Cwblhaodd Thomas Eyre, 22, sy’n dod yn wreiddiol o Goed Duon ond sydd bellach yn byw yn Ninbych-y-pysgod, ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol yng Ngholeg y Cymoedd. Dewisodd y cwrs gan fod ganddo ddiddordeb ym mhob agwedd ar beirianneg ac mae gan y coleg enw da am gyflwyno sgiliau peirianneg.
Sefydlodd y brentisiaeth etheg waith dda ac amlygodd bwysigrwydd gweithio mewn tîm, ochr yn ochr â’r agweddau technegol. Hefyd, roedd yn gyfle i ddefnyddio sgiliau datrys problemau mewn amgylchedd heriol.
Ar hyn o bryd mae Thomas yn gweithio fel Technegydd Peirianneg Goleudy gyda Trinity House lle mae’n gyfrifol am agweddau peirianneg drydanol a mecanyddol yr holl oleudai a chymhorthion mordwyaeth ar arfordir gorllewinol y DU. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau ar y tir ac ar y môr mewn mannau anghysbell ysblennydd.
Wrth siarad am ei brentisiaeth dywedodd Thomas “Byddwn yn argymell Coleg y Cymoedd a phrentisiaethau i bobl eraill. Mae’n cynnig cyfleoedd gwych i allu astudio mewn amgylchedd diogel da, gyda chyfleusterau peirianneg da iawn a staff cefnogol sydd â chefndir ym maes peirianneg. Mae’r brentisiaeth wedi rhoi’r cyfle gwych hwn imi gael gyrfa yn yr amgylchedd rwy’n ei fwynhau ac yn ffynnu ynddo.”