Mentora a Modelau Rôl

Cynllun Mentora i Ddysgwyr Benywaidd

BETH YW’R CYNLLUN MENTORA?

Rydym yn grŵp o weithwyr proffesiynol sydd am gefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau a nodau gyrfa trwy gynllun mentora.

Os ydych am ymuno â’r cynllun, cewch eich paru â mentor sydd â sgiliau neu brofiad gwaith perthnasol yn y maes yr hoffech weithio ynddo, neu a all eich helpu gyda meysydd datblygiad personol yr ydych am weithio arnynt.

Bydd eich mentor yn seinfwrdd cyfrinachol ichi, a byddwch yn gallu trafod eich dyheadau gyrfa a’ch datblygiad personol gyda nhw. Gyda’ch gilydd, byddwch yn llunio cynllun gweithredu i’ch galluogi i gyrraedd eich nodau.

Bydd y cynllun yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, gyda myfyrwyr yn cwrdd â’u mentoriaid am awr, unwaith y mis naill ai wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo

Y mathau ffyrdd y gallwn helpu

Hoffem eich helpu i ddatblygu rhai sgiliau y gallwch eu defnyddio yn y gweithle ac yn eich bywyd personol. Hefyd, hoffem ichi fanteisio ar ein profiad ni, fel bod modd ichi osgoi gwneud yr un camgymeriadau ag y gwnaethom ni.

Dyma rai o’r pethau y gallwch siarad â ni amdanynt. Mae’n rhaid bod mwy na’r rhain, ond dyma fan cychwyn da:

  • Gwella lefelau hyder
  • Ffurfio perthnasoedd trwy gyfathrebu da
  • Siarad â phobl na fyddech fel arfer yn siarad â nhw
  • Perswadio pobl i weld eich safbwynt chi
  • Sut y disgwylir ichi ymddwyn yn y gwaith
  • Gosod nodau
  • Paratoi ar gyfer cyfweliad
  • Llunio CV
  • Deall eich potensial eich hun
  • Deall eich cryfderau a sut i’w defnyddio’n effeithiol
  • Rheoli’ch gwendidau
  • Yr hyn sydd ei angen i fod yn arweinydd

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni

Rydym yn eithaf dibynadwy, felly byddwn yn cadw at ein gair, ac os na allwn wneud hynny, byddwn yn dweud wrthych cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn cadw ein trafodaethau’n gyfrinachol, oni bai fod yr hyn a ddywedir yn dod o dan bolisi Diogelu’r coleg. Os felly, mae’n rhaid inni ddweud wrth y coleg, ond rown wybod ichi cyn gwneud.

Yn ein cyfarfod cyntaf, byddwn yn cytuno ar rai rheolau sylfaenol fel ein bod ni’n dau yn gwybod sut y saif pethau.

Beth na fyddwn yn ei wneud

Nid eich rhieni ydym ni felly ni fyddwn yn benthyg unrhyw arian ichi nac yn gofyn ichi anfon neges destun yn dweud pryd y byddwch gartref. Ac ni fyddwn yn codi bwyd ichi o McDonalds ar y ffordd i’n cyfarfod mentora chwaith.

Nid oes unrhyw beth yn bendant yn y cynllun mentora, felly os nad ydych am ysgrifennu cynllun gweithredu, does dim rhaid ichi wneud hynny. Er, byddwch chi a’ch mentor yn cytuno ar yr hyn y byddwch yn ei drafod ac yn ei wneud yn eich cyfarfodydd, nid oes rhaid ichi gadw unrhyw gofnodion neu waith papur oni bai eich bod am wneud hynny.

Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Rydym ond yn gofyn ichi ddod i’ch cyfarfodydd (naill ai wyneb yn wyneb neu drwy fideo), ac os na allwch ddod, i roi cymaint o rybudd inni ag y bo modd.

Cadwch at y rheolau sylfaenol y cytunir arnynt â’ch mentor yn eich cyfarfod cyntaf, a bydd popeth yn iawn.

Os nad yw pethau’n mynd fel yr oeddech yn ei ddisgwyl, neu os nad ydych wedi cael yr hyn sydd ei angen arnoch o’r sesiynau, rhowch wybod inni. Does dim pwynt parhau gyda’r sesiynau os nad ydych eisiau neu os nad oes angen.

Tystebau

Megan Howells

Astudiodd Megan yng Ngholeg y Cymoedd yn 2017, gan ennill Safon Uwch yn y Gyfraith (A *), Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (A *), Hanes (A), a Bagloriaeth Cymru (A). Mae bellach yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen.

“Mae’r cynllun mentora wedi rhoi cyfle amhrisiadwy imi ddatblygu fy sgiliau a’m diddordeb yn fy mhwnc. Cyn dechrau’r cynllun, roeddwn yn teimlo ar goll ac yn ansicr ynghylch sut y gallwn benderfynu beth yr oeddwn am ei wneud ar ôl gadael y brifysgol. Fodd bynnag, mae gweithio gyda’r Barnwr Cyflogaeth Davies wedi rhoi cyfoeth o brofiad imi mewn ystod eang o feysydd yn ymwneud â’r Gyfraith. Mae’r cynllun wedi caniatáu imi gael fy ymestyn a’m herio mewn modd sydd wedi gwella fy hyder, gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol. Rwyf nawr mewn sefyllfa lle mae gennyf ddiddordeb mawr yn y Gyfraith, yr adnoddau i wella fy mherfformiad academaidd, a’r profiad ymarferol i fy helpu â phenderfyniadau yn y dyfodol. “

Lauren Rice

Dechreuodd Lauren astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn 2017 ac mae wedi cwblhau ei Diploma BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3. Ar hyn o bryd mae’n astudio am ei Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n awyddus i fod yn nyrs pan fydd wedi graddio.

“Manteision y cyfarfodydd hyd yn hyn yw gallu adnabod rhinweddau yn fy hun nad wyf erioed wedi eu hadnabod o’r blaen. Mae’n fy ngalluogi i fod â mwy o ffydd a chred ynof fy hun nad oedd gennyf erioed o’r blaen. Bydd hyn o gymorth imi yn y dyfodol gan y bydd yn caniatáu imi dyfu’n fwy hyderus.

Rwyf yn credu y byddai myfyrwyr yn elwa o sesiynau mentora gan eu bod yn eich helpu i ddarganfod eich hun. Mae’r myfyrwyr yn canolbwyntio’n bennaf ar eu hastudiaethau ond yn anghofio amdanynt eu hunain yn y broses, dyma le mae pobl yn dechrau teimlo’n isel, ond mae cael sesiynau mentora ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn caniatáu ichi dreulio awr yn canolbwyntio arnoch chi eich hun a gweithio ar eich brwydrau personol megis diffyg hyder neu ddiffyg hunan-barch. “

Gwybodaeth i Fentoreion

Gwybodaeth i Fentoriaid

Useful Links

Cwrdd â’r Mentoriaid

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau