Technegydd coleg yn helpu creu amddiffynwyr wyneb hanfodol i weithwyr rheng flaen

Mae technegydd o Goleg y Cymoedd wedi bod yn creu amddiffynwyr wyneb yn ei gartref ei hun i gefnogi gweithwyr allweddol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Ymunodd Will Thomas, Technegydd y Diwydiannau Creadigol sy’n gweithio ar gampws Nantgarw, â menter a sefydlwyd gan Dimitris Pletsas a Robert Venus o Amman Valley MakersSpace (cyfleuster cymunedol gwledig a sefydlwyd gan Gyngor Tref Cwmaman sy’n cynnig mynediad at dechnolegau modern a chrefftau traddodiadol) i greu cyfarpar diogelu ar gyfer staff rheng flaen gan ddefnyddio argraffwyr 3D.

Gan ddefnyddio argraffwyr 3D o adran greadigol Coleg y Cymoedd, mae Will wedi helpu creu mwy na 100 o amddiffynwyr wyneb y gellir eu hailddefnyddio, ar gyfer staff ysbytai, gweithwyr cartrefi gofal a gweithwyr Coleg y Cymoedd.

Mae Amman Valley MakersSpace, a sefydlwyd tair blynedd yn ôl yng Nglanaman, yn gyfleuster dylunio a chreu creadigol, sy’n rhoi mynediad i drigolion lleol at offer o’r radd flaenaf i weithio ar ystod o brosiectau a gweithgareddau creadigol, o grefftau coed traddodiadol i ddatblygu cod cyfrifiadur ar gyfer robotiaid. Nod y cyfleuster, sydd hefyd yn cynnig dosbarthiadau a grwpiau i gefnogi datblygu sgiliau ledled De a Gorllewin Cymru, yw cynyddu mynediad cymunedol at Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM).

Yn dilyn yr achosion o Covid-19, defnyddiodd MakersSpace ei arbenigedd a’i sgiliau gweithgynhyrchu i ddylunio a datblygu amddiffynwyr wyneb ar gyfer gweithwyr allweddol. Daeth yn rhan o fenter ‘F3D Innovation Frontline 3D Print Farms’ – cynllun sy’n dwyn ynghyd sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat ynghyd â grwpiau cymunedol i ddatblygu cyfarpar diogelu personol gan ddefnyddio eu hoffer argraffu 3D eu hunain.

Galwodd y MakersSpace ar i unrhyw un ag argraffydd 3D gymryd rhan a dod yn rhan o rwydwaith argraffu 3D cenedlaethol ehangach i gynhyrchu’r fisorau diogelu gan ddefnyddio dyluniad cymeradwy.

Gwirfoddolodd dros 40 o ‘ffermydd argraffu’ eu sgiliau a’u gwasanaethau, gyda’r ffermydd yn amrywio o unigolion ag argraffwyr 3D gartref i golegau a chwmnïau cyfan yn rhoi’r gorau i’w gweithgareddau arferol er mwyn cynhyrchu amddiffynwyr wyneb.

Diolch i gydweithrediad ffermydd argraffu ledled y wlad, mae dros 11,000 o’r amddiffynwyr wyneb wedi’u cynhyrchu hyd yma. Dosbarthwyd y fisorau i nyrsys, staff cartrefi gofal, byrddau iechyd a gweithwyr allweddol eraill ledled y rhanbarth yn ogystal ag i bobl agored i niwed a’r rhai sy’n hunan-ynysu.

Ar ôl byw yn yr ardal am 20 mlynedd, roedd Will yn gyfarwydd â MakersSpace ac roedd yn ysu i gymryd rhan pan welodd y galw  cychwynnol. Meddai Will: “Pan ddechreuodd yr achosion o Covid-19 a phan y soniwyd yn eang am brinder cyfarpar diogelu, roeddwn i eisiau gwneud yr hyn a allwn i helpu. Pan glywais am y fenter argraffu 3D, roeddwn i’n gwybod y gallem ddefnyddio offer y coleg i wneud gwahaniaeth.

“Mae menter Amman Valley MakersSpace yn wych, ac rydw i mor falch fy mod i wedi cymryd rhan. Mae’r amddiffynwyr rydym wedi’u creu fel cymuned wedi mynd yn syth at y rhai sydd eu hangen, gan helpu i’w gwarchod yn gyflym.”

Fe’u crëir gan ddefnyddio prif ddarn pen 3D a argraffir wedi’i gyfuno â deunyddiau eraill (sgriniau asetad a bandiau elastig). Mae’r amddiffynwyr wyneb yn gyflym, yn hawdd ac yn gymharol rad, yn ogystal â bod yn hawdd eu glanhau a’u diheintio. Cymeradwywyd y dyluniad, a ddatblygwyd gan aelodau o Amman Valley MakersSpace, gan beirianwyr clinigol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i’w ddefnyddio mewn amgylcheddau meddygol.

Dywedodd Robert Venus, sy’n rhedeg cynllun Dyffryn Aman “Mae’r fenter Fferm Argraffu 3D wedi dangos pŵer creadigrwydd a chydweithio. Mae’n anhygoel gweld faint o amddiffynwyr sydd wedi’u creu mewn cyfnod byr ac rwy’n ddiolchgar i’r holl ffermydd argraffu sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, gan gynnwys Coleg y Cymoedd.

“Mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gellir defnyddio technoleg argraffu, dylunio ac arloesi 3D i gynnig atebion y mae eu hangen ar frys ar staff meddygol a gofal rheng flaen yn ystod argyfwng Covid 19. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i leddfu’r pwysau ar gadwyni cyflenwi ac awdurdodau lleol, gan sicrhau bod offer mawr ei angen ar gael ar fyr rybudd.“

Mae gennym rai prosiectau mwy cyffrous rydym yn gweithio arnynt ac yn awyddus i ddechrau. Rydym yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o weithio gyda’r coleg ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau