Croeso gan Bennaeth yr Ysgol ar gyfer Chwaraeon, Teithio a Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn ystod eich cwrs byddwch yn treulio’ch amser yn dysgu am hyfforddiant a rhaglenni ffitrwydd, ffisioleg, hyfforddi chwaraeon, datblygu a maeth yn ogystal â gwella’ch sgiliau ymarferol ar y cae ac yn y gampfa.
Bydd cyfle ichi gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau hyfforddi ymarferol, chwarae rôl a digwyddiadau chwaraeon. Bydd cyfle ichi fynd ar ymweliadau gweithgareddau awyr agored ac anturus (y tu mewn a’r tu allan i’r DU), gwirfoddoli mewn gwyliau datblygu chwaraeon ac arsylwi sesiynau gan hyfforddwyr elitaidd
Gall ymweliadau gan ystod eang o arbenigwyr o’r diwydiant chwaraeon roi cipolwg ichi ar waith o ddydd i ddydd y gweithwyr proffesiynol yn eich maes.
Mae gan ddysgwyr chwaraeon fynediad at ddatblygiad 4G newydd gwerth hanner miliwn o bunnoedd ar dir Clwb Rygbi Pontypridd, Ffordd Sardis a chyfleusterau Academi Elit Caerffili, gwerth miliynau o bunnoedd, wrth ymyl campws Ystrad Mynach. Mae’r Ganolfan Chwaraeon Elit gwerth £7 miliwn yn cynnwys caeau rygbi a phêl-droed 4G o’r radd flaenaf. Defnyddir y cyfleusterau hyn ar gyfer sesiynau ac asesiadau ymarferol ochr yn ochr â chwaraeon a gemau cartref academïau pêl-droed a rygbi’r coleg.
Ochr yn ochr â’n cyrsiau academaidd craidd, rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o academïau chwaraeon:
Mae ein henw da wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf gyda Choleg y Cymoedd yn cyrraedd nifer o rowndiau terfynol. Mae canran uchel o’n chwaraewyr wedi ennill capiau dros Gymru dan 20 oed. Y tymor hwn mae cyn-chwaraewyr wedi ennill capiau llawn dros Gymru.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cyfuno â’r coleg i lansio academi elit pêl-droed i ferched. Bydd y merched o bob rhan o Gymru yn cyfuno sesiynau hyfforddi dyddiol gyda’u hastudiaethau llawn amser. Mae llawer o’n chwaraewyr wedi chwarae dros Gymru.
Sefydlwyd ein hacademi Pêl-droed mewn partneriaeth gyda Cambrian & Clydach Vale BGC. Mae hyfforddiant, sesiynau yn y gampfa a gemau wythnosol ar gael ar gyfer yr holl ddysgwyr. Mae nifer o chwaraewyr wedi chwarae dros Gymru.
Mae’r academi ar agor i ddysgwyr sy’n astudio ar ein rhaglenni chwaraeon. Ar wahân i sesiynau hyfforddi bydd dysgwyr yn elwa o sesiynau cryfder a chyflyru gyda hyfforddwyr cymwys, profi ffitrwydd yn gyson, cyngor ar faethiad a chymryd rhan mewn gemau cynghrair, cwpan a gemau cyfeillgar.
Bydd ein hyfforddwyr cymwysedig yn helpu dysgwyr gyda phob agwedd ar eu hyfforddiant o sesiynau cryfder a chyflyru, profion ffitrwydd rheolaidd a chyngor maeth.
Daeth yr Academi hon i fodolaeth drwy ymrwymiad Rygbi Cynghrair Cymru a’r coleg i greu darpariaeth fel y gall chwaraewyr talentog Rygbi Cynghrair Cymru gael cymwysterau addysgol a hyfforddiant o’r radd flaenaf.