Mae Coleg y Cymoedd yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Rhondda Cynon Taf a Chaerffili gyda dros 800 o staff yn cael eu cyflogi
Rydym yn anelu at gael gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ymgeiswyr â chymwysterau addas o ystod eang o gefndiroedd i wneud cais ac ymuno â Choleg y Cymoedd.
Wrth weithio yng Ngholeg y Cymoedd, gallwch ddisgwyl derbyn y buddion canlynol: –
– Cyflog cystadleuol yn y Sector AB
– Gwyliau blynyddol hael
– Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon
– Cyfleoedd gyrfa a datblygiad personol ardderchog
– Hyfforddiant am ddim ar gyrsiau a ariennir gan y Coleg
– Cyfle i ddysgu Cymraeg
– Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy’n rhad ac am ddim
– Mynediad i Dalebau Gofal Plant a Chynlluniau Beicio i’r Gwaith
– Darpariaeth iechyd galwedigaethol
– Cyfres lawn o bolisïau sy’n gyfeillgar i’r teulu er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
– Campfeydd yng nghampysau Nantgarw ac Ystrad Mynach
– Parcio am ddim ym mhob campws
Gellir cyrchu ein Ffurflen Gais drwy glicio yma. Ar ôl ei gwblhau eich cais, gallwch ei anfon atom drwy e-bost at careers@cymoedd.ac.uk
Fel arall, gallwch bostio eich cais at Pobl a Diwylliant, Campws y Rhondda, Heol Pontrhondda, Llwynypia, Tonypandy, CF40 2TQ.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person i egluro sut mae eich sgiliau, eich profiad a’ch rhinweddau yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd. Nid ydym yn derbyn CV ac efallai na fydd unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl yr amser a’r dyddiad cau yn cael eu derbyn.
Os hoffech siarad ag aelod o’r tîm am unrhyw swyddi gwag, cysylltwch â ni ar careers@cymoedd.ac.uk