Rhaglenni Prentisiaeth mewn Adeiladwaith

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Mae gan gyflogwyr rôl ehangach wrth gyflwyno’r gyfres brentisiaeth newydd o gymwysterau yn y sector adeiladwaith a pheirianneg gwasanaethau adeiladu.

Eich rôl

  • Byddwch yn gweithio gyda dysgwyr ac yn eu cefnogi trwy gydol eu prentisiaeth.
  • Byddwch yn mynychu cyfarfod cychwynnol gyda’r darparwr hyfforddiant i nodi’r ystod o dasgau sydd eu hangen i fodloni datganiadau cymhwysedd y diwydiant. Byddwch yn cwblhau prosiect seiliedig ar waith ac yn llenwi ‘Cadarnhad Cyflogwr Ffurflen A’ a ‘Rhestr Wirio Cyflogwr Ffurflen B’
  • Byddwch yn darparu cyfleoedd i’r dysgwr gyflawni’r gweithgareddau a amlinellir yn y datganiadau cymhwysedd galwedigaethol a osodir gan y diwydiant.
  • Byddwch yn cyfarfod â darparwyr hyfforddiant i adolygu a chofnodi cynnydd y dysgwr drwy gydol eu prentisiaeth.
  • Byddwch yn cynorthwyo’r dysgwr i gasglu tystiolaeth i gadarnhau hyfedredd yn y gweithgareddau a gyflawnwyd ganddynt.
  • Mewn amgylchiadau cyfyngedig gall y cyflogwr drefnu gweithgareddau efelychiedig ar y safle/yn y gweithle i gasglu tystiolaeth.
  • Byddwch yn cefnogi’r dysgwr i ddogfennu eu tystiolaeth, e.e. trwy ddyddlyfr neu ddyddiadur.
  • Byddwch yn cadarnhau pan fydd y dysgwr wedi cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer y grefft a’u bod yn barod i symud ymlaen i’w asesiad terfynol (y drafodaeth broffesiynol). Byddwch yn cadarnhau drwy lenwi ‘Cadarnhad Cyflogwr Ffurflen A’ a ‘Rhestr Wirio Cyflogwr Ffurflen B’.
  • Byddwch yn cefnogi’r dysgwr i wneud cais am ei gerdyn cymhwysedd diwydiant perthnasol.

Ein rôl

  • Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr i arwain a chefnogi’r dysgwr ar hyd eu taith.
  • Byddwn yn mynychu cyfarfod cychwynnol gyda’r cyflogwr i nodi’r ystod o weithgareddau sydd eu hangen i fodloni datganiadau cymhwysedd y diwydiant a’r prosiect seiliedig ar wait.
  • Byddwn yn sicrhau ansawdd ‘Cadarnhad Cyflogwr Ffurflen A’ a ‘Rhestr Wirio Cyflogwr Ffurflen B’ a fydd yn galluogi’r dysgwr i symud ymlaen i’w asesiad terfynol, y drafodaeth broffesiynol.
  • Byddwn yn sicrhau bod y dystiolaeth a gesglir gan bob un o’n dysgwyr yn briodol ac yn gyflawn drwy gynnal a chofnodi samplu sicrhau ansawdd mewnol (a gadarnheir drwy lofnodi/dyddio adran 3 ‘Cadarnhad Cyflogwr Ffurflen A’)
  • Byddwn yn cefnogi’r cyflogwr a’r dysgwr i ddogfennu’r dystiolaeth, e.e. dyddlyfr neu ddyddiadur, fel y cyfeirir ato yn y datganiadau cymhwysedd galwedigaethol.

Gofynion tystiolaeth

Compiling the learner’s evidence should only start once the employer is satisfied the learner is consistently working at or above the criteria set out in the occupational competence statements. That is to say they are deemed to have achieved occupational proficiency. In making this decision, the employer may take advice from the learner’s training provider. The overall decision must ultimately be made the the employer(s).

  • Rhaid i ddysgwyr ddogfennu eu tystiolaeth yn ystod cyfnod ‘ar y rhaglen’ y brentisiaeth.
  • Rhaid iddo gynnwys digon o dystiolaeth, a gasglwyd yn y gweithle, i ddangos y datganiadau cymhwysedd galwedigaethol.
  • Fel arfer bydd yn cynnwys 15 darn o dystiolaeth, a gallai fod ar fformat dyddlyfr neu ddyddiadur.
  • Rhaid mapio tystiolaeth yn erbyn y datganiadau cymhwysedd galwedigaethol
  • Gallai ffynonellau tystiolaeth gynnwys (nid yw hon yn rhestr derfynol):
    • Dogfennaeth gweithle, er enghraifft cardiau swydd/taflenni gwaith, taflenni gwirio/cofnodion gwirio ansawdd, cofnodion damweiniau, cofnodion gwirio/cynnal a chadw offer
    • Manylebau anodedig, e.e. lluniadau, rhestrau torri, cyfarwyddiadau gwaith
    • Ffotograffau anodedig
    • Clipiau fideo (uchafswm o 10 munud) wedi’u hategu gan stampiau amser clir yn nodi pryd y bydd darnau allweddol o dystiolaeth yn codi.
  • Ni ddylai tystiolaeth gynnwys unrhyw ddulliau o hunanfyfyrio neu hunanasesu.
  • Dylai unrhyw gyfraniadau gan gyflogwyr ganolbwyntio ar arsylwi uniongyrchol (e.e. datganiadau tyst) o hyfedredd yn hytrach na barn.
  • Rhaid i’r dystiolaeth gael ei dilysu gan gyflogwr a chael ei chasglu’n ddiweddar. Dylai fod digon o dystiolaeth i ddangos bod y datganiadau perfformiad ar y safle wedi’u bodloni.
  • Rhaid i’r dystiolaeth a ddarperir fod yn ddilys ac yn berthnasol i’r dysgwr; rhaid i’r dystiolaeth ddogfenedig fod yn gyflawn. Mae llofnod y cyflogwr ar y ddogfen gadarnhau yn cadarnhau bod hyn yn wir.

Gwybodaeth i Ddysgwyr

I fod yn gymwys ar gyfer ein rhaglenni Prentisiaeth Adeiladwaith, bydd angen i chi fod:

  • Yn gyflogedig yn y sector adeiladu (gyda thystiolaeth o gontract cyflogaeth)
  • 16+ oed
  • Yn byw ac yn gweithio yng Nghymru

Yn ogystal â’r uchod, bydd angen i ymgeiswyr feddu ar un neu fwy o’r canlynol, neu gymwysterau cyfwerth, ar lefel y rhestr isod neu’n uwch:

  • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
  • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Lefel 2 neu Ddiploma yn y Grefft Adeiladu y mae’r brentisiaeth i’w dilyn ynddi
  • Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar lefel 1 neu’n uwch
  • TGAU gradd A*-D mewn unrhyw ddau o’r canlynol: pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddonol neu dechnegol
  • Gradd A*-D yn TGAU Amgylchedd Adeiledig CBAC
  • Teilyngdod Lefel 2 Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 CBAC mewn Dylunio’r Amgylchedd Adeiladu
  • TAG UG/UG CBAC Amgylchedd Adeiladu
  • Teilyngdod, Dyfarniad Technoleg BTEC Lefel 1/Lefel 2 Pearson mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig

Bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr fynychu cyfweliad yn llwyddiannus.

Gofynion Iechyd a Diogelwch

Er mwyn caniatáu i Brentis ddechrau ei raglen, yn gyntaf bydd angen i ni gynnal y gwiriadau Iechyd a Diogelwch angenrheidiol, yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni werthuso rheolaeth eich cwmni o iechyd, diogelwch a lles, i sicrhau bod dysgu/gwaith yn cael ei wneud mewn amgylchedd derbyniol lle mae’r risgiau’n cael eu rheoli.

Bydd angen i ni weld tystiolaeth o’r dogfennau a ganlyn, ochr yn ochr ag ymweliad safle byr:

  • Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Digonol
  • Tystiolaeth o unrhyw gofnodion cynnal a chadw perthnasol (fel profion PAT, cofnodion gwasanaeth offer goleuo ac ati) lle bo’n berthnasol
  • Rhagofalon tân
  • Darpariaeth Cymorth Cyntaf
  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Asesiadau risg gan gynnwys Tân a COSHH (lle mae mwy na phum gweithiwr)

Bydd y coleg yn monitro Iechyd a Diogelwch i brofi gweithrediad system reoli Iechyd a Diogelwch y cyflogwr drwy gydol y rhaglen Brentisiaeth.

Disgrifiad o’r Rhaglen

Mae prentisiaeth Lefel 3 City & Guilds mewn crefftau adeiladu wedi’i datblygu i ganiatáu i’r rhai mewn dysgu seiliedig ar waith ddangos a gwella eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth alwedigaethol mewn crefft adeiladu o’u dewis.

Mae’r brentisiaeth wedi’i hanelu at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni’r Diploma Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu a fydd yn cwblhau’r Lefel 2 Craidd mewn dysgu ac asesiadau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu tra oeddent ar eu prentisiaeth.

Pan gaiff ei gymryd fel rhan o brentisiaeth, bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gael eu profi’n gymwys i gael cyflogaeth yn y grefft o’u dewis yn ogystal â mynd ymlaen i astudio cyrsiau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’w dewis o grefft.

Dewisiadau

  • Gosod brics
  • Peintio ac Addurno
  • Gwaith Saer ar Safle
  • Plastro Solet

Nodweddion Rhaglen

Fel prentis bydd ymgynghorydd hyfforddiant yn cael eu neilltuo i chi a fydd yn eich goruchwylio a’ch cefnogi ar hyd eich taith ar y fframwaith hwn, gan weithio’n agos gyda’ch cyflogwr a thiwtoriaid yn y coleg.

Bydd disgwyl i chi fynychu’r coleg i ddysgu gwybodaeth greiddiol. Bydd asesiadau hefyd yn cael eu cynnal yn y coleg ac yn y gweithle yn rheolaidd. Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar theori a gwaith ymarferol.

Cynnwys y Rhaglen

Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth yn eu crefft ddewisol fel y nodir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.

Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau dwy uned graidd sy’n trafod y sector adeiladu ac ymarfer yn y sector yng Nghymru. Bydd y cymhwyster yn gludadwy ledled y DU a’i nod yw datblygu gallu dysgwyr i fodloni gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda stoc adeiladau traddodiadol, newydd a chyn 1919 a deall technolegau newydd a datblygol, megis dronau ac Argraffu 3D.

Dilyniant a Chyflogaeth

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr er mwyn iddynt allu gweithio yn eu dewis grefft ledled y DU.

Dull Asesu

Mae’r gwahanol bwyntiau mynediad i’r cymhwyster hwn yn golygu bod y llwybrau asesu’n amrywio.

Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymwysterau sylfaen a dilyniant, rhaid iddynt gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Un prawf amlddewis a gaiff ei osod a’i farcio’n allanol
  • Un prosiect a gaiff ei osod gan y cyflogwr, a gaiff ei asesu’n fewnol ac sy’n ymdrin â’r maes masnach o’u dewis
  • Un drafodaeth broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol

Os yw’r dysgwr wedi cyflawni’r cymhwyster sylfaen ond heb gwblhau’r cymhwyster dilyniant, rhaid iddynt gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Dau brawf amlddewis a gaiff eu gosod a’u marcio’n allanol
  • Un prosiect a gaiff ei osod gan y cyflogwr, a gaiff ei asesu’n fewnol ac sy’n ymdrin â’r maes masnach o’u dewis
  • Un drafodaeth broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol

Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster lefel 3 hwn fel rhan o’u prentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster sylfaen neu gymhwyster dilyniant yn gyntaf, rhaid iddynt gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Tri phrawf amlddewis a gaiff eu gosod a’u marcio’n allanol
  • Un prosiect a gaiff ei osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol
  • Un drafodaeth dan arweiniad a gaiff ei marcio’n fewnol
  • Un prosiect a gaiff ei osod gan y cyflogwr, a gaiff ei asesu’n fewnol ac sy’n ymdrin â’r maes masnach o’u dewis
  • Un drafodaeth broffesiynol a gaiff ei marcio’n allanol

Costau Ychwanegol

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ddod o hyd i’w hoffer amddiffynnol personol (PPE) eu hunain a’u prynu sy’n cynnwys esgidiau diogelwch, sbectol diogelwch, het galed a hi-vis.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun ac efallai y bydd costau ychwanegol hefyd os bydd yr adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Cyrsiau ychwanegol y gallech fod â diddordeb ynddynt

Cyrsiau Llawn Amser

Cyrsiau llawn amser ar gael drwy gwricwlwm craidd Coleg y Cymoedd.

Cyrsiau AB

Cyrsiau Addysg Bellach sydd ar gael drwy gwricwlwm AB Coleg y Cymoedd.

Hyfforddiant Busnes-Hanfodol

Mae cyrsiau llawn a rhan amser ar gael drwy’r Gwasanaethau Busnes. Mae llawer o gyrsiau sydd ar gael wedi’u hariannu.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau