Y Dysgwyr sydd ben ac ysgwydd yn well na’r gweddill

Mae dillad na lwyddodd i werthu mewn siop elusen dda yn y ddinas yn cael eu harddangos ar ôl cael eu trawsnewid gan ddysgwyr talentog Celf a Dylunio.

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol defnyddiodd darpar gynllunwyr o Goleg y Cymoedd eu sgiliau newydd i drawsnewid dillad o siop Oxfam Boutique yng Nghaerdydd yn gasgliad o ddillad gwreiddiol ar thema ddwyreiniol eleni.

Yn dilyn llwyddiant y sioe llynedd, cafodd eu gwaith ei arddangos mewn sioe ffasiwn ar gampws Nantgarw at achos da. Eleni eto, menter ar y cyd oedd hi rhwng dysgwyr ar draws y coleg. Paratowyd y modelau gan wirfoddolwyr o’r adrannau trin gwallt ac adran goluro’r celfyddydau cynhyrchu; myfyrwyr technoleg cerddoriaeth a ddarparodd y trac sain, darparwyd y lluniaeth gan fyfyrwyr yr adran arlwyo a ffilmwyd y sioe gan ddysgwyr yr adran cyfryngau digidol.

Lluniwyd y dillad a’r casgliad o gyfwisgoedd a greodd y dysgwyr yn gyfangwbl o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu megis papur a phlastig a deunydd nad oedd siop Oxfam Boutique yn gallu eu gwerthu.

Nod y prosiet oedd annog dysgwyr i ystyried problemau moesol y diwydiant ffasiwn. Ar ben hynny, roedd yr arddangosfa yn rhoi profiad ‘go iawn’ i’r dysgwyr o hyrwyddo, trefnu a rheoli digwyddiad mawr ei faint..

Dywedodd Rhonwen Powell, 18oed o Donyrefail , myfyrwraig celf a dylunio yng Ngholeg y Cymoedd: “Ron i wrth fy modd i fod yn rhan o’r prosiect hwn. Bu’n brofiad dysgu gwych ac yn wir gyffrous i feddwl y bydd ein gwaith ar werth i’r cyhoedd ar ôl yr arddangosfa.

“Mae uwchgylchu dillad nad oes neb eu heisiau yn brosiect gwerth chweil, yn enwedig pan fydd yr elw’n mynd at achos da.”

Ar ôl cael eu harddangos gan fodelau ar y llwyfan ffasiwn bydd y dillad a grewyd yn dychwelyd i Oxfam Boutique, siop uchel ei phroffil ar Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd i’w gwerthu yno a’r holl arian yn mynd at Oxfam.

Dywedodd Claire Samuel, rheolwraig Oxfam Boutique Caerdydd: “Mae hyn yn fenter gydweithredol ragorol ac yn gyfle gwych i genhedlaeth iau ddysgu am waith da Oxfam yn genedlaethol ac yn fyd eang. Mae’r gwaith a grewyd gan y dysgwyr yn ardderchog.

“Mae wedi creu arddangosfa weledol wych yn siop Oxfam Boutique ac yn denu sylw’r cyhoedd at genhadaeth Oxfam i godi pobl o dlodi. Diolch yn fawr i bob adran o Goleg y Cymoedd a wnaeth hyn yn bosibl.”

Dywedodd Alistair Aston, tiwtor yng Nholeg y Cymoedd: “Mae gweithio gydag Oxfam Boutique wedi bod yn brofiad positif i’n dysgwyr yn rhoi cyfle iddyn nhw i ddod i ddeall y materion hanfodol y mae Oxfam yn eu cynorthwyo.

“Maen nhw wedi gweithio yn egnïol a brwdfrydig i greu dillad, graffeg a gemwaith â dylanwad Siapaneaidd a fydd yn cael eu harddangos mewn sioes ffaswin a’u gwerthu yn Oxfam Boutique Caerdydd. Mae gweithio ar draws disgyblaethua ac adrannau ar friff byw wedi daparu man i Goleg y Cymoedd arddangos y talent sy’n cael ei ddatblygu yn y coleg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau