Ynghylch Coleg y Cymoedd

Croeso. Yng Ngholeg y Cymoedd rydyn ni’n croesawu dysgwyr o bob oed a chefndir i’n pedwar campws yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Yng Ngholeg y Cymoedd rydyn ni’n trawsnewid bywydau drwy ddysgu. Gyda’n gilydd rydyn ni’n creu eich llwyddiant i’r dyfodol.

Rydyn ni’n cyflawni hynny drwy ddarparu addysg a hyfforddiant yn Ne Cymru. Mae Coleg y Cymoedd yn trawsnewid addysg ar ein pedwar campws o’r radd flaenaf.

Amdanom ni yng Ngholeg y Cymoedd

Dysgwch am y coleg, ein pedwar campws a’n staff addysgu rhagorol.

Ein lleoliadau

Mae Cymoedd wedi buddsoddi mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf ym mhob un o’r pedwar campws coleg.

Gyrfaoedd

Ymunwch â thîm Coleg y Cymoedd. Edrychwch ar ein swyddi gwag diweddaraf a darganfyddwch sut i wneud cais.

Gwasanaethau i’r Cyhoedd

Mae ein bwytai, salonau a chyfleusterau eraill yn cael eu staffio gan ddysgwyr ac maent ar agor i’r cyhoedd.

Pwy yw Coleg y Cymoedd

Ffurfiwyd Coleg y Cymoedd yn 2013 trwy uno Coleg Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg. Erbyn hyn mae gan y coleg bedwar campws yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach.

Mae mwy na 9,000 o ddysgwyr yn astudio gyda ni bob blwyddyn ar ystod o gyrsiau amser llawn a rhan amser o lefel mynediad i lefel gradd.

Coleg y Cymoedd Campws Aberdar

Mae gyda ni un pwrpas yng Ngholeg y Cymoedd: trawsnewid bywydau drwy ddysgu.

Rydyn ni’n cyflawni’r diben hwnnw drwy ddarparu addysg a hyfforddiant yn Ne Cymru. Mae Coleg y Cymoedd yn trawsnewid addysg ar ein pedwar campws o’r radd flaenaf.

  • Mae’r coleg yn cynnig cyrsiau llawn a rhan amser ar draws mwy na 15 maes cwricwlwm.
  • Gall ein dysgwyr astudio cyrsiau o lefel mynediad i radd lawn.
  • Coleg y Cymoedd yw un o’r darparwyr prentisiaethau a darpariaeth dysgu seiliedig ar waith mwyaf yng Nghymru, gyda dros 3,000 o ddysgwyr ar y rhaglenni hyn.
  • Mae ein darpariaeth prentisiaethau yn un o’r rhai mwyaf amrywiol yn y DU. Mae mwy na 27 o lwybrau pwnc ar gael.
  • Mae gyda ni gysylltiadau ardderchog â diwydiant ac yn gweithio gyda dros 1,200 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol.
96%

o ddysgwyr yn argymell Coleg y Cymoedd i ffrind

Rydyn ni’n gweithio gyda dros

1200

o gyflogwyr lleol a chenedlaethol

Ein Gwerthoedd yng Ngholeg y Cymoedd

Mae pawb yng Ngholeg y Cymoedd yn cyd-fynd â chwe gwerth craidd y coleg.

Creadadwy

Agored, onest a thryloyw yn y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu ac yn adeiladu perthnasoedd.

Cefnogol

Rydyn ni’n chwaraewyr tîm, yn cydweithio ac yn annog ein gilydd i fod yn chwilfrydig, yn hyblyg ac yn wydn.

Canolbwyntio ar bobl

Rydyn ni’n canolbwyntio ar les dysgwyr a’n pobl drwy ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol a lefelau uchel o ymgysylltu.

Athrawes yn helpu dysgwr

Gan gynnwys

Meithrin amgylchedd gofalgar lle gwrandewir ar ein dysgwyr a’n pobl a lle cânt eu deall a’u gwerthfawrogi, fel y gall pob un ohonynt gymryd rhan a chyfrannu’n ystyrlon.

Cyfrifol

Mae pob un ohonom ni’n gweithredu mewn ffordd gyfrifol ac yn parchu pobl, adnoddau’r coleg a’r amgylchedd.

Cydnerth

Mae gyda ni’r hyder i wneud penderfyniadau cadarnhaol sy’n seiliedig ar atebion. Mae hyn yn ein gwneud ni’n uchelgeisiol, yn angerddol ac yn ymrwymedig i fod y gorau y gallwn fod.

Ein cenhadaeth

Gyda’n gilydd rydyn ni’n creu eich llwyddiant i’r dyfodol.

 Ein gweledigaeth

Cael ein cydnabod fel coleg eithriadol.

Ein pwrpas

Trawsnewid bywydau trwy ddysgu.

Buddsoddi yn ein cole

Yng Ngholeg y Cymoedd dydyn ni byth yn rhoi’r gorau i fuddsoddi yn adeiladau a seilwaith ein coleg. Mae buddsoddiad mewn cyfleusterau yn fuddsoddiad yn nyfodol ein dysgwyr. Edrychwch ar sut mae ein coleg wedi trawsnewid dros amser:

2013

Buddsoddi yn Nantgarw

£40 miliwn i adeiladu campws modern Nantgarw.

2015

Gwella cyfleusterau cerbydau modur Ystrad Mynach

£2.4 miliwn ar y Ganolfan Hyfforddi Rheilffyrdd yn Nantgarw a £1.8 miliwn ar y Cyfleuster Cerbydau Modur yn Ystrad Mynach.

2017

Adeiladu Aberdâ

£22 miliwn i adeiladu campws Aberdâr

2021

Adnewyddu’r Rhondda

£3.4 miliwn o adnewyddu yn y Rhondda

2022

Gwella Ystrad Mynach

  £10.5 miliwn i adnewyddu Ystrad Mynach.

2023

Canolfan Chwaraeon

 £7.5 miliwn i adeiladu Canolfan Ragoriaeth Chwaraeon Nantgarw.

Newyddion Coleg y Cymoedd

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd