Tiwtoriaid yn canmol llwyddiant anhygoel y dysgwyr

Mae staff Gofal yng Ngholeg y Cymoedd yn falch iawn o lwyddiannau grŵp o ddysgwyr sy’n astudio’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant ar gampws y Rhondda.

Dywedodd Tiwtor y Cwrs Kelly Tanner Mae gan y Coleg enw rhagorol yn y Sector Gofal ac mae hyn yn enghraifft wych arall o safon ein dysgwyr. Mae pob un o’r tri ar ddeg o ddysgwyr wedi gweithio’n eithriadol o galed dros y flwyddyn ddiwethaf; mae’n gwrs heriol sy’n cynnwys ystod o asesiadau mewnol ac allanol.

Fel tîm, rydym i gyd yn hynod o falch o’r dysgwyr sydd wedi cyflawni graddau cyfwerth â 4 Gradd A Safon Uwch; a llawer ohonynt wedi eu derbyn mewn amrywiaeth o brifysgolion. Dymunwn bob hwyl iddynt yn eu hastudiaethau yn y dyfodol “.

Mae Julie James yn un o’r grŵp sy’n dathlu llwyddiant. Cofrestrodd Julie ar gwrs Lefel Mynediad ar gampws y Rhondda, heb unrhyw gymwysterau ffurfiol ond gyda phenderfyniad i lwyddo aeth ymlaen o lefel 1 i 2 i 3 i’r Diploma Estynedig. Drwy gydol y cwrs, mae Julie ynghyd â’r dysgwyr eraill wedi cyfuno astudio ychwanegol ar gyfer TGAU Mathemateg a Saesneg ochr yn ochr â’u prif gymhwyster.

Wrth siarad am ei chanlyniadau dywedodd Julie “Pan ddechreuais i yn y coleg wnes i erioed feddwl y byddwn yn gadael i astudio Rhaglen Radd. Cofrestrais heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, ac er ar adegau, mae wedi bod yn galed, rhaid imi ddweud diolch yn fawr iawn i’r staff yn y coleg am eu cefnogaeth a’u hamynedd; heb eu cymorth fyddwn i ddim wedi bod yn symud ymlaen i gwrs Gradd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau