Y Coleg yn creu cyffro cynaladwyedd gyda gwenyn

Mae coleg yng Nghymoedd y De yn chwarae ei ran wrth achub y wenynen fêl a helpu gwella’r amgylchedd ar ôl darparu cartref i filoedd o rywogaethau brodorol ar ddau o’i gampysau.

Mae Coleg y Cymoedd wedi gosod gwenynfa yn ei gampws yn Ystrad Mynach a’i gampws yn Nantgarw fel rhan o raglen gynaliadwyedd ehangach y Coleg a gynlluniwyd i gynyddu cynaladwyedd a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r Coleg wedi gosod pum cwch gwenyn ar draws y ddau gampws ac wedi mabwysiadu ystod o fesurau cyfeillgar i wenyn ar draws ei adeiladau mewn ymgais i fynd i’r afael â’r cwymp yn nifer y gwenyn mêl, sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystem.

Nod y fenter, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y myfyrwyr a’r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd cadw gwenyn mewn ardaloedd trefol wrth hyrwyddo cynaliadwyedd.

Bydd y cychod gwenyn, a leolir ar doeau’r campysau, yn rhoi cipolwg i ddysgwyr yn y coleg ar fanteision cadw gwenyn, yn ogystal â dealltwriaeth o sut y rheolir cytref gwenyn. Bydd tri dysgwr amgylcheddol lwcus yn y Coleg hefyd yn cael eu dewis i weithio gyda’r gwenyn dros yr haf, gan edrych i mewn i reoli gwenynfa, o adeiladu cwch gwenyn i gynaeafu mêl.

Yn ogystal â’r manteision addysgol ac amgylcheddol, bydd y cychod gwenyn hefyd yn cael eu defnyddio i gynhyrchu mêl a chwyr i’r Coleg, a fydd yn cael eu gwerthu i’r cyhoedd mewn digwyddiadau a gwyliau lleol. Mewn dim ond pedwar mis, mae mwy na 140 jar o fêl arbennig Coleg y Cymoedd eisoes wedi’u creu.
Cafodd staff y Coleg eu hysbrydoli’n wreiddiol i gadw eu cychod gwenyn eu hunain ar ôl siarad â gwarchodwr gwenyn lleol, a oedd eisoes yn cadw gwenyn yng ngwenynfa Ystrad Mynach, a chlywed am yr amgylchedd perffaith y byddai lleoedd gwyrdd y Campws Nantgarw yn eu cynnig ar gyfer gwenyn.

Dywedodd Karen James, Cyfarwyddwr Campws Nantgarw: Mae gwenyn yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hecosystem, yn peillio planhigion blodeuol, coed a chnydau, na fyddai, mewn rhai achosion, yn tyfu fel arall. Fodd bynnag, oherwydd amaethyddiaeth fodern a newidiadau i gynefin gwenyn, rydym yn gweld dirywiad mawr yn eu poblogaethau gyda gwenynen mêl yn awr yn wynebu bygythiad diflannu.

“Roeddem eisiau cymryd camau i amddiffyn y cychod gwenyn hyn, meithrin cynefinoedd, ffynonellau bwyd a mannau diogel iddynt nythu yn y coleg a chodi ymwybyddiaeth am eu pwysigrwydd – gosod ein cwch gwenyn ein hunain oedd y cam nesaf synhwyrol i ni. Gyda digonedd o leoedd gwyrdd a lleoliad ymhell o’n dysgwyr, roedd toeau’r Coleg yn safle delfrydol i gadw’r gwenyn. “

Ar ôl gofyn am gyngor gan Pollen8 Cymru a chael grant o £ 5,000 i helpu i sefydlu’r cychod gwenyn ar y to, croesawodd y Coleg ei gytref wenyn gyntaf yn 2010 yn ei gampws Ystrad Mynach, gyda thair chytref arall yng nghampws Nantgarw yn dilyn yn 2015 .

Nid y cychod gwenyn yw’r unig ychwanegiadau cyfeillgar i wenyn yn y Coleg. Er mwyn gwneud y gorau o’i amcanion amgylcheddol a gwneud y lle’n fwy addas ar gyfer gwenyn a pheillwyr eraill, mae’r Coleg wedi plannu planhigion cyfeillgar i wenyn ar draws ei gerddi ac yn sicrhau bod lladdwr chwyn addas yn cael ei ddefnyddio bob amser.

Er nad yw cadw gwenyn yn rhan o’r cwricwlwm swyddogol, mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut i ofalu am wenyn gysylltu â’r tîm gwenyn er mwyn cymryd rhan.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau