Mae dysgwyr trin gwallt sy’n astudio ar gampws Ystrad Mynach wedi bod yn rhagweithiol yn y gymuned trwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi nifer o brosiectau teilwng. Dechreuodd yr ymweliadau hyn dros y 4 blynedd diwethaf ac maent wedi bod yn fuddiol i’r gymuned a’r dysgwyr.
Mynychodd y dysgwyr Lefel 2 a 3 Ysbyty Ystrad Mynach, Hosbis Dewi Sant ac Eglwys Sant Andrew yn cynnig gwasanaethau trin gwallt a barbro. Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan y dysgwyr yn gwneud i’r cleifion deimlo’n dda a hefyd yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ennill sgiliau ymarferol a fydd yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth o yn y diwydiant neu ar gyfer sefydlu eu busnes eu hunain.
Daethpwyd o hyd i sefydliad newydd ar gyfer carfan eleni, a fydd, yn seiliedig ar ei lwyddiant, hefyd yn dod yn rhan reolaidd yn amserlen y dysgwyr – United Welsh Residential Housing.
Dywedodd y Tiwtor Joanne Harris Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r sefydliadau dan sylw am roi cyfle i’r dysgwyr ennill profiad wrth astudio yn y coleg. Mae’n bwysig eu bod yn gallu rhoi’r hyn y maent yn ei ddysgu yn y coleg ar waith yn y byd go iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sefydliadau yn y flwyddyn academaidd newydd.
Â
“