Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru 2023 – Noson Wobrwyo

Nos Iau, 9fed o Fawrth, dathlodd Coleg y Cymoedd lwyddiant 72 o’u dysgwyr oedd wedi cymryd rhan yng nghystadlaethau Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau (ISE) yng Nghymru 2022/23.

Mewn digwyddiad drwy wahoddiad yn unig a gynhaliwyd ar gampws Nantgarw, mwynhaodd bron i 200 o ddysgwyr, staff ac aelodau o’r teuluoedd a ffrindiau bwffe poeth a cherddoriaeth cyn ymgynnull i wylio’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi wedi’u ffrydio’n fyw.

Agorwyd y noson gyda chyflwyniad gan y Pennaeth, Jonathan Morgan, cyn i enillwyr Coleg y Cymoedd dderbyn eu tystysgrifau wrth i’w henwau gael eu cyhoeddi mewn amser real o leoliad ISE.

Hefyd yn bresennol roedd 10 dysgwr oedd wedi bod yn llwyddiannus ym mhencampwriaeth ‘WorldSkills UK’ 2021/22. Croesawyd nhw gyda chymeradwyaeth a thocynnau rhodd i’w llongyfarch,  fel y digwyddodd i wyth o fyfyrwyr Arlwyo a enillodd lu o wobrau ym Mhencampwriaeth Ryngwladol Arlwyo Cymru 2023.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn cynnig rhaglen o weithgareddau sy’n codi ymwybyddiaeth i lwybrau gyrfaol galwedigaethol a fydd yn cyfrannu at ddarpar dwf economaidd y wlad.

Mewn partneriaeth gyda cholegau a darparwyr dysgu yn seiliedig ar waith, mae cystadlaethau blynyddol ISE yn herio myfyriwr 16 oed a throsodd i ddatblygu eu sgiliau wrth iddyn nhw gystadlu ar draws ystod o sectorau, o Gerddoriaeth Boblogaidd i Seibr Ddiogelwch.

Dewiswyd Coleg y Cymoedd i groesawu Sialens Gynhwysol Arlwyo, Awyrofod a’r Tîm Gweithgynhyrchu yn ystod mis Ionawr eleni a chroesawyd cystadleuwyr o sefydliadau Addysg Bellach a hyfforddi ar draws Cymru i gymryd rhan.

Daeth llawer o bobl ynghyd a chawson weld cyfleusterau rhagorol y coleg.

Wrth sôn am y cyfleoedd roedd ISE yn eu cynnig, dywedodd Libby Morgan, Arweinydd ‘Futures’ ar gyfer Recriwtio a Chynnydd: “Rydyn ni mor falch o’n dysgwyr a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Sgiliau eleni. Rydyn ni bob amser yn annog eu cyfranogiad gan fod cystadleuwyr yn cael hwb mawr i’w hyder a gwella eu CV yn enfawr.

Mae’n wir yn bleser i’w gwylio yn tyfu a’u gweld yn symud ymlaen i bethau pwysig pan fyddan nhw’n gadael y coleg, boed yn syth i gyflogaeth yn eu dewis sector neu drwy gychwyn eu busnes eu hunain.”

Wrth siarad am lwyddiannau’r dysgwyr, dywedodd Matthew Watts, Cydlynydd Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd Coleg y Cymoedd: “Fe hoffwn ddiolch i’n staff a helpodd i’r cystadlu ddigwydd eleni, bu rhai ohonyn nhw’n cydlynu teithiau ledled Cymru i gefnogi’r dysgwyr oedd yn cymryd rhan.

Nid yn unig hynny, fe gawson hefyd ein syfrdanu gan sgiliau trefniadol ein Gwasanaethau Campws, yr adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau, a weithiodd i’r funud olaf i sicrhau ein bod yn gallu cynnal digwyddiadau ar y safle. Roedd gennyn ni hyd yn oed dri aelod o staff oedd yn feirniaid y tro hwn.

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am yr amser a’r ymdrech maen nhw wedi ei roi i ni. Mae’r nifer anhygoel o dystysgrifau y mae Cymoedd wedi eu derbyn heno yn dystiolaeth i’w hymroddiad.”

Hoffai Coleg y Cymoedd longyfarch yr holl enillwyr a myfyrwyr a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru eleni.

Celfyddyd Coginio

Abbie Williams – Aur

Cerddoriaeth Boblogaidd

Evan Davies – Efydd

Toby King – Efydd

Faith Williams – Efydd

Alice Wilson – Efydd

Codio

Luke Mears Boswell – Efydd

Ffotograffiaeth

Tyler Whitney – Arian

Morag Moore – Efydd

Gwaith plymwr a gwresogi

Luke Evans – Aur

Her Tîm Gweithgynhyrchu

Lloyd Lawrence – Efydd

Georgia Price – Efydd

Patisserie & Melysion

Mali Leese – Arian

Seiberddiogelwch

James Smee – Aur

Callum Payne – Aur

Sgiliau Cynhwysol: Gwaith Coed Sylfaenol

Freddy Dragotta – Aur

Owen Davies – Arian

Kurt Richards – Arian

Callum Harvey – Efydd

Sgiliau Cynhwysol: Cynorthwyydd Ffitrwydd

Madeline Ashford – Aur

Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau

Halen Cusak – Aur

Logan Davies – Aur

Ethan Robinson – Aur

Technegydd Cymorth TG

Sebastian Archer – Efydd

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau