Y Coleg yn croesawu Ymwelwyr o Estonia i ddysgu am addysg yng Nghymru

Mae myfyrwraig Lefel A o Lanilltud Faerdre un cam yn nes at wireddu ei breuddwyd ar ôl llwyddo i gyrraedd rownd nesaf y clyweliadau am le yn ysgol ddrama Paul McCartney yn Lerpwl.

Gwnaeth Jenna Claridge, 18, sy’n astudio Lefel A yn ei phynciau yng Ngoleg y Cymoedd argraff fawr ar y beirniaid yn Sefydliad y Celfyddydau Perfformio yn Lerpwl yn ei chlyweliad cyntaf ym mis Rhagfyr. Mae hi newydd dderbyn y newyddion ei bod yn cael clyweliad arall ar Fawrth 9fed i sicrhau lle yn sefydliad actio nodedig Paul McCartney, cyn ganwr y Beatles, am flwyddyn o gwrs sylfaen mewn Actio a Theatr Gerdd.

Ar ôl llwyddo i gael ei galw’n ôl yn erbyn cannoedd o ymgeiswyr eraill, mae Jenna’n gobeithio cyrraedd y 18 fydd yn ymrestru ym mis Medi ac ymuno â sefydliad lle bu pobl megis The Wombats, y band ‘indie rock’ a’r gyflwynwraig Dawn O’Porter yn astudio.

Ond nid yw Jenna yn un i orffwys ar ei rhwyfau, mae gan yr egin actores hefyd gyfweliad yn Ysgol Actio Guildford yn Surrey ddau ddiwrnod cyn mynd i Lerpwl.

Bydd mis Mawrth yn fis prysur i Jenna oherwydd, yn ddiweddar, llwyddodd i gael rhan bwysig yn Les Miserables ar y llwyfan gyda Theatr Ieuennctid Orbit rhwng Mawrth 25 a 29 yng Nghaerdydd. Bydd Jenna yn chwarae rhan Fantine, y cymeriad y bu Anne Hathaway yn ei chwarae yn y ffilm yn 2012.

Mae Jenna yn ail flwyddyn ei Lefel A yn astudio Saesneg, Drama a Bagloriaeth Cymru ar gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, ac mae’n dweud bod ei dyled hi’n fawr i’w hathrawes ddrama, Rebecca Francis-Jones, oherwydd hi sy’n bennaf gyfrifol am yr hyn mae wedi’i gyflawni yn ddiweddar.

Yn ôl Jenna: “Mae Miss Francis-Jones wedi bod mor gefnogol i mi ac i’m cyd-ddisgyblion. Mae’n wych am roi hwb i’ch hyder ac yn gwneud i chi gredu eich bod yn ddigon da i fynd i’r clyweliadau hyn. Mae’n athrawes ddyfeisgar iawn a hi ydy’r rheswm pam fod y dosbarth i gyd wedi llwyddo i basio 100% ar Lefel UG.

“Dw i’n teimlo’n gyffrous iawn wrth geisio cychwyn ar fy ngyrfa actio a baswn i wrth fy modd yn mynd i Lerpwl i astudio. Mae fy mrawd yn y Llynges ac roedd gen i hefyd ddiddordeb erioed mewn mynd i’r lluoedd arfog, ac os na fydd y busnes actio yn llwyddiannus, hoffwn i ymuno â’r Llu Awyr sydd mor wahanol i actio ar lwyfan.”

Llongyfarchodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd Jenna ar ei chyflawniadau hyd yn hyn. Dywedodd: “Mae Jenna yn rhagori yn ei chrefft a dw i’n siŵr y bydd yn mynd yn bell beth bynnag fydd hi’n ddewis i’w wneud. Yn y coleg, rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar ddysgu’r sgiliau priodol ac ar drosglwyddo’r agwedd a’r wybodaeth gywir i’n myfyrwyr er mwyn iddyn nhw sicrhau cyflogaeth ar ôl cwblhau eu cyrsiau neu symud i addysg uwch. Bydden ni wrth ein bodd petai Jenna’n dychwelyd y flwyddyn nesaf i rannu ei phrofiadau gyda charfan flwyddyn nesaf o fyfyrwyr Lefel A. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddi yn ei chlyweliadau ac yn ei pherfformiadau yn Les Miserables.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau