Y Prif Weinidog yn torri’r dywarchen gyntaf ar Gampws gwerth £22 miliwn Aberdâr

Mae’r Prif Weinidog heddiw wedi nodi cychwyn y gwaith adeiladu campws newydd heb ei ail Aberdâr a’i nod o drawsnewid addysg bellach a hyfforddiant sgiliau ar gyfer cannoedd o ddysgwyr yn yr ardal.

Yn dilyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar ddiwedd 2015, ymunodd y Prif Weinidog â staff a dysgwyr Coleg y Cymoedd ar safle campws gwerth £22 miliwn Aberdâr yn seremoni ‘torri’r dywarchen gyntaf’ i nodi cychwyn swyddogol y gwaith adeiladu.

A’i leoliad ynghanol Aberdâr, bydd y campws newydd yn disodli safle Coleg y Cymoedd yn Heol Cwmdâr gyda chyfleusterau newydd sbon heb eu hail i gwrdd ag anghenion addysgol pobl ifanc a sicrhau eu bod yn fedrus iawn i ddiwallu anghenion diwydiant. Gan y bydd y safle mor agos at orsaf drenau Aberdâr bydd gan ddysgwyr a staff fynediad sylweddol well i gludiant cyhoeddus a chysylltiadau teithio i ardaloedd cyfagos.

Dywedodd Carwyn Jones , y Prif Weinidog wrth dorri’r dywarchen gyntaf ar y safle 2.7 erw o dir, “Mae’n bleser o’r mwyaf gen i dorri tywarchen gyntaf yr hyn a fydd, ymhen amser, yn ganolfan effeithlon fodern iawn ynghanol Aberdâr.

“Rydyn ni’n llwyr ymrwymedig i ddarparu cyfleusterau heb eu hail ar gyfer ein dysgwyr mewn adeilad a fydd yn eu hysgogi a’u hannog i gyflawni eu potensial. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi £11 miliwn yn y datblygiad hwn fel rhan o’n rhaglen gwerth £1.4 biliwn sef Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain sy’n trawsnewid ysgolion a cholegau led-led Cymru.

“Bydd yr adeilad hwn hefyd yn darparu nifer o gyfleoedd cyflogaeth ac yn hwb i’w groeswu i’r gymuned leol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddychwelyd i Aberdâr i weld y campws wedi’i gwblhau.”

Ymunodd dysgwyr y cwrs adeiladu o Goleg y Cymoedd, a fydd yn elwa o brofiad gwaith ar y safle drwy gydol y datblygiad, â’r Prif Weinidog.

Bydd yr adeiladwaith newydd yn cynnwys y deunyddiau cynaliadwy diweddaraf oll, gan ddilyn patrwm sefydlwyd ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd wnaeth dderbyn statws Rhagoriaeth cynllun BREEAM am ei ymrwymiad i’r agenda werdd wrth gael ei adeiladu. Hefyd, cytunodd y coleg i gydweithio ag ysgolion lleol i ddatblygu cwricwlwm fydd yn atodiad ac yn cyfoethogi eu darpariaeth nhw eu hunain.

Roedd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Judith Evans, ar y safle gyda’r Prif Weinidog, a dywedodd: “Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous ac mae’n ffantastig cael cymorth Llywodraeth Cymru ar y daith. Rydyn ni’n cynnig yr adnoddau gorau un i’r dysgwyr yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu. Rwy’n hynod falch fod y Prif Weinidog wedi gallu ymuno â’r digwyddiad heddiw i ddynodi cychwyn y gwaith adeiladu.

“Bydd y campws newydd yn enghraifft arall o genhadaeth Coleg y Cymoedd i wneud rhagoriaeth mewn addysg a sgiliau yn realiti i’r holl ddysgwyr yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwaswanaethu, yn arbennig felly wrth newid gwedd addysg ôl-16 yng Nghymoedd De Cymru.”

Caiff campws newydd Aberdâr ei gyd-ariannu gan Goleg y Cymoedd a Llywodraeth Cymru, a bydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau megis gweinyddu busnes, gwaith plymwr, adeiladu a gofal plant. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu ar ben erbyn Medi 2017.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau