Wedi cael llond bol ar gerau diffygiol? Coleg yn lansio cwrs cynnal a chadw beiciau newydd ar gyfer dysgwyr galwedigaethol

Mae Ysgol Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd wedi lansio cynllun cynnal a chadw beiciau newydd sbon i helpu staff a dysgwyr gyda phroblemau’n ymwneud â beiciau.

Cyflwynir y cwrs mewn ymateb i niferoedd cynyddol o staff a dysgwyr yn seiclo i’r coleg, a  bydd tri dysgwr galwedigaethol yn datblygu sgiliau mewn cynnal a chadw beiciau ac yna’n cynnig eu gwasanaethau yn wirfoddol.

Fel rhan o’r rhaglen, bydd staff a dysgwyr yn gallu dod â’u beiciau at y dysgwyr ar gampws Nantgarw a bydd aelod o staff cymorth Mynediad Galwedigaethol a’r seiclwr brwd, Andrew Robinson, wrth law i helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Bydd y dysgwyr yn gallu cynnig ystod o wasanaethau cynnal a chadw beiciau cyffredinol o iro cadwyni i wirio gerau, breciau, cyrn a rhannau symudol.

Mae’r tri dysgwr sy’n ymwneud â’r cynllun, Kai John Ward, Chad Davies a David Evans, i gyd yn cwblhau’r cwrs fel rhan o adran sgiliau a gwirfoddoli gwobr Dug Caeredin. Gyda chyfyngiadau Covid yn gwneud llawer o gyfleoedd gwirfoddoli yn anodd, creodd Valerie Smith, cydlynydd ac arweinydd cynllun Dug Caeredin, y cwrs cynnal a chadw beiciau gyda chefnogaeth Pennaeth yr Ysgol, Al Lewis, fel modd o gyflawni elfen hon y wobr wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr.

Daw lansiad y cwrs wrth i Goleg y Cymoedd barhau i annog aelodau o gymuned y coleg i seiclo i’r campws. Mae’r coleg wedi datgelu cynllun seiclo i’r gwaith pwrpasol ar gyfer staff gyda chefnogaeth Cycle Solutions. Fel rhan o’r fenter, bydd staff yn derbyn cymorth ariannol i brynu beic newydd gyda Cycle Solutions, gyda chymhorthdal ar gyfer canran o’r gost.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd â menter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru sy’n ceisio annog unigolion i ‘Deithio’n Llesol’ drwy gerdded a seiclo i wella eu hiechyd a’u lles meddyliol, sydd o fantais i’r amgylchedd hefyd.

Dywedodd Valerie Smith, darlithydd yn Ysgol Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd: “Gyda mwy o staff a dysgwyr yn dewis seiclo i’r coleg, ni allai ein cwrs cynnal a chadw beiciau fod wedi dod ar amser gwell. Bydd cael gwasanaethau cynnal a chadw ar y safle yn amhrisiadwy i’r beicwyr yn ein coleg.

“Hefyd, bydd y cwrs o fantais i’r tri dysgwr sy’n cymryd rhan yn uniongyrchol, gan eu helpu i ddatblygu sgil alwedigaethol newydd yn ogystal â sgiliau bywyd pwysig. Bydd yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cyfrannu rhywbeth cadarnhaol at gymuned ehangach y coleg. Gobeithiwn y gall y cwrs barhau i dyfu’n rhaglen barhaus y gall rhagor o ddysgwyr gymryd rhan ynddi ”.

Dywedodd Kai John Ward, sy’n 16 oed, un o’r dysgwyr sy’n ymwneud â’r cwrs: “Rwy’n mwynhau cynnal a chadw beiciau hyd yn hyn. Mae’n wych ein bod wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymarferol a all ddysgu sgiliau newydd defnyddiol inni y tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth ”.

Bydd y gweithdai cynnal a chadw beiciau ar agor ddydd Mercher rhwng 11am ac 1pm ar gampws Nantgarw a byddant yn cael eu cynnal am y chwe mis nesaf. Bydd cynnal a chadw ar gael ar gyfer beiciau oedolion a phlant gan staff neu ddysgwyr. Gan mai dim ond tri beic y gellir edrych arnynt ar y tro, os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Valerie Smith Val.Smith@cymoedd.ac.uk.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau