor o wybodaeth am TASS yma.
Pan fyddwch yn gwneud cais am gwrs yng Ngholeg y Cymoedd, rydyn ni’n gofyn cwestiwn ar y ffurflen gais i weld a ydych yn athletwr elitaidd*.
*Mae athletwr elitaidd yn rhywun sydd ar hyn o bryd yn cystadlu neu’n cynrychioli ar lefel ranbarthol/genedlaethol neu ryngwladol yn y gamp o’u dewis.
Rhaid i chi fod yn cystadlu neu’n cynrychioli ar lefel ranbarthol/genedlaethol yn eich camp o ddewis
Campau chwaraeon sydd wedi’u cynnwys – Does dim cyfyngiad ar y campau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun, er enghraifft, mae dysgwyr presennol a blaenorol wedi cymryd rhan yn y meysydd canlynol: Pêl-droed, Rygbi, Beicio, Karate, Nofio, Codi Pwysau, Bocsio, Cleddyfa, Dawns, Cic Focsio a llawer mwy……
ALUN DAVIES
Cynghorydd Ffordd o Fyw Perfformio a Gyrfa Ddeuol
Mae Alun Davies yn cael ei ystyried fel un o’r ymarferwyr achrededig a chymwysedig mwyaf blaenllaw ym maes Datblygiad Personol mewn Chwaraeon a lles chwaraewyr/athletwyr. Mae ganddo dros 35 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg, hyfforddiant a newid busnes – 21 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag athletwyr elitaidd, chwaraewyr proffesiynol, Athletwyr sy’n Fyfyrwyr a staff cymorth yn cefnogi eu datblygiad personol a’u trawsnewidiadau gyrfa.
AMELIA ELLIS
TAEKWONDO
CWRS:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Carfan Hyfforddi Taekwondo Prydain
UCHELGAIS CHWARAEON:
Cystadlu ar lwyfan y byd ac anelu i gyrraedd Detholiad Gemau’r Gymanwlad/Pencampwriaethau’r Byd.
PAM COLEG Y CYMOEDD?:
Fe wnes i ddechrau ar gwrs Chwaraeon ond wrth weithio gyda fy ymgynghorydd TASS fe ddaeth hi’n amlwg taw ym maes gofal plant roedd gen i fwyaf o ddiddordeb ac angerdd y tu allan i faes chwaraeon. Ces i gefnogaeth dda wrth drosglwyddo hefyd ar ôl cael anaf difrifol.
SAM COAKLEY
CIC FOCSIO
CWRS:
Lefel 3 Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth – diploma estynedig
YSGOL FLAENOROL:
Ysgol Gymunedol Sant Cennydd
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Enillydd 6 medal aur y byd WKU, hefyd wedi ennill gwregys cyswllt llawn Prydeinig.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Gwregys teitl byd cyswllt llawn
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Am fod y coleg yn cynnig yr ystod orau o opsiynau cwrs Technoleg Gwybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r rhaglen TASS i fy helpu i gyflawni nawr a pharatoi ar gyfer y brifysgol.
REBECCA LEWIS
NOFIO PARA
CWRS:
Lefel 3 mewn Cyfrifeg
YSGOL FLAENOROL:
Y Ddraenen Wen
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Rownd Derfynol Gemau’r Gymanwlad Birmingham
UCHELGAIS CHWARAEON:
I fod y gorau y galla i fod a chymryd rhan mewn Gemau Paralympaidd.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Dyma oedd yn gweddu orau i fi ac o ran y gefnogaeth dw i’n ei chael yn fy ngweithgareddau academaidd a chwaraeon.
KENZIE JENKINS
RYGBI’R UNDEB
CWRS:
BTEC Chwaraeon Lefel 3
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Cymru o dan 18, academi Bristol Bears.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Chwarae rygbi proffesiynol ar y lefel uchaf.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Roedd rhaglen yr academi yn y Coleg yn fy nghefnogi’n llawn yn fy ngyrfa rygbi ac academaidd.
MILETA MITCHELL
PÊL-RWYD
CWRS:
Safonau Uwch
YSGOL FLAENOROL:
Ysgol Uwchradd Lewis i Ferched
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Academi ranbarthol Cymru, Ystrad Mynach a Chymoedd Sir Morgannwg
UCHELGAIS CHWARAEON:
Chwarae dros y Dreigiau Celtaidd a Chymru.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Er mwyn gallu parhau â fy ngyrfa pêl-rwyd yn yr academi bêl-rwyd yn ogystal â chyflawni fy astudiaethau Safon Uwch gyda chefnogaeth wych gan staff a rhaglen TASS.
JAKE ACREMAN
KARATE a BOCSIO
CWRS:
Prentisiaeth Plymio
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Pencampwr karate cenedlaethol a rhanbarthol, cyn trosglwyddo i focsio ac ymladd am bencampwriaeth ABA Cymru.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Cystadlu ar lwyfan y byd ac o bosib ymladd yn broffesiynol – neu o leiaf gyrraedd y Gemau Olympaidd.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Hwn oedd y coleg gorau ar gyfer Plymio a phrentisiaeth, ac mae cymorth TASS wedi bod yn amhrisiadwy gan sicrhau fy mod yn cyflawni fy nghymwysterau a fy nyheadau chwaraeon.
MADDIE WILLIAMS
PÊL-DROED I FERCHED
CWRS:
Lefel 3 mewn Chwaraeon
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Rowndiau Rhagbrofol Ewrop gyda Chymru o dan 17, Capten Colegau Cymru yn Rhufain 2023.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Dod yn bêl-droediwr proffesiynol.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Hwn oedd y coleg gorau i fy helpu i wella a rhoi cyfleoedd i fy helpu i gyrraedd fy nodau yn fy ngyrfa yn y dyfodol.
EVAN WOOD
RYGBI’R UNDEB
CWRS:
Lefel 3 mewn Chwaraeon
YSGOL FLAENOROL:
Ysgol Uwchradd Pen y Dre
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Capten tîm Coleg y Cymoedd, capiau i Gymru o dan 17 ac o dan 18.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Chwarae ar y lefel uchaf y galla i ei chyflawni.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Mae’n goleg sy’n caniatáu i fi barhau gyda fy nyheadau rygbi gan chwarae ar y lefel orau yn yr oedran yma gan ddod i gysylltiad â safon uchel o hyfforddi, a dal i allu cyflawni fy addysg ar yr un pryd, i gefnogi fy nghynnydd i fynd i’r Brifysgol.
HARRISON ROCK
RYGBI’R UNDEB
CWRS:
Safon Uwch – Bioleg, Cemeg, Mathemateg
YSGOL FLAENOROL:
Ysgol Gyfun Llanhari
CYFLAWNIAD CHWARAEON:
Tîm o dan 18 Caerdydd a thîm o dan 18 Cymru.
UCHELGAIS CHWARAEON:
Mwynhau fy rygbi a mynd mor bell ag y galla i.
PAM COLEG Y CYMOEDD?
Rydw i’n bwriadu symud ymlaen i’r brifysgol i astudio Milfeddygaeth, a Choleg y Cymoedd oedd yr opsiwn gorau i fi astudio ochr yn ochr â chwarae mewn rhaglen academi coleg. Roedd derbyn statws TASS yn gyflawniad gwych i fi ac rydw i wedi cael y gefnogaeth orau.