Torfeydd yn ymgasglu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wrth i arddangosfa Coleg y Cymoedd, Y Cynfas Byw, brofi’n llwyddiant ysgubol

Ddydd Sul, 26 Mawrth, daeth aelodau’r cyhoedd i neuaddau’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i fwynhau arddangosfa gelfydd ‘Y Cynfas Byw’, lle daeth dysgwyr Coleg y Cymoedd sydd yn eu blwyddyn olaf yn astudio gradd Llunio Gwisgoedd â’r portreadau ar waliau’r oriel yn fyw.

Am yr eildro ers 2020, estynnodd yr Amgueddfa Genedlaethol wahoddiad i fyfyrwyr gyflwyno’u creadigaethau o wisgoedd roedden nhw wedi’u dehongli ar sail paentiadau hanesyddol yng nghasgliad yr Amgueddfa.

Roedd yr arddangosfa wych yn ben llanw misoedd o waith ymchwil a dylunio, gan wireddu syniad Arweinwyr y Wobr Llunio Gwisgoedd, sef Caroline Thomas ac Emma Embling. Roedd modelau yng ngwisgoedd y myfyrwyr wedi’u gosod o flaen eu portreadau tebyg enwog, gan gynnig profiad gwirioneddol drochol i’r cyhoedd.

Bu’r myfyrwyr yn sgwrsio am eu gwaith, a chafwyd gorymdaith o’r gwisgoedd a chystadleuaeth ‘gorau yn y sioe’ a gafodd ei beirniadu gan y Cynllunydd Gwisgoedd uchel ei barch, Ray Holman, o Doctor Who a’r BBC.

Wrth siarad am lwyddiant y diwrnod, meddai Caroline Thomas: “Yn ddieithriad, cynhyrchodd pob myfyriwr ddehongliad syfrdanol o’u paentiad ar gyfer model unigol. Roedd gwaith ymchwil ac ymchwilio trylwyr i’r toriad, y lluniad a’r defnyddiau priodol yn llywio eu penderfyniadau ac yn dangos y lefel uchaf o sgiliau. 

Roedd y myfyrwyr yn ymddwyn yn hyderus ac yn broffesiynol. Buon nhw’n sgwrsio â’r cyhoedd drwy gydol y dydd ac yn siarad yn wybodus am y gwisgoedd hardd roedden nhw wedi’u creu.

Roedd yn ddiwrnod gwirioneddol ysbrydoledig a llwyddiannus ac yn dod â chelf yn fyw yng Nghaerdydd!”

Bu pobl yn rhannu eu barn ar y cyfryngau cymdeithasol gydag adolygiadau fel ‘hyfryd’ a ‘syfrdanol’. I gyd-fynd â hyn cafwyd fideo byr yn crynhoi’r digwyddiad a ddenodd sylw eang gan ddefnyddwyr a wnaeth sylwadau ar y ‘syniad gwych’ ar gyfer y prosiect a ‘gwaith syfrdanol’ y myfyrwyr. Hyd yma, mae’r fideo wedi cyrraedd degau o filoedd o wylwyr ar Instagram yn unig.

Meddai Cecilia De Menezes, un o’r chwe myfyriwr a gymerodd ran yn yr arddangosfa, mai dyma oedd eu hoff brosiect o’r cwrs hyd yn hyn: “O’r cyfnod creu patrymau hyd at y digwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae wedi bod yn hynod ddiddorol ac yn hwyl.


Roedd y digwyddiad ei hunan yn gyfle anhygoel ac yn brofiad dysgu enfawr. Er ei bod ychydig yn frawychus sefyll o flaen pawb a siarad am fy ngwisg, roedd y gefnogaeth ges i gan staff yr amgueddfa yn ogystal â fy nhiwtoriaid cwrs a chyd-ddisgyblion yn galonogol iawn.”

Ychwanegodd Victoria Herbert: “Ie, hwn oedd un o fy hoff brosiectau hyd yma, hefyd. Rydw i’n falch o fy ngwisg ac roedd fy model yn wych drwy gydol y digwyddiad cyfan. Mae pawb yn ein dosbarth mor gefnogol i’w gilydd – allwn i ddim fod wedi gofyn am well tîm i weithio gyda nhw.”

Meddai Ivy Hible, enillydd teitl ‘Gorau yn y Sioe’ yr arddangosfa: “Ro’n i wrth fy modd gyda rhan ymchwil y modiwl yma, roedd cael archwilio’r dillad sydd wedi goroesi yn Amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd yn gyffrous iawn. Roedd gan bob dilledyn ei stori ei hunan, ac roedd yn ddefnyddiol gweld sut roedd dillad o gyfnod fy mheintiad yn cael eu creu.

Rydw i’n angerddol iawn am wisgoedd hanesyddol ac rydw i’n gobeithio arbenigo yn hyn ar ôl i fi raddio, naill ai yn y diwydiant llwyfan neu sgrin. Roedd hi’n hyfryd bod fy nehongliad wedi cael ei ddewis fel yr enillydd. Fydden i ddim wedi gallu ei wneud heb anogaeth fy nhiwtoriaid, Emma a Caz, mae’r ddwy wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi helpu i fagu fy hyder drwy gydol fy amser ar y cwrs.”

Cwrs tair blynedd yw’r cwrs BA (Anrh.) Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd sy’n cael ei ddyfarnu gan Brifysgol De Cymru. Mae myfyrwyr yn astudio gwisgoedd hanesyddol a chyfoes, ac yn datblygu sgiliau arbenigol fel torri patrymau, creu gwisgoedd ac addurno arwynebau.

I ddysgu rhagor am y cwrs BA (Anrh.) Creu Gwisgoedd yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i:

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau