Mae bachgen ifanc yn ei arddegau o’r Coed Duon ar y ffordd i wireddu ei freuddwyd o fod yn fferyllydd ar ôl ennill rhagoriaeth* yn ei gymhwyster gwyddoniaeth gymhwysol yng Ngholeg y Cymoedd, gan sicrhau ei le ar gyfer astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Glasgow.
Datblygodd Thomas Morgan, 19 oed, frwdfrydedd dros bynciau Bioleg a Fferylliaeth yn ystod ei astudiaethau yn y coleg ac wrth ei fodd yn gwneud arbrofion yn y labordy. Roedd e wedi’i gyfareddu gyda’r modd y mae’r corff yn ymateb i gynhyrchion fferyllol a phenderfynodd mai dyma fyddai ei lwybr: Dywedodd “Ymchwiliais i ba yrfa oedd yn bosibl i mi a des ar draws Fferylliaeth gan ei fod yn gyfuniad perffaith o Gemeg a Bioleg. Dw i’n credu mai hwn ydy’r llwybr gorau a allai fy helpu i gael effaith ar fywydau pobl.”