Cariad merch yn ei harddegau at goluro yn ei helpu i oresgyn gorbryder a sicrhau lle mewn prifysgol
Bu brwdfrydedd merch yn ei harddegau dros golur yn gymorth iddi oresgyn ei thrafferthion gyda gorbryder ac, erbyn hyn, ar ôl sicrhau ei lle mewn prifysgol, mae’n edrych ymlaen at roi hwb i’w gyrfa ym maes ffilm a theledu.
Mae Tayla Williams, 19 oed o Gaerffili, wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol De Cymru i astudio cwrs Trin Gwallt, Coluro a Phrostheteg ar gyfer Ffilm a Theledu ar ôl cwblhau ei diploma mewn trin gwallt, coluro ac effeithiau arbennig yng Ngholeg y Cymoedd.

Mae’r ferch sydd mor frwd dros goluro yn rhoi clod i’w chwrs yn y coleg am ei helpu i oresgyn y problemau gorbryder a wynebai. I Tayla, bu’r ymdrech i astudio rhywbeth y mae’n teimlo mor frwd drosto yn fodd iddi ddatblygu ei sgiliau a’i hyder, a’i hysbrydoli i fynd amdani a gwneud cais am le yn y brifysgol.
A hithau wedi cael ei bwlio yn yr ysgol uwchradd, pan oedd hi’n 16 oed, penderfynodd Tayla adael addysg draddodiadol a chael ei haddysgu adref. Ond, digwyddodd pandemig Covid-19 a daeth cyfyngiadau’r cyfnod clo i rym. Cafodd Tayla ei hun yn teimlo’n fwy ynysig nag erioed gan ddatblygu gorbryder cymdeithasol, yn gynyddol ofnus o fynd allan neu fod mewn sefyllfaoedd cymdeithasol dwys.
Roedd yn benderfynol o oresgyn ei phroblemau a’u wynebu a phenderfynodd fwrw iddi a gwneud cais am le yn y coleg i gychwyn o’r newydd a mentro.
Fel unigolyn creadigol â diddordeb ym mhopeth yn ymwneud â harddwch, ymunodd Tayla â chwrs diploma estynedig Lefel 3 mewn trin gwallt, coluro ac effeithiau arbennig yng Ngholeg y Cymoedd – cwrs a fyddai’n ei galluogi i ddefnyddio ei dychymyg a defnyddio’i sgiliau artistig. Nod y cwrs dwy flynedd ydy datblygu ystod eang o sgiliau a thechnegau ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau harddwch neu’r cyfryngau. Penderfynodd Tayla wneud hyn ar ôl iddi dreulio llawer o’i hamser yn ystod y cyfnod clo yn ymarfer coluro a chreu ei darnau celf ei hun.
Tra yn y coleg, llwyddodd Tayla i gychwyn ei busnes bach ei hun drwy Instagram, yn cynllunio logos ar gyfer cwmnïau eraill – rhywbeth y mae hi’n ei wneud hyd heddiw. Drwy ei thiwtor, Victoria Northbrooke, cyn artist coluro ar gyfer teledu a ffilm oedd yn arfer gweithio i’r BBC a Film 4 yn ogystal â byd y ‘catwalks’ ac wythnosau ffasiwn, daeth Tayla i gysylltiad â Boom Media Cymru, un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru sy’n darparu cynnwys ar gyfer S4C, BBC, ITV a Sianel 4. Bu Tayla ddigon ffodus i gymryd rhan mewn sesiynau cyfweld gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant fu’n disgrifio eu gyrfaoedd a chynnig cyngor ar y modd i sicrhau cysylltiadau a chael swyddi o fewn y sector.
Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod Tayla wedi gwneud y penderfyniad cywir i ymuno â’r coleg, er gwaetha ychydig o flynyddoedd anodd, yn cynnwys astudio am yrfa newydd yn ystod y pandemig. Mae Tayla wedi derbyn ei diploma ac wedi cael cynnig lleoedd mewn pedair prifysgol yn Bournemouth, Caerdydd a Llundain.
Dywedodd Tayla, “Ces amser anodd iawn yn yr ysgol. Ces fy mwlio’n ofnadwy ac arweiniodd hyn fi i geisio dysg adref. Datblygais yn ynysig iawn a threulio bron yr holl amser ar fy mhen fy hun. O ganlyniad, teimlais orbryder cymdeithasol a theimlo’n nerfus iawn i adael fy nhŷ neu mewn unrhyw sefyllfa gymdeithasol sylfaenol.
“Gwyddwn, er mwyn helpu fy hun, fod angen i mi wthio fy hun a’r ffordd orau o wneud hyn oedd mynd i’r afael â’r her yn uniongyrchol. Dw i mor hapus i mi lwyddo i wneud hyn gan mod i wedi cael y ddwy flynedd mwyaf rhyfeddol yn y coleg. Mae fy nhiwtor, Victoria, wedi bod yn wych – aeth yr ail filltir i fy helpu, gan gynnwys tu allan i’w horiau gwaith arferol. Helpodd fi i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac i lunio fy CV.
“Mae gan Victoria brofiad helaeth yn y sector ac mae hi’n berchen ar ei busnes ei hun yn hyfforddi MUAs (artistiaid coluro) newydd ar bethau megis hyrwyddo busnes, felly dw i wir yn gwerthfawrogi ei harbenigedd.
Ychwanegodd: “Y ffordd dwi’n dadwenwyno ac ymlacio ydy drwy arlunio, felly, yn ystod y pandemig, cychwynnais fusnes yn dylunio logos. Ers hynny mae wedi tyfu’n gyson a dydw i ddim wedi cael unrhyw broblem yn cyfuno fy ymrwymiad i’r busnes a chanolbwyntio ar ragori yn fy astudiaethau yn y coleg. Dw i wrth fy modd gyda phopeth creadigol, felly, i mi, mae astudio trin gwallt, coluro a phrostheteg yn opsiwn delfrydol. Dw i’n eiddgar i gychwyn arni!
Breuddwyd Tayla yn y pen draw ydy gweithio o fewn timau coluro a steilio ar gyfer dramâu cyfnod ar y teledu a ffilm.
Ychwanegodd: “Fy swydd ddelfrydol fyddai gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu , yn benodol o fod yn steilydd gwallt a choluro ar gyfer dramâu cyfnod. Dw i’n caru’r modd y gall y gwaith hwn fod mor drawsnewidiol a’r rhyddid y byddai’n ei roi i mi weithio ar brosiectau amrywiol – mae hynny’n wir apelio ata i.
“Dw i wrth fy modd gyda’r syniad o weithio ar y cyd i greu edrychiad penodol y bydd cymaint o bobl yn ei weld, a gyda’r math hwn o waith, mae cyfle i deithio sy’n ddeniadol iawn.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




