Y Cymoedd yn derbyn cymeradwyaeth 100% gan Brentis Gwyddoniaeth

Mae cyn brentis yng Ngholeg y Cymoedd, Arfon Carhart, ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd mewn Cemeg ym Mhrifysgol De Cymru, lle mae’n cael ei gyflogi fel Technegydd Cemeg, yn dilyn bod ar raglen brentisiaeth yr ymrestrodd arni yn 2015.

Bu gan Arfon, sy’n chwech ar hugain oed ac yn dod o Bontypridd, ddiddordeb mawr mewn Cemeg ers yn 11 oed, pan ysgogodd arbrawf metel alcalïaidd yn yr ysgol ei daith yrfaol ym maes Cemeg.

Oherwydd ymrwymiadau teuluol tra’n astudio am ei TGAU, collodd Arfon rai arholiadau ac ni chyflawnodd y graddau angenrheidiol. Ond, ac yntau yn unigolyn llawn cymhelliad â moeseg gwaith cryf, penderfynodd ddilyn ei frwdfrydedd dros yrfa yn y Gwyddorau ac ymrestrodd yng Ngholeg y Cymoedd.

Roedd y cwrs Diploma Lefel 2 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol yn opsiwn delfrydol i Arfon allu dychwelyd i astudio. Fe wnaeth Arfon, gyda chymorth staff gwybodus a chefnogol oedd yn cynnwys Lena Shirley, Tiwtor y Cwrs, ail-danio ei frwdfrydedd a rhoi hyder iddo gredu ynddo’i hun. Yna symudodd Arfon ymlaen i Uwch Brentisiaeth gyda Diploma Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.

Soniodd Arfon am ei amser yn y coleg gan ddweud “Mae’r coleg yn fodern, yn gyfeillgar ei hinsawdd ac, yn bwysig o safbwynt fy nghwrs i, mae yno gyfleusterau labordy rhagorol. Roedd y cwrs yn wych yn delio â phwnc Gwyddoniaeth yn gyffredinol. Mae’r cwrs Lefel 2 a chwrs Lefel 3 BTEC yn delio â theori sylfaenol ac uwch mewn Ffiseg, Cemeg, Bioleg a Mathemateg yn ogystal ag addysgu sgiliau labordy sy’n pontio i’r byd academaidd a byd diwydiant.

Dydy astudio ddim yn dod yn naturiol i mi ond mae fy awydd i lwyddo wedi golygu mod i wedi gweithio’n galetach i ddal i fyny a chyrraedd y brig. Rydw i’n gobeithio gorffen fy arholiadau terfynol eleni a chwblhau fy ngradd; y radd ragweledig ydy Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.

Byddwn i’n argymell Coleg y Cymoedd 100% i bawb, mae’r lle yma wedi newid fy mywyd er gwell a hynny oherwydd y cwrs, yr unigolion a’r arbenigedd a ddarparwyd”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau