Tymor ennill gwobrau yng Ngholeg y Cymoedd

Dewiswyd tri o ddysgwr Coleg y Cymoedd i chwarae dros sgwad rygbi Cymru dan 20 oed ar gyfer Gemau’r Chwe Gwlad.

Dewiswyd Liam Belcher, Dillon Lewis a Seb Davies sy’n flaenwyr ac yn hyfforddi gydag Academi Gleision Caerdydd i gynrychioli eu gwlad ar y tîm Dan 20 oed. Roedd y tri yn rhan annatod o raglen rygbi elît Coleg y Cymoedd rhwng 2012 a 2104 tra’n astudio ar Gampws Nantgarw.

Mae staff llwybr rhyngwladol yr Undeb Rygbi Cymru wedi dethol sgwad o 32 ar gyfer Gemau’r Chwe Gwlad nesaf dan arweiniad Rory Thornton, clo’r Gweilch,

Y gêm gyntaf yng nghyfres y Chwe Gwlad fydd gêm gartref ym Mharc Eirias yn erbyn Lloegr Nos Sadwrn, Chwefror 7 (am 7.30pm).(

Dywedodd Allan Lewis, rheolwr hyfforddi’r Academi Cenedlaethol ac a fydd yn cydlynu hyfforddiant y tîm, Mae gennym grŵp o fechgyn ifanc a chyffrous ynghyd â rhai chwaraewyr profiadol o’r tymor diwethaf.

“Mae gennym athroniaeth glir ar hyfforddi a chwarae sy’n sail i’n nod o ddatblygu chwaraewyr galluog a chyflawn yn y pen draw ar gyfer yr uwch dîm cenedlaethol. Yn amlwg mae’r agweddau hyn yn cymryd amser i’w datblygu ond mae rheolaeth y gêm, arwain y broses o wneud penderfyniadau a gwella sgiliau o dan bwysau yn rhan alweddol o hynny”

“Bydd Lloegr yn her fawr, a hwythau’n bencampwyr byd ddwywaith ond yn sialens y byddwn yn ei mwynhau a’i chofleidio.

Ychwanegodd John Phelps, Dirprwy Bennaeth yng Ngholeg y Cymoedd “Rydyn ni wrth ein bodd bod ein dysgwyr wedi cael eu dewis i sgwad dan 20 oed Cymru. Mae’n gyfle gwych ac yn brofiad ardderchog iddyn nhw gael cynrychioli eu gwlad. Gobeithio mai rhagflas ydy hwn o’r hyn fydd yn yrfa broffesiynol lwyddiannus i’r chwaraewyr talentog hyn.”

 

Anogir cefnogwyr i brynu tocynnau ar gyfer y gemau hyn yn fuan i osgoi gael eu siomi. Mae’r tocynnau ar gyfer y ddwy gêm gêm ar werth nawr ar wefan swyddogol Undeb Rygbi Cymru – y WRU (wru.co.uk/tickets), o venuecymru.co.uk, drwy ffonio 01492872000 neu alw i mewn yn bersonol yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn a Venue Cymru, Llandudno.

Mae’r prisiau wedi’u rhewi am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae hynny’n golygu mai £15 ydy pris sedd a £10 ydy pris tocyn sefyll ar y teras gyda thocynnau ar gyfer pobl ifanc o Dan 16 a Phensiynwyr yn £5.

Mae lletygarwch ar gael am £100 y person (yn cynnwys TAW) gan Richard Orme: 01492 577914, richard.orme@eirias.org.uk a bydd y ddwy gêm yn fyw ar y teledu gyda gêm Lloegr yn cael ei dangos ar S4C a gêm Iwerddon ar BBC Cymru-Wales.

Gemau Cartref Cymru Dan 20 yng nhyfres y Chwe Gwlad:

Cymru v Lloegr Sad 7 Chwefror 2015 7.30pm (S4C)

Cymru v Iwerddon Gwener 13 Mawrth 2015 7.45pm (BBC Cymru-Wales)

Sgwad Cymru dan 20 ar gyfer cyfres y Chwe Gwlad:

Blaenwyr:

Luke Garrett (Dreigiau), Harrison Walsh (Gweilch), Dillon Lewis (Y Gleision), Alex Jeffries (Y Dreigiau), Joe Jones (Y Gleision), Ryan Elias (Y Sgarlets), Liam Belcher (Y Gleision), Torin Myhill (Y Sgarlets), Joe Davies (Y Dreigiau), Rory Thornton (Y Gweilch), Adam Beard (Y Gweilch), Seb Davies (Y Gleision), Tom Phillips (Y Sgarlets), Ollie Griffiths (Y Dreigiau), Harrison Keddie (Y Dreigiau), Jordan Viggers (Y Gleision), Rory Bartle (Caerloyw)

Olwyr:

Tom Williams (Y Gleision), Kieran Hardy (Y Sgarlets), Owen Davies (Y Dreigiau), Daniel Jones (Y Sgarlets), Callum Sheedy (Bryste), Garyn Smith (Y Gleision), Tyler Morgan (Y Dreigiau), Owen Watkin (Y Gweilch), Danny Cross (RGC), Barney Nightingale (Y Dreigiau), Joshua Adams (Y Sgarlets), Rhys Williams (Caerlyr), Elis-Wyn Benham (Y Gleision), James Whittingham (Y Gleision), Dafydd Howells (Y Gweilch).

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau