Os wyt ti’n chwilio am le i astudio sy’n agos i gartref, cyfeillgar a chefnogol, edrycha dim pellach na Choleg y Cymoedd.
Mae gyda ni ystod eang o gyrsiau i ti ddewis ohonynt, p’un a oes gennyt ti ddiddordeb mewn addysg bellach neu uwch, hyfforddiant galwedigaethol, neu brentisiaethau.
Byddi di wrth dy fodd â’n pedwar campws: mae gyda ni gyfleusterau modern a thiwtoriaid profiadol sy’n frwd dros dy helpu i lwyddo. Rydyn ni yma i ti bob cam o’r ffordd.
Dere i ymuno â ni yn ein Digwyddiad Agored, lle gelli di weld drosot ti dy hun yr hyn sydd gan Goleg y Cymoedd i’w gynnig.
Gelli di archwilio ein campysau, sgwrsio â’n tiwtoriaid, a chael cyngor ar bopeth o gyllid i gofrestru. Mae’n gyfle gwych i ddarganfod pam mai Coleg y Cymoedd yw’r dewis iawn i ti.
Rydyn ni’n cynnal Digwyddiadau Agored ar bob un o’n pedwar campws drwy gydol y flwyddyn ac yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd i roi gwybod i ti am ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Os oes gyda ti unrhyw gwestiynau, cysyllta â’n Tîm Derbyn cyfeillgar yn admissions@cymoedd.ac.uk.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR