Mae’r Uwch Dîm Arwain yn y Coleg, yn cydnabod y rhwystrau y mae pobl LHDT yn eu hwynebu yn aml. Gwyddom y gall darparu gwasanaeth gyda dealltwriaeth o brofiadau LHDT wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl LHDT.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae’r coleg wedi cyflawni’r canlynol dros gydraddoldeb LHDT:
– Safle 202 ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall (cynnydd o 162 safle o’i gymharu ag y llynedd)
– Sefydlu rhwydwaith Staff LHDT + Coleg (Amity)
– Datblygu ystod o bolisïau a dogfennau cyfarwyddyd sy’n cefnogi ein staff a dysgwyr LHDT, gan gynnwys gwybodaeth am sut y gall pob un ohonom fod yn gynghreriad i’n cydweithwyr.
– Cyd-gynnal Rhaglen Cynghreriaid Traws gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, a drefnwyd gan Stonewall
– Cyfranogi mewn ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth
– Parhau i gydweithio â Pride Cymru a Stonewall
– Cyfranogiad ym Mhenwythnos Mawr Pride, Caerdydd (25 a 26 Awst).
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth: Hoffwn ddiolch i’n holl weithwyr am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i sicrhau bod pob unigolyn LHDT yn cael eu derbyn yn ddieithriad yn ein Coleg, fel lle i weithio ac astudio.
Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd pawb a’n hymglymiad parhaus â Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall.
“