Teithiodd un ar bymtheg o ferched sy’n ddysgwyr ar ddau gampws Coleg y Cymoedd yn Nantgarw ac Ystrad Mynach i gae pêl-droed Merthyr Tudful yn ddiweddar i gystadlu yng Ngŵyl Pêl-droed Colegau Cymru.
Roedd yr Ŵyl yn gyfle i hyfforddwyr Colegau Cymru weld y talentau sydd ar gael ar gyfer Tîm Cenedlaethol Colegau Cymru, ac fe ddewiswyd dwy o blith chwaraewyr Coleg y Cymoedd.
Mae Abbie Davies ac Alisha Northmore ymhlith y rhai sydd i fod yn narpar Sgwad Colegau Cymru. Mae Abbie Davies (18) o Fargod ar hyn o bryd yn astudio Diploma Cenedlaethol Chwaraeon ar gampws Ystrad Mynach ac mae’n gobeithio am yrfa ym maes Hyfforddi Chwaraeon. Yn ôl Abbie: “Roeddwn i’n hynod falch o gael fy newis i’r sgwad rhagbrofol a rydw i’n ysu i gael cychwynâ€.
Roedd ei chyd aelod o’r tîm, Alisha Northmore (17) o Gaerdydd hefyd yn astudio Diploma Cenedlaethol Chwaraeon ond ar gampws Nantgarw ac mae ganddi hi uchelgais i fod yn athrawes mewn Ysgol Uwchradd. Yn ôl Alishia: Roeddwn i’n ei chyfri’n fraint ac anrhydedd i gael fy ystyried i chwarae yn Nhîm Colegau Cymru”.
Yn ôl eu tiwtor, Mark Davies, sy’n hyfforddi’r dysgwyr ac oedd wedi mynd gyda nhw i’r ŵyl: “Roedd yn brofiad da i’n dysgwyr, gyda llawer ohonyn nhw’n chwarae pêl-droed cystadleuol am y tro cyntaf erioed. Brwydrodd y sgwad yn hynod galed ac arddangos sgiliau pêl-droed addawol, er gwaetha’r tywydd gwael, oedd yn cynnwys cesair a tharannau! Dangosodd yr holl ddysgwyr sgiliau chwarae mewn tîm a sbortsmonaeth ac roedden nhw’n gredyd i’r coleg.
“Mae’r Coleg wedi ymhyfrydu cyn hyn mewn timau pêldroed a rygbi i ddynion; y gobaith ydy y bydd hyn yn gychwyn cyfnod amlwg i chwaraeon merched yn y coleg. Gobeithio bydd rhagor o’n dysgwyr yn cael eu hysbrydoli gan lwyddiant Abbie ac Alisha i gymryd rhan yn y dyfodol.â€
Bydd treialon cenedlaethol Colegau Cymru’n cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd. Os bydd Abbie ac Alisha yn cael eu dewis i chwarae i’r Sgwad, fe fyddan nhw’n cael cyfle i ‘ennill cap’ yn erbyn timau fel Awstralia a Lloegr.
“