Ysbryd y Nadolig yng Ngholeg y Cymoedd

Mae grŵp o ddysgwyr caredig yng Ngholeg y Cymoedd wedi bod wrthi’n codi arian ar gyfer rhai elusennau teilwng iawn.

Ffurfiodd 30 o ddysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n astudio ar y cwrs 90 Diploma Credyd Gwasanaethau Cyhoeddus yng nghampws Nantgarw, grŵp i gynllunio, trefnu a chasglu bwyd a rhoddion.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyflwynwyd cyfanswm o dros 100 o anrhegion Nadolig wedi’u lapio i Latch” Ward  yr Enfys yn Ysbyty Plant Cymru a Hosbis Plant TÅ· Hafan, ynghyd â pharseli bwyd ar gyfer nifer o fanciau bwyd ar draws Rhondda Cynon Taf.

Trefnwyd casgliad ar wahân hefyd i roi rhodd i Annie’s Rainbow; elusen arall sy’n agos iawn at galon pawb yn y coleg.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio ar y prosiect hwn. Nid yn unig roedd yn ein galluogi i ddod ynghyd fel grŵp i wneud gwahaniaeth yn ein cymuned leol, gan roi rhywbeth bach i bobl sydd naill ai’n wael neu’n cael trafferthion y Nadolig hwn i helpu codi eu calon, ond mae hefyd wedi ein galluogi i ddatblygu’n eang ystod o sgiliau megis datrys problemau, cyfathrebu, rhifedd a gwaith tîm. Gobeithiwn y bydd ein hymdrechion yn dod ag ychydig o hapusrwydd i’w bywydau dros y Nadolig.

Ychwanegodd y tiwtor balch, Sue Underwood Gibbs, “Am gorwynt o gyfnod! O’r dechrau i’r diwedd mae’r dysgwyr wedi bod yn anhygoel ac oherwydd eu hymroddiad a’u gwaith caled maent wedi helpu cymaint o deuluoedd a phlant yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae eu hymrwymiad, eu hamser a’u hegni wedi gwneud y prosiect hwn yn llwyddiant mawr. Dylent oll fod yn falch iawn ohonynt eu hunain.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau