Iaith Arwyddion
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ydy dewis iaith tua 70,000 o Bobl Fyddar y DU. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod BSL yn iaith ynddi hi ei hun. Iaith ystumiau gweledol ydy BSL gyda’i gramadeg a’i hegwyddorion ei hun, sy’n gwbl wahanol i strwythur gramadegol Saesneg. Rydyn ni’n cynnig cymwysterau yn Iaith Arwyddion o Lefel 1 a Lefel 2.
Cymraeg
Clywir y Gymraeg yn gynyddol ar y cyfryngau, ar y strydoedd, yn y gweithle ac ymhlith plant. Efallai eich bod wedi bod yn dysgu’r Gymraeg am ychydig o flynyddoedd neu newydd benderfynu dysgu. Beth bynnag yw’r rhesymau, gall Coleg y Cymoedd eich helpu i wella neu’ch cychwyn ar y llwybr i ddatblygu’n siaradwr Cymraeg hyderus.
TGAU
TGAU ydy’r prif gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed. ond maen nhw ar gael i unrhywun a hoffai astudio pwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae ysgolion, colegau a chyflogwyr yn eu hystyried yn werthfawr iawn, felly’n ddefnyddiol ar gyfer beth bynnag yrydych yn cynllunio i wneud wedyn.