Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dathlu wrth i’w sgwad o dan 18 guro’u hen elynion Coleg Sir Gâr i fod yn Bencampwyr y Colegau dan Undeb Rygbi Cymru .
Dyma’r trydydd tro yn olynol i sgwadiau’r ddau goleg wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol a roedd y gêm hon yn Stadiwm Mileniwm Cymru yn un glos iawn.
Mewn gêm dynn roedd cefnogwyr y ddau dîm ar bigau’r drain tan y chwiban olaf pan faeddodd Coleg y Cymoedd y pencampwyr blaenorol o un deg tri pwynt i dri
Hwn ydy tymor mwyaf llwyddiannus tîm Coleg y Cymoedd ers iddo gychwyn yn 2013 yn diln uno Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach. Yn ogystal â chyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm, enillodd y tîm Ffeinal Uwch-Gynghrair ‘Premier’ Colegau Prydain, y tîm cyntaf erioed o Gymru i wneud hyn. Roedd ail dîm y coleg hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Colegau Prydain.
Dywedodd Clive Jones, y cyfarwyddwr rygbi yng Ngholeg y Cymoedd:
“Bu 2014-15 yn dymor llwyddiannus arall i’r rhaglen rygbi. Mae cyrraedd y ffeinals y tymor hwn wedi gwella hyd yn oed ar berfformiad y tîm y llynedd. Roedd trechu ein hen elynion Coleg Sir Gâar yn goron ar y cwbl.
“Roedd ymroddiad a darpariaethau’r bechgyn yn eithriadol. Adlewyrchwyd hyn drwy i 6 ohonyn nhw gael eu dewis ar gyfer y tîm dan 18 a phedwar gael eu dewis i’r tîm dan 20. Mae ail dîm y coleg hefyd wedi cael eu haeddiant drwy ennill lle anrhydeddus yng Nghwpan Colegau Prydain i ail dimau.â€
Mae un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi sicrhau ei le gyda sgwad cenedlaethol o dan 18 oed Cymru ef Calum Haggett o Donyrefail sydd wedi bod yn gapten ar y tîm cenedlaethol y tymor hwn.
Tra’n chwarae dros Gymru a Gleision Caerdydd, mae Calum yn mynychu Coleg y Cymoedd lle mae’n astudio Mathemateg, Bioleg a Ffiseg ac yn hyfforddi a chwarae gydag Academi Rygbi’r Coleg.
Yn Academi Rygbi’r Coleg , mae Calum yn derbyn hyfforddiant rygbi arbenigol, i ddadansoddi rygbi a chryfder i ddatblygu ei botensial i’r eithaf. Fodd bynnag, mae Academi’r Coleg hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr rygbi’n cael; eu paratoi’n academaidd petai pethau ddim yn gweithio allan iddyn nhw o ran gyrfa ym maes rygbi.
Aeth Clive Jones ymlaen i ddweud, er mor ddymunol ydy cyrraedd tri ffeinal, mae hyd yn fwy arbennig bod Calum wedi cael cynnig lle amodol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’n dangos bod y rhaglen yn gweithio ar y maes ac oddi ar y maes. Rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar weithio gyda’r bechgyn hyn i ddatblygu priodweddau a gwerthoedd a fydd yn eu helpu i lwyddo yn y dyfodol, ym myd addyg, cyflogaeth neu rygbi proffesiynol.”
“