Y Prif Weinidog yn cyfarfod y genhedlaeth reilffyrdd newydd

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y buddsoddiad mwyaf yn ei rheilffyrdd am fwy na chanrif, cyfarfu’r Prif Weinidog, Carwyn Jones heddiw (17 Medi) â chenhedlaeth newydd o weithwyr medrus a fydd yn cadw’r diwydiant ar y cledrau.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd Network Rail, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwario mwy na biliwn o bunnau’n moderneiddio’r system reilffyrdd a bydd angen llif cyson o staff wedi’u hyfforddi’n drwyadl i symud ymlaen i’r cyfnod newydd.

Cafodd y Prif Weinidog gyfle i gyfarfod rhai a fydd yn llenwi’r swyddi allweddol wrth ymweld â Choleg y Cymoedd yn Nantgarw i agor, yn ffurfiol, yr ysgol hyfforddi arbenigol gyntaf yng Nghymru ar gyfer peirianwyr rheilffordd.

Roedd yr ymweliad yn gyfle iddo weld â’i lygad ei hunan sut y mae’r £1.54 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ysgol beirianneg rheilffordd £3.08 miliwn Coleg y Cymoedd wedi darparu canolfan ddysgu hollol fodern, efelychiad maint llawn o reilffordd a’i chledrau yn yr awyr agored ac adnoddau hyfforddi arbenigol ar gyfer peirianneg trydaneiddio rheilffyrdd.

Yn ystod ei ymweliad, cyflwynodd y Prif Weinidog eu tystysgrifau i’r 20 o ddysgwyr cyntaf i gwblhau’r cwrs. BBydd y garfan gyntaf yn cychwyn ar flwyddyn o ddysgu llawn amser o dan arweiniad McGinley Support Services, y contractwr sydd ar safle yn y coleg i gyd-hyfforddi’r prentisiad peirianneg rheilffyrdd.

Wrth agor yr ysgol, meddai’r Prif Weinidog: “Bydd moderneiddio ein rheilffyrdd o fudd enfawr i Gymru, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod gennym ni weithlu gyda’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad iawn i fod ar flaen y gad yn y dasg.

“Mae hyfforddiant Coleg y Cymoedd gyda’r gorau sydd ar gael ac yn cael ei ddysgu mewn ysgol sydd gyda’r gorau sydd ar gael. Bydd y gweithlu fydd yn gwella cymaint ar reilffyrdd Cymru hefyd gyda’r gorau sydd ar gael. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi hyfforddi cymaint o brentisiaid ac rwy’n dymuno’r gorau i rhai sydd eisoes ar y cwrs mewn gyrfa sy’n addo bod yn hynod gyffrous”.

Erbyn hyn, mae yna 30 yn dysgu’n llawn amser a 39 o brentisiaid rheilffyrdd eisoes ar y cwrs a fydd, gyda’r rhai sydd eisoes wedi gadael, yn llenwi’r cannoedd o swyddi a fydd yn cael eu creu gan y cynlluniau i drydaneiddio rheilffordd Cymoedd Cymru. Diolch i ysgol reilffordd Coleg y Cymoedd, bydd darpar beirianwyr rheilffordd De Cymru yn gallu manteisio ar yr adnoddau mwyaf modern a diweddar i hyfforddi yn y diwydiant.

Wrth siarad yn agoriad swyddogol yr ysgol reilffordd, meddai pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, Rydym yn hynod falch fod y Prif Weinidog wedi ymweld â’r coleg heddiw i agor yr ysgol reilffordd yn swyddogol. Bydd yr ysgol ar y blaen wrth greu peirianwyr rheilffordd medrus, a, gyda’r rhaglenni o fuddsoddiadau mawr sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym yn gobeithio y bydd marchnad lafur enfawr yn agor o’u blaenau yn ne Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddal i’n cefnogi ac am ei hyder yng ngallu Coleg y Cymoedd i ddarparu addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa gwych i bobl ifanc”.

Erbyn hyn, mae Coleg y Cymoedd yn cynnig Peirianneg Rheilffordd Lefel 1 fel rhan o’i brif gwricwlwm. Mae’r rhaglen yn unigryw; mae’n cynnig peirianneg rheilffyrdd a hefyd beirianneg sifil sy’n ei gwneud yn haws dysgu ynghylch y diwydiant. Yn debyg iawn i brentisiaid, bydd dysgwyr yn cael eu gosod mewn sefyllfaoedd gwaith realistig i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith sydd ohoni heddiw.

Meddai Jack Caplin, 20 o Caerdydd, wrth dderbyn ei dystysgrif oddi wrth y Prif Weinidog ar ôl gorffen cam cyntaf y cwrs, “Rwy wedi dysgu llawer o sgiliau ar y brentisiaeth, ar y cledrau ac yn y ganolfan ddysgu. Erbyn hyn, rwy’n cychwyn ar fy hyfforddiant gyda McGinley ac yn gobeithio y bydda i’n gallu defnyddio’r sgiliau i gael hyd yn oed fwy o brofiad o waith go iawn.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

• Associate
• Associate
• Associate
• Associate
• Associate
• Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau