Tiwtor Busnes Yng Ngholeg y Cymoedd ar restr fer i dderbyn gwobr genedlaethol

Mae tiwtor busnes yng Ngholeg y Cymoedd ar restr fer i dderbyn gwobr genedlaethol sy’n dathlu ysbrydoliaeth yn y sector addysg.

Dewiswyd Kim Purnell, sy’n gweithio ar gampws Nantgarw, yn un o’r tri olaf yn Seremoni Gwobrau Addysgu Ysbrydoledig Addysg ‘New Directions’.

Sefydlwyd y Gwobrau Addysg Ysbrydoledig (The Inspirational Teaching Awards) i anrhydeddu staff yn y sector addysg sy’n mynd tu hwnt i’w cylch gorchwyl.

Bydd y rhestr fer yn mynd ymlaen i gynrychioli’r ardal yn y rownd derfynol yng Nhaerdydd ar Fehefin 19 yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd.

Meddai Kim, pan glywodd hi’r newydd ei bod hi ar y rhestr fer: I mi, mae’n anrhydedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon. Rydw i wedi bod yn ffodus i gael cefnogaeth ac anogaeth cydweithwyr, rheolwyr a’r dysgwyr eu hunain. Rydw i’n edrych ymlaen i gwrdd â’r rhai eraill sydd wedi eu henwebu a chlywed eu hanesion fydd yn fy ysbrydoli.”

Yn 2014 Phil Steele, y darlledwr a chyn athro ysgol, oedd yn cyflwyno’r seremoni lle roedd dros 250 o gynrychiolwyr yn bresennol

Dywedodd Gary Williams, cyfarwyddwr datblygiad busnes New Directions: “Yn 2014 roedd safon y cystadleuwyr yn un roeddwn i’n meddwl oedd yn anodd i’w churo.

“Ond mae’n braf bod yn anghywir eleni. Mae cydweithwyr, rhieni a disgyblion o bob cwr o’r wlad wedi dod at ei gilydd i drafod a dathlu staff eithriadol yn eu hysgolion a’u colegau.”

Derbyniwyd dros 150 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau gan ysgolion cynradd, uwchradd, anghenion dysgu arbennig a sefydliadau addysg bellach, o bob ran o’r wlad.

Cynhelir yr achlysur eleni Ddydd Gwener, Mehefin 19, yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd.

Cyflwynydd y noson fydd y darlledwr, y comedïwr a’r cyn-athro yn Ysgol Gyfyn y Barri – Chris Corcoran.

Bydd y gwesteion yn cael cinio tri chwrs yng nghwmni cydweithwyr a phobl broffesiynol o ystod eang o sefydliadau.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau