What Learners Say

Filter:
By Subject area
All
A Levels
Business
Care and Childhood Studies
Catering and Hospitality
Construction
Creative Industries
Engineering
Foundation Learning
Hairdressing and Beauty
Sport
Caitlin Morris
“Mae'r staff yn hawdd mynd atynt ac yn hawdd siarad â nhw ac wedi gwneud y coleg yn amgylchedd gwych i fod ynddo. Roedd cael elfen mor ymarferol yn y cwrs hefyd wedi fy nghynorthwyo i gael swyddi hyfforddi gan fy mod eisoes wedi cael llawer o brofiad ymarferol o hyfforddi yn y coleg. .”
Caitlin Morris
Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon
Adele Elliott
“Mae Coleg y Cymoedd yn goleg gwych gyda thiwtoriaid anhygoel. Roeddent mor amyneddgar ac yn addasu yn ôl fy anghenion unigol. Rwyf mor ddiolchgar am fy hyfforddiant ac rwyf bellach yn dilyn fy mreuddwyd o redeg fy musnes fy hun fel Adweithegydd. Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau rhywbeth newydd. Mae Adele wedi agor ei busnes ei hun, ‘Cariad Holistic Therapies’, a leolir yn Nhreorci, Cwm Rhondda.”
Adele Elliott
Diploma Lefel 3 mewn Adweitheg
Michael Coggan
“Mae wedi bod yn hyfryd dychwelyd i’r man lle datblygodd fy nghariad tuag at patisserie yn y lle cyntaf, i gynnal dosbarth meistr gyda’r dysgwyr. Heb y gefnogaeth a'r cyfleoedd a gefais yn y coleg, ni fyddwn lle rydw i nawr. Rwyf am ddiolch i'r tiwtoriaid am y gefnogaeth a gefais pan oeddwn yn ddysgwr fy hun. Fy mreuddwyd oedd bod yn berchen ar fy musnes fy hun ac rwyf wedi gwneud hynny.” Mae Michael yn gydberchennog Gin & Bake ym Mae Caerdydd gyda chyn-ddysgwr arall, Andrew Minto. Hefyd, maent yn enillwyr ‘Bake Off: The Professionals’ Channel 4.”
Michael Coggan
Lefel 3 Coginio Proffesiynol
Aled Evans
“Mae'r coleg yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel sefydliad gwych ar gyfer datblygu athletwyr ac unigolion llwyddiannus. Rhoddodd y coleg gyfle i mi ddatblygu cyfeillgarwch i bwy rydw i'n dal yn ffrindiau gyda 7 mlynedd yn ddiweddarach.”
Aled Evans
Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon
Brittany Whitcombe
“Ni fu cwblhau chymwysterau a bod yn ofalwr ar yr un pryd yn hawdd o gwbl. Dw i wedi gorfod gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau mod i’n cwrdd â dedleins a chwblhau gwaith o safon dda tra’n edrych ar ôl fy chwaer iau a ffrind teuluol. Bu’r coleg yn anhygoel o gefnogol a llawn dealltwriaeth. Anogwyd fi gan fy nhiwtoriaid o’r cychwyn cyntaf ac rydw i’n ymfalchïo pa mor bell dwi wedi dod, dwi'n gyffrous am y dyfodol i gychwyn ar fy nhaith i fod yn athrawes gynradd.” Mae Brittany wedi cychwyn ar ei thaith tuag at swydd ei breuddwydion o fod yn Athrawes Gynradd, gan sicrhau lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Gofal Plant yn llwyddiannus.”
Brittany Whitcombe
Lefel 3 Gofal Plant
Leah Morgan
“Bu’n anodd astudio drwy gyfnod Covid, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo ond pan dderbyniais fy nghynnig amodol gan Brifysgol Abertawe, dangosodd y gallwn gyflawni’r graddau a’m hysgogi i’w cyflawni. Rhaid i mi ddiolch i’r tiwtoriaid sydd wedi cynnig cymaint o help i mi drwy gydol y cwrs”. Cyflawnodd Leah Morgan o Bedwas bedair gradd A* mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg gan sicrhau lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Meddygaeth Niwclear. Mae hi’n un o ddyrnaid o ddysgwyr yng Nghymru i ennill Bwrsari’r GIG lle telir ei ffioedd dysgu gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru a sicrhau swydd iddi ym maes meddygaeth niwclear ar ôl iddi gwblhau ei gradd.”
Leah Morgan
Lafelau Uwch
Emma Blackburn
“Wnes i erioed fwynhau amgylchedd ysgol erioed ac roeddwn i eisiau mwy o annibyniaeth gyda fy astudiaethau. Gwnaeth Diwrnod Agored Coleg y Cymoedd argraff fawr arnaf a pha mor gyfeillgar oedd y tiwtoriaid, felly penderfynais astudio yno ar gyfer fy Lefel A.”
Emma Blackburn
Lefelau A
Verity-Ann Lewis
“Rhaid i mi ddiolch i fy nhiwtoriaid am eu cymorth a’u hanogaeth. Mae’r coleg wedi darparu cyfleusterau a hyfforddiant rhagorol, sydd wedi fy ngalluogi i gyflawni fy nhargedau.”
Verity-Ann Lewis
Lefel 3 Teisennau a Danteithion
Megan Evans
“Mae'r anogaeth a gewch gan eich tiwtoriaid yn anhygoel. Roeddwn bob amser yn teimlo pe bai angen help arnaf, byddai fy nhiwtoriaid yno bob amser i roi cyngor a chefnogaeth imi. Hefyd, mae yna ymdeimlad o ryddid yn y coleg ac rydych chi'n teimlo'n fwy cyfrifol am eich gwaith eich hun. Rydych chi'n cael yn ôl yr hyn rydych chi'n ei roi yn eich gwaith ac roeddwn i bob amser yn hapus gyda fy nghanlyniadau, diolch i'r arweiniad gan fy nhiwtoriaid a chyfoedion.”
Megan Evans
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes
Matthew Brown
“Mae yna nifer o fanteision i astudio yng Ngholeg y Cymoedd gan gynnwys y darlithwyr sydd bob amser yn barod i'ch helpu gyda'ch gwaith. Doedd dim byd yn ormod o drafferth ac maen nhw i gyd yn hynod gyfeillgar. Hefyd, maent wedi gwneud y cwrs mor ymarferol â phosibl drwy drefnu ymweliadau â busnesau lleol fel y gall myfyrwyr siarad ag entrepreneuriaid am eu profiadau gyda'r broses o gychwyn busnes newydd ”. Mae Matthew yn astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru”
Matthew Brown
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes
Euan Balman
“Dw i wedi caru ffotograffiaeth erioed ac yn gwybod mod i am gael gyrfa yn y maes; fy mreuddwyd ydy agor fy stiwdio fy hun. Dw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, yn cynnwys fy nhiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd.”
Euan Balman
Lefel 3 Technoleg yn y Cyfryngau Creadigol
Ffion Williams
“Dw i wedi caru gwyddoniaeth erioed ac mae gen i wir diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn datblygu brechiadau ac ymchwilio yn y maes. Rydw i hefyd yn caru pêl rwyd ac wedi mwynhau chwarae dros Goleg y Cymoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly, fy ngobaith ydy dal i chwarae a gwneud fy ngradd". Cyflawnodd Ffion AAA, mewn Bioleg, Daearyddiaeth a Mathemateg ar Lefel A yn ogystal â Rhagoriaeth* mewn Chwaraeon Lefel 3. A hithau’n chwaraewr pêl rwyd brwd, mae Ffion yn rhan o Academi Pêl Rwyd Coleg y Cymoedd ac wedi cynrychioli’r coleg mewn nifer o gystadlaethau. Cafodd Ffion le ym Mhrifysgol Caerwysg i astudio Gwyddoniaeth Biofeddygol.”
Ffion Williams
Lefelau A
Tracey Dobbs
“”
Tracey Dobbs
Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth
Owain Jones
“Rydw i mor ddiolchgar i Goleg y Cymoedd am fy nghyflwyno i Future Elite Sports, yn ogystal ag i fy nhiwtoriaid Phil Thomas, Daniel Thomas a'r staff hyfforddi pêl-droed am fy helpu i gyflawni fy nod. Hebddyn nhw ni fyddwn i lle rydw heddiw o ran fy ngwybodaeth am bêl droed a fy hyder. Rydw i’n falch iawn mod i wedi cael lle i astudio dramor. Rydw i mor gyffrous i weld beth sydd o mlaen i ac yn edrych ymlaen at hyfforddi yng Ngholeg Cymunedol Athletau Jamestown yn Chautauqua, Efrog Newydd, a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig. Cafodd Owain Jones, le yng Ngholeg Cymunedol Jamestown Efrog Newydd”
Owain Jones
Lefel 3 mewn Chwaraeon
Ciara Bibey
“Ochr yn ochr â’u hastudiaeth roedd Ciara yn gweithio ym McDonalds. Dywedodd: “Roedd ceisio jyglo shifftiau gyda gwaith coleg yn eitha caled ond yn werth ei wneud ac roedd fy nhiwtoriaid i gyd yn gefnogol iawn. Rydw i wedi bod yn awyddus erioed i wneud rhywbeth ym maes deintyddiaeth ond doeddwn i ddim am fod yn ddeintydd oherwydd ei fod yn gwrs pum mlynedd yn y brifysgol. O siarad gyda fy orthodeintydd des i wybod bod ei wraig yn hylenydd deintyddol a therapydd ac wrth ei bodd gyda’i swydd. Gwnes ychydig o ymchwil a meddwl ‘Dyna dwi am ei wneud'!” Mae Ciara Bibey wedi cychwyn ym Mhrifysgol Birmingham i astudio Hylendid Deintyddol a Therapi ar ôl ennill dau A* mewn Bioleg a Seicoleg a dau B mewn Cemeg a Bagloriaeth Cymru.”
Ciara Bibey
Lefelau A
Sarah Clode
“Diolch i Goleg y Cymoedd am yr holl gyfleoedd a gynigir yn y coleg. Drwy gydol fy nghwrs fe wnes i wireddu fy mreuddwyd o ran gyrfa. Enillais Dair Rhagoriaeth* a bydda i’n astudio yn ysgol nodedig Italia Conti, yn Llundain.”
Sarah Clode
Lefel 3 Y Celfyddydau Perfformio
Jamie Jones
“Rydw i’n hapus iawn mod i wedi ennill gwobr ‘Apprentice Endeavour’ sy’n cydnabod a gwerthfawrogi fy ngwaith caled. Mae Coleg y Cymoedd a 'FSG Tool a Die' wedi bod yn anhygoel o gefnogol.”
Jamie Jones
Diploma Lefel 2 a VRQ mewn Peirianneg Diploma; Prentisiaeth gyda chwmni 'FSG Tool and Die'
Rio Griffiths
“Baswn i’n bendant yn argymell Coleg y Cymoedd. Mae’n lle gwych ar gyfer meddyliau creadigol. Mae’n amgylchedd cyfeillgar ac rydych yn cwrdd â chymaint o bobl newydd. Rydw i nawr yn mynd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bryste.”
Rio Griffiths
Lafelau Uwch
Benjamin Phillips
“Byddwn i’n argymell Coleg y Cymoedd oherwydd i’r cwrs a astudiais roi nifer o brofiadau ym meysydd yn y diwydiant cerdd a chael mynediad i gyfleusterau rhagorol. Enillais Ragoriaeth yn fy nghwrs ac rydw i’n mynd ymlaen i astudio ar gwrs Cynhyrchu Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru.”
Benjamin Phillips
Ysgol Roc Lefel 3 Ymarferwyr Cerddoriaeth
Callum Haggett
“Roedd fy nghanlyniadau yn gymaint o ryddhad ac mae'n dyst go iawn i'r gwaith rydw i wedi'i wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ni allaf ddiolch digon i Goleg y Cymoedd am eu cefnogaeth. Maen nhw wir wedi mynd yr ail filltir i sicrhau fy mod i'n cael y canlyniadau roeddwn eu hangen, o drefnu tiwtora ychwanegol i ganiatáu amser ychwanegol i mi ffitio yn fy ngyrfa rygbi.”
Callum Haggett
Lefelau A
Emily Poole
“Roedd Coleg Y Cymoedd yn cefnogi ac yn annog myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac roedd hyn yn fudd enfawr i mi. Fe wnaeth astudio yn y coleg roi profiad ymarferol a sgiliau bywyd i mi, a olygai fod gen i fwy o hyder ac roeddwn i'n fwy uchelgeisiol pan adewais i Efrog Newydd.”
Emily Poole
Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon
Ellie Jones
“Byddwn yn argymell Coleg y Cymoedd a’r cwrs i eraill gan ei fod yn llawn cyfleoedd a digonedd o gymorth. Mae’r cwrs wedi fy helpu i wireddu fy uchelgais drwy roi’r wybodaeth sydd ei hangen arna i ar gyfer y dyfodol a chaniatáu i mi ennill pwyntiau UCAS a’r graddau angenrheidiol ar gyfer mynd i brifysgol.”
Ellie Jones
Lefel 3 Gofal Plant
Andrew Williams
“Ni allaf argymell y coleg hwn yn ddigonol, rwy'n teimlo fy mod hefyd, ochr yn ochr â'r llwyddiant academaidd rydw i wedi'i gael yn ystod fy nghyfnod yma, wedi tyfu llawer yn bersonol diolch i'm tiwtoriaid personol sydd wedi fy helpu i ddysgu magu hyder yn fy ngalluoedd, anelu mor uchel â Rwyf eisiau, a pheidio â rhoi sylw i unrhyw ragfarnau y gallaf eu hwynebu.”
Andrew Williams
Lefelau A
Booker T Skelding
“”
Booker T Skelding
Connor Paskell
“Byddwn yn bendant yn argymell Coleg y Cymoedd a’r cyrsiau sydd ar gael, mae’n goleg sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol gyda chyfleusterau ardderchog. Mae ganddo diwtoriaid gyda mynediad da atyn nhw, maen nhw'n wybodus a phrofiadol ac mae yno adnoddau dysgu defnyddiol sydd am ddim i bob dysgwr gael mynediad atyn nhw.”
Connor Paskell
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrofod
Kai John Ward
“Fe wnes i wir fwynhau’r cwrs cynnal a chadw beiciau. Roedd yn wych cael y cyfle i wneud gwaith ymarferol lle dysges i sgiliau newydd defnyddiol tu allan i’r ystafell ddosbarth.”
Kai John Ward
Cwrs Cynnal a Chadw Beiciau /Dug Caeredin
Sophie Davies
“Mae'r cwrs Iechyd a Chymdeithasol wedi fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau oherwydd ei fod wedi cynnig llwybr amgen imi gael mynd i'r brifysgol. Hefyd, mae’r cwrs wedi addysgu llawer imi mewn amrywiaeth eang o bynciau y byddaf yn gallu ei ddefnyddio yn fy ymarfer bydwreigiaeth yn y dyfodol.”
Sophie Davies
Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ellie Wilkins
“Dw i wedi mwynhau fy amser yn y coleg, a chymwysterau’r cwrs yn berffaith – ces y sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i weithio yn y diwydiant. Mae’r amgylchedd yn un cyfeillgar a'r cyfleusterau a’r adnoddau yn rhagorol. Dw i mor gyffrous i gychwyn gweithio yn y Celtic Manor, Gwesty gyda Sba 5 Seren– diolch i gyd yng Ngholeg y Cymoedd.”
Ellie Wilkins
Lefel 3 Therapi Harddwch
Carrie Seymour
“Roeddwn ni wedi mwynhau prosiectau paentio ac addurno erioed fel adnewyddu ystafelloedd gwely fy mhlant neu helpu ffrindiau i bapuro. Byddwn yn ymfalchïo yn y gwaith gorffenedig ac roeddwn yn gwybod yr hoffwn ddilyn gyrfa yn y maes ac mae Coleg y Cymoedd wedi fy helpu i wireddu hynny.”
Carrie Seymour
Paentio ac Addurno
Maria Francis Jones
“Dewisais Goleg y Cymoedd gan mai dyma’r coleg gorau yng Nghymru i mi ddilyn fy ngyrfa pêl droed. Enillais fy nghap Rhyngwladol cyntaf i Dîm Cyntaf Merched Cymru tra’n chwarae ac astudio. Arwyddais i chwarae i Glwb Pêl Droed Manchester City a bydda i’n astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion.”
Maria Francis Jones
Lefel 3 mewn Chwaraeon
Megan James
“Dewisais Goleg y Cymoedd gan mod i wedi mynychu Digwyddiad Agored ac roedd y tiwtoriaid mor frwd am y cwrs roedd gen i ddiddordeb ynddo. Dw i wedi cael profiad gwych ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweithio gyda ffotograffydd proffesiynol a gweld fy ngwaith ar gamera. Fy swydd ddelfrydol fyddai gweithio ar set ffilm neu deledu fel artist coluro.”
Megan James
Megan James
Jacob Mansell
“Dw i wir mor gyffrous i fod yn astudio Gwneud Mân Gelfi yn y coleg, bydd y cysylltiadau gyda Screen Alliance Wales yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr a’r cyfle i weithio gyda phobl broffesiynol a fydd yn rhoi hwb i fy nghyfle am gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.”
Jacob Mansell
Gwneud Mân Gelfi ar gyfer Teledu a Ffilm

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau