Teithiodd pedwar o fyfyrwyr cwrs Coginio Proffesiynol Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach i Ogledd Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Sgiliau Coginio Cymru eleni.
Bu’r tîm, Bethan Stephens, Paige Ellis, Ieuan Hall a Liam Dare, yn arddangos eu sgiliau yn erbyn dysgwyr o golegau eraill ar hyd a lled Cymru, ac fe enillon nhw gasgliad da o fedalau.
Cafodd pob cogydd ei brofi yn y gegin a’r bwyty, gan ddangos eu sgiliau yn ymestyn o ‘dorri llysiau’ hyd at ‘osod bwrdd’, oedd hefyd yn cynnwys plygu napcyn.
Yn ôl eu Tiwtor Lletygarwch ac Arlwyo, Ian Presgrave: “Mae’r gystadleuaeth yn brofiad da i’r rhai sy’n dysgu, gan ei bod yn brawf o’u stamina i weithio dan bwysau, ac yn eu paratoi ar gyfer gwaith mewn ceginau a bwytai go iawn. Dwi’n gwybod eu bod i gyd yn nerfus o weithio o flaen pobl eraill ac yn erbyn y cloc. Ond fe wnaethon nhw’n dda iawn a chael adborth ardderchog gan rai o gogyddion amlycaf Cymru, oedd yn gweithredu fel beirniaid. Roeddwn i’n hynod falch o’r Tîm.
“