Uwchgylchu ’boutique chic’ yn llwyddiant ar y llwyfan ffasiwn

Mae bachgen ifanc o Bontyrpidd wedi arwyddo i chwarae gyda thîm cyntaf Gleision Caerdydd ar ôl iddo ddod i sylw’r hyfforddwyr.

Ar ôl llwyddiant yn academi hyfforddi nodedig y Gleision, bydd Jarrod Evans, 18 oed, yn ymuno â’r tîm cyntaf a bydd yng nghwmni enwogion y gêm megis Sam Warburton ac Adam Jones.

Tra’n astudio yng Ngholeg y Cymoedd, mynychodd Jarrod Academi’r Gleision lle datblygodd ei sgiliau rygbi o dan lygaid barcud hyfforddwyr arbenigol. Mae’r academi hefyd yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael eu paratoi’n academaidd rhag ofn na wireddir eu gyrfa ym maes rygbi. Anogwyd y dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwaith tîm a phenderfyniad, sgiliau a fydd o fudd iddyn nhw lwyddo ym maes cyflogaeth, ym maes rygbi proffesiynol neu mewn prifysgol.

Dywedodd Jarrod, “Mae rygbi wedi bod yn rhywbeth arbennig yn fy mywyd erioed. Dw i wedi bod yn chwarae er pan o’n i’n ifanc iawn ac wedi gwneud ffrinidau da ar hyd y daith. Yng Nholeg y Cymoedd, roedd sgwad cryf iawn ‘da ni a chwaraeon ni yn erbyn timoedd da o golegau eraill ac roedd hynny’n brofiad gwych.

“Roedd yr hyfforddwr yn mynnu ein bod yn cadw’n ffit a chanolbwyntio ar y gêm a hefyd ein hannog i wneud yn dda yn rhan acadeamidd o’r cwrs, gan bwysleisio pa mor bwysig ydy addysg dda. Pan ofynnodd Gleision Caerdydd i mi ymuno â’r tîm, d’on i ddim yn gallu credu’r peth; wnes i erioed ddychmygu y byddwn i yn y sgwad yn chwarae ochr yn ochr â rhai o fawrion Cymru – gwireddu breuddwyd.”

Dechreuodd diddordeb Jarrod mewn rygbi yn ei glwb lleol lle dringodd y rhengau o’r tîm mini i’r tîm iau ac yn y pen draw i chwarae i dîm cyntaf Pontypridd. Mae dawn a gallu’r maswr wedi tynnu sylw dewiswyr – mae Jarrod wedi cael ei ddewis eisoes i chwarae dros dîm dan 18 Cymru.

Ychwanegodd John Phelps, Dirprwy Bennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r coleg yn hynod o falch i weithio mewn partneriaeth gyda Gleision Caerdydd ac wrth ein bodd bod un o’n dysgwyr wedi’i ddewis ar gyfer sgwad eu tîm cyntaf rhanbarthol. Fel cefnogwr selog, dw i wedi dilyn y sgwad ers i ni ffurfio tîm yr academi yn y coleg a synnu at safon y chwarae ac ymroddiad y chwaraewyr ifanc.

“Roedd Jarrod yn chwaraewr allweddol erioed ac yn seren ar y maes, ynghyd â chwaraewyr da iawn eraill megis Liam Belcher, Dillon Lewis, Seb Davies, Matthew Marley a Rob Lewis. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo fe ac i eraill sy’n symud ymlaen o dîm y coleg ac yn sicr byddwn dilyn eu gyrfaoedd yn agos iawn.

Dywedodd Richard Hodges, hyfforddwr amddiffyn a Pherfformiad URC ar gyfer y Gleision, “Mae ein hyfforddwr wedi cadw llygad ar Jarrod yn ystod ei amser yng Nholeg y Cymoedd ac Academi’r Gleision a gweld bod potensial iddo fel chwaraewr. Mae ei ymroddiad a’i ymrwymiad heb eu hail a dw i’n sicr bod dyfodol disglair o’i flaen. Rydyn ni wrth ein bodd ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno â’r Gleision.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau