‘Yma o hyd’ a dathlu Cwpan y Byd

Er bod taith Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd bellach ar ben, mae Cymru gyfan wedi ymhyfrydu yn llwyddiannau’r tîm ac wedi mwynhau gweld eu gwlad yn cystadlu ar lwyfan ryngwladol am y tro cyntaf er 1958. Ar hyd ac ar led Cymru, cafwyd dathliadau di-ri yn ystod y cyfnod y bu’r tîm yn cystadlu yn y bencampwriaeth, ac roedd Coleg y Cymoedd yn sicr yn rhan o’r dathlu hwnnw. Dyma oedd cyfle heb ei ail i ddysgwyr a staff y coleg ddathlu eu Cymreictod ac ymfalchïo yn llwyddiannau eu gwlad.

Cafwyd ymdrechion anhygoel ar bob campws i ddathlu yn ystod yr wythnos a throwyd ardaleodd cymunedol pob campws yn Barth Cefnogwyr.

Ar gampws Aberdâr, cafwyd llawer o weithgareddau gwahanol i ddathlu Cwpan y Byd ac i ddathlu Cymru. Daeth y DJ Cymraeg Roughion i’r campws i chwarae set Cymraeg ar gyfer myfyrwyr yn ystod eu hamser cinio ddydd Mercher, gydag amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o ddawns i bop. Hefyd, cafodd y myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd celf a chrefft Cymreig, cwis Cwpan y Byd a gêm arbennig “Pin the bun on Bale”.

Ar gampws Nantgarw, cafwyd rhestr hir o weithgareddau drwy gydol yr wythnos. Cafwyd setiau acwstig byw yn y Gymraeg; gweithdy dawnsio gwerin; moctels a bwyd Cymreig wedi’u paratoi a’u gweini gan fyfyrwyr yr Adran Arlwyo; cystadleuaeth pêl-droed VR; gweithdy graffiti Cymraeg a chystadleuaeth ‘Keepie-uppie’ fawreddog rhwng penaethiaid y Coleg a’r myfyrwyr!

Ar Gampws y Rhondda, cafwyd cystadlaethau hwyliog drwy gydol yr wythnos fel ‘dyfalu enw’r ddraig’ a sweep stake. Roedd cacennau coch gwyn a gwyrdd ar gael i’w prynu a myfyrwyr a staff yn ymuno yn yr hwyl.

Ar Gampws Ystrad Mynach, roedd bwth hunlun i bawb gael tynnu llun gyda Gareth Bale ac enwogion eraill o dîm pêl-droed Cymru, a chystadleuaeth ‘sweep stake’.

Hefyd, roedd yn gyfle i gryfhau partneriaethau allanol gyda mudiadau sy’n hybu’r Gymraeg yn lleol. Cafwyd gweithgareddau chwaraeon gyda’r Urdd ar Gampws Nantgarw a chymerodd y Coleg ran ym mhrosiect ‘Gorau Canu Cydganu’ gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Gyda llyfryn arbennig y mentrau iaith, cynhaliodd Rhys Ruggiero, Hwylusydd y Gymraeg ar gyfer Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, weithdai ‘Codi Canu’ gyda myfyrwyr yr Adran Chwaraeon er mwyn dysgu geiriau ‘Yma O Hyd’ – anthem enwog tîm Pêl-droed Cymru. Roedd hynny’n golygu eu bod i gyd yn barod i floeddio canu o flaen y gêm fawr!

Penllanw holl ddathliadau’r wythnos oedd gêm Cymru yn erbyn Iran ddydd Gwener 25 Tachwedd. Anogwyd pawb ar bob campws i wisgo coch i Gymru ac i wylio’r gêm yn fyw. Hanner amser roedd gan bawb y cyfle fwynhau cwn poeth, pizzas, byrgers er mwyn cynnal y lefelau egni i gael gweiddi’n groch!

Gyda staff a myfyrwyr yn dod at ei gilydd dros yr wythnos roedd gwir deimlad o falchder dros ein gwlad fach ni gyda phawb yn cydweithio gyda’i gilydd i ddathlu Cymru. Dywedodd Lois Roberts, Rheolwr y Gymraeg Coleg y Cymoedd, “Mae hi wedi bod yn anhygoel! Mae’r awyrgylch ar bob campws wedi bod yn drydanol. Mae’r Coleg wastad yn meddwl am ffyrdd newydd o ddathlu ein treftadaeth falch a dyma oedd gyfle euraid i ddathlu pwy ydym ni, o le rydym ni’n dod ac i le rydym ni’n mynd. Diolch i bawb a fu’n gweithio mor galed i drefnu’r digwyddiadau dirifedi, mae’r staff a’r dysgwyr ar bob campws wedi bod yn anhygoel.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau