Ysgol arlwyo Coleg y Cymoedd yn ennill wobr genedlaethol am yr ail flwyddyn yn olynol

Cyhoeddodd y 6ed Gwobrau Bwyd Cymru (Food Awards Wales) 2023 ei enillwyr, yn dathlu goreuon diwydiant bwyd y wlad.

Roedd y seremoni wobrwyo gynhaliwyd ddydd Llun Mehefin 25 yng Ngwesty Mercure Holland House, yn cydnabod a gwobrwyo talent a gwaith caled y diwydiant bwyd yng Nghymru, gan amlygu’r bwytai, y siopau cludfwyd, y tafarndai, y caffis a’r cynhyrchwyr gorau.

Dewiswyd yr enillwyr ar sail pleidleisiau’r cyhoedd a enwebodd eu hoff leoedd ar draws y gwahanol gategorïau, gan gynnwys ymhlith eraill, Bwyty’r Flwyddyn, Tafarn Gastro’r Flwyddyn, Cogydd y Flwyddyn a’r Bwyd Stryd Gorau.

Nod y Gwobrau oedd cydnabod rhagoriaeth ar draws y gwahanol gategorïau, arddangos y lleoedd bwyta gorau yng Nghymru a hyrwyddo diwydiant y wlad, gan ddathlu ei amrywiaeth a’i ansawdd.

Bwyty ‘Scholars’ ar gampws Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd’ oedd un o’r rhai yn  rownd derfynol yng nghategori Ysgol Goginio’r Flwyddyn. Roedd hi’n gystadleuaeth frwd iawn ond nhw dderbyniodd y gwpan.

Dywedodd Hayley Hunt, Pennaeth Trin Gwallt, Harddwch a Lletygarwch Coleg y Cymoedd wrth sôn am y wobr; “Mae’n anhygoel o anarferol i ennill Gwobr Ysgol Goginio Orau Cymru ddwy flynedd yn olynol, felly rydyn ni wrth ein boddau. Mae’n deyrnged i waith caled ein myfyrwyr a’n staff ymroddedig a fu mewn swyddi pwysig, arweiniol yn y diwydiant.”

Oherwydd llwyddiant anhygoel ei ddysgwyr a ddaeth yn gyntaf a thrydydd yng Ngwobrau Teisennwr Ifanc y Flwyddyn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â chyrraedd y rownd derfynol Tîm Bwyty Ifanc y Flwyddyn yn Academi Gordon Ramsay, mae cyrsiau Arlwyo Coleg y Cymoedd yn denu’r cogyddion ifanc mwyaf addawol yng Nghymru.

Mae rhestr ddisglair cyn-fyfyrwyr yn cynnwys Michael Coggan ac Andrew Minto, a aeth ymlaen i ennill Bake Off – The Professionals ar Sianel 4 ac mae eu bwytai ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili wedi derbyn adolygiadau pum seren ar Tripadvisor.

Mae ennill y wobr hon yn ddiweddglo gwych i flwyddyn Arlwyo ar gampws Ystrad Mynach wrth iddyn nhw ddathlu eu penblwydd yn hanner cant oed yn 2023 . Dywedodd Stuart Davies, Darlithydd ar y cwrs Coginio Proffesiynol “Cyn gynted ag y mae’r myfyrwyr yn cerdded i mewn drwy ein drysau, rydyn ni yn eu paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Yn ystod y llynedd yn unig, gwariwyd dros £2 filiwn yn gwella bwyty ‘Scholars’ a chyfleusterau arlwyo Ystrad Mynach, er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o’r dysgwyr maes lletygarwch ac arlwyo yn cael y profiadau gorau ac yn dilyn yn ôl troed cyn ddysgwyr sydd wedi mynd i sicrhau swyddi ym mhrif fwytai a bariau’r DU, ac y mae rhai ohonyn nhw bellach wedi sefydlu busnesau arlwyo llwyddiannus eu hunain.”

Yn ôl llefarydd ar ran Gwobrau Bwyd Cymru 2023: “Fe gawsom ymateb ysgubol gan y cyhoedd, a enwebodd sefydliadau gwych ledled y wlad.

“Mae’r gwobrau hyn yn dyst i angerdd ac ymroddiad diwydiant bwyd y wlad, ac i waith caled y rhai sy’n darparu profiadau coginio eithriadol i’w cwsmeriaid. Dylai’r enillwyr fod yn falch o’u cyflawniad, gan eu bod yn cynrychioli’r gorau o fyd paratoi bwydydd yng Nghymru, ac maen nhw’n wir adlewyrchiad o ansawdd ac amrywiaeth y diwydiant.

“Llongyfarchiadau i bob un o’r enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol – maen nhw wedi arddangos rhagoriaeth yn eu priod gategorïau.”

I nodi bod gennych ddiddordeb mewn astudio Coginio Proffesiynol yn Ysgol Goginio orau Cymru, ewch yma: www.cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau