Dewiswyd Tîm Peirianneg Coleg y Cymoedd, Caerdydd i fynd drwodd i rownd derfynol Gwobrau Pearson am Addysgu 2014
Dewiswyd Tîm Peirianneg Coleg y Cymoedd, Caerdydd, i fynd drwodd i rownd derfynol Gwobrau nodedig Addysgu Pearson.
Dewiswyd y rhai i fynd i’r rownd derfynol o blith 20,000 o enwebiadau eleni ac mae’r Tîm peirianneg yn ymuno â rhestr o athrawon eithriadol sy’n sêr eu proffesiwn.
Bydd y rhai sydd yn y rownd derfynol yn clywed enwau buddugwyr Gwobrau Pearson am Addysgu ar ddiwrnod Diolch i Athrawon, 16 Mai 2014.
Sefydlwyd Gwobrau Pearson am Addysgu gan David (Arglwydd) Putnam yn 1999 i ddathu a chydnabod pobl broffesiynol addysgol nodedig.
Dywedodd yr actores Emma Thompson, enillydd Oscar a Llywydd y Gwobrau Addysg: ‘Dwi’n hynod o falch ac yn ei theimlo’n fraint o fod yn llywydd y gwobrau Addysgu. Mae fy nyled i’n fawr i fy athrawon gwych yn yr ysgol ac yn y brifysgol am yr hyn yr ydw i wedi ei gyflawni yn fy ngyrfa ac mae’n gyffrous i fod yn rhan o ddathlu’r proffesiwn pwysicaf ohonyn nhw i gyd.’
Dywedodd Rod Bristow, Llywydd Pearson UK: ‘Wrth gefnogi Gwobrau Pearson am Addysgu, cawn gyfle unigryw i gydnabod pobl broffesiynol nodedig y byd addysgu ar draws y DU. Mae Pearson yn credu mai dysgu gydol oes sydd wrth wraidd ei holl fodolaeth. Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle gorau i ddatblygu yn eu bywydau drwy addsyg. Dyna’r rheswm pam y credwn ei bod yn hanfodol bwysig i gydnabod athrawon ysbrydoledig am eu hymrwymiad i addysgu a dysgu a gwella cyfleoedd bywyd y genhedlaeth nesaf.’