Mae dau o diwtoriaid Coleg y Cymoedd yn codi arian gyda’u dysgwyr at achos sydd yn bwysig iddyn nhw yn bersonol ac yn broffesiynol ac mae’r ddau wedi cofrestru i redeg ym marathon Llundain.
Mae Ange Fitzgerald a Craig Thomas, dau diwtor Mynediad Galwedigaethol, yn rhedeg i godi arian at elusen sy’n helpu pob ag awtistiaeth, a phobl ag anawsterau ac anableddau dysgu.
Yn ogystal ag hyfforddi’n galed, bu’r tiwtoriaid wrthi’n trefnu digwyddiadau codi arian y gall eu dysgwyr hefyd gymryd rhan ynddyn nhw. Ymhlith y gweithgareddau a drefnwyd gan y dysgwyr roedd gwerthu cacennau a boreau coffi ar y campws a llwyddwyd i wneud elw.
Mae’r tiwtoriaid a’r dysgwyr yn codi arian ar elusen ‘Kith & Kids’ sy’n darparu gweithgareddau, cyfleoedd, gwybodaeth a chymorth ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu neu awtistiaeth, eu rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd.
Dywedodd y tiwtor, Ange Fitzgerald: “Rydyn ni mor falch o ymrwymiad y dysgwr i’r gwahanol ddigwyddiadu codi arianâ€.
Dywedodd Craig Thomas: “Mae’r dysgwyr wedi rhoi llawer o’u hamser ac ymdrech i gynllunio a pharatoi pob digwyddiad. Mae’n golygu llawer o hyfforddiant ond bydd yn werth chweil oherwydd ei fod yn achos mor deilwng.â€
Ychwanegodd Meurig Gullidge, dysgwr o Bentre’r Eglwys, “Rydyn ni wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau codi arian. Mae hefyd wedi helpu gydag adran gwirfoddoli ein Gwobr Dug Caeredin.â€
Os ydych yn dymuno cyfrannu at ymdrechion Ange a Craig i godi arian at yr achos da ewch i:
http://uk.virginmoneygiving.com/team/ChrissieandAnge6 neu http://www.virginmoneygiving.com/CraigThomas6