Zoe yn llysgennad teilwng o fod ar restr fer Prentis y Flwyddyn

Roedd Zoe Batten yn sicr nad oedd am fynd i brifysgol. Sylweddolodd mai Prentisiaeth fyddai’r ateb delfrydol iddi hi, yn ei galluogi i weithio tra’n dysgu ac ennill cymwysterau i’w chynorthwyo i symud yn ei blaen yn ei chyflogaeth.

Nawr, mae Zoe, 21 oed, Coleg y Cymoedd prentis Peiriannydd Awyrofod gyda British Airways Avionic Engineering yn Nhonysgyboriau yn y ras i ennill un o brif wobrau Gwobrau Prentisiaeth Cymru 2015.

Mae’n un o’r pedwar sydd ar restr fer categori Prentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo nodedig i’w chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor,Casnewydd, Hydref 29.

Mae’r gwobrau hyn, sy’n uchel eu bri, yn dathlu cyflawniadau nodedig a phwysig y rhai sydd wedi rhagori ar yr hyn y disgwylid ganddyn nhw, y rhai sydd wedi dangos dull deinamig o fynd ati i hyfforddi ac wedi dangos menter, arloesedd, creadigrwydd ac ymroddiad i wella datblygiad sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Wedi’u cyd-drefnu gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), noddir y gwobrau gan Pearson PLC gyda Media Wales fel y partner cyfryngol. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ym mis Mehefin, cwblhaodd Zoe sy’n byw yng Nghilfynydd, Pontypridd Lefel 3 Llwybrau i Brentisiaeth mewn Peirianneg (Cymru) yn BAAE yn llwyddiannus gan gyfawni’r radd uchaf yn ogystal ag ystod o gymwysterau eraill. Cyflenwyd ei Phrentisiaeth gan y darparwr dysgu, sef Coleg y Cymoedd.

O’r cychwyn, cymerodd y Zoe, sy’n swil, at y rôl a chafodd ei phenodi’n brif gyswllt rhwng BAAE a’r prentisiaid ar y cwrs. “Galluogodd hyn i mi ennill ymddiriedaeth a pharch fy nghyd-brentisiaid drwy wrando a choladu adborth a’i gyflwyno’n broffesiynol i BAAE,” meddai Zoe.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y Brentisiaeth, gorffennodd gyda gradd rhagoriaeth a’i henwi’n fyfyriwr y flwyddyn. Yn ystod yr ail flwyddyn, cafodd ei symud o gwmpas gwahanol feysydd BAAE er mwyn iddi gael dealltwriaeth dda o’r busnes, a thyfu mewn hyder.

“Yn ystod y drydedd flwyddyn, fe wnes i gwblhau fy ngwaith i safon uchel yn gyson, gan gwrdd â’r holl ddedleins cyn pryd,” ychwanegodd Zoe. “Does dim dwywaith na fyddwn lle rydw i heddiw heb y cyfle i ymgymryd â Phrentisiaeth.

“Dw i wedi cael profiad unigryw o weithio mewn diwydiant technegol ac uchel ei sgiliau. Mae hefyd wedi fy rhoi ar lwybr gyrfaol yr ydw i’n ei fwynhau ac wedi darparu llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, datblygiad a hyrwyddo na fyddwn i wedi eu cael drwy ddilyn unrhyw lwybr arall.”

Dywedodd Brian Parcell, pennaeth gweithrediadau BAAE: “Mae Zoe wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol ei Phrentisiaeth i ddatblygu’n llysgennad teilwng nid yn unig ar gyfer BAAE ond ar gyfer y rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru.”

Llongyfarchwyd Zoe a’r 36 eraill yn y rowndiau terfynol gan Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. “Mae gennym brentisiaeth gwirioneddol eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn darparu llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” meddai.

“Yr un mor bwysig ydy’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr hynny sy’n mynd yr ail filltir i gynorthwyo eu prentisiaid. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol ar gyfer ein heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i raglenni hyfforddiant megis Prentisiaethau ond rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng y sector busnesau ac unigolion.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau