Prentisiaethau

Beth yw Prentisiaeth?

Yn syml, mae prentisiaethau yn ffordd o ennill arian wrth ddysgu!

Byddwch yn cymhwyso drwy weithio a hyfforddi wrth ennill cyflog. Fel Prentis, bydd angen i chi fod yn gyflogedig yn y maes rydych am weithio ynddo ac ar yr un pryd byddwch yn datblygu sgiliau sy’n benodol ar gyfer eich swydd drwy gyfuniad o ddysgu yn y swydd a hyfforddiant yn y coleg.

Fel rhan o’ch amser yn y gwaith, byddwch yn datblygu eich sgiliau proffesiynol bob wythnos, gan ddysgu gan gydweithwyr profiadol a thrwy brofiad ymarferol yn y gweithle. Tra byddwch yn y Coleg, bydd eich tiwtoriaid – sy’n arbenigwyr yn eu maes – yn rhoi’r holl hyfforddiant angenrheidiol i chi ar gyfer eich sector a byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae’ch cyflogwr yn gadael i chi fynychu’r coleg fel arfer am un neu dri diwrnod yr wythnos i ennill eich cymwysterau gofynnol ar gyfer y swydd honno.

Mae’n gyfuniad perffaith!

Ar gyfer pwy mae Prentisiaeth?

Mae prentisiaethau ar gael i weithwyr newydd neu bresennol ar draws ystod o Lefelau.

Er enghraifft, mae rhai cwmnïau’n penodi staff lefel mynediad ar Brentisiaethau Lefel 2, ond efallai eich bod eisoes wedi’ch cyflogi mewn sefydliad ac eisiau uwchsgilio’ch hun i astudio ar lefel uwch neu radd drwy Brentisiaeth.

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg amser llawn wneud cais am Brentisiaeth. Bydd angen i chi gael gwaith yn y sector yr ydych yn dymuno gweithio ynddo cyn gwneud cais i’r Coleg am hyfforddiant.

Bydd angen i chi hefyd sefyll asesiad cychwynnol mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Os ydych eisoes yn gyflogedig, yna gallwn weithio gyda chi a’ch cyflogwr i drefnu rhaglen brentisiaeth sy’n addas i chi.

Yn dibynnu ar eich sector, efallai y bydd angen gofynion mynediad ychwanegol.

Pam dewis Coleg y Cymoedd?

Cawn ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru am y ffordd yr ydym yn ymateb i anghenion y farchnad lafur leol. Ymhlith enghreifftiau mae Datblygu Trac Rheilffyrdd a Darpariaeth Rhannu Prentisiaethau.

Cawn ein cydnabod gan ein cyflogwyr am y ffordd yr ydym yn ymateb i’w hanghenion gyda’n darpariaeth wedi’i theilwra.

Mae gennym bortffolio sylweddol o gymwysterau i ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion hyfforddi ar sail fasnachol a chyllidol.

Mae gennym staff profiadol a chymwys yn y diwydiant.

Cawn ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru am ein darpariaeth o ansawdd a’n canlyniadau.

Mae gennym gyfraddau llwyddiant rhagorol ar raglenni o bob lefel.

Sut i ddechrau

Dod o hyd i Gyflogwr

Mae Gyrfa Cymru yn cyhoeddi Prentisiaethau  gwag ar-lein drwy’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau lle gallwch chwilio am swyddi gwag ledled Cymru. Os ydych chi eisoes yn gyflogedig, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad i chi a’ch cyflogwr am y broses o drefnu rhaglen brentisiaeth ar eich cyfer.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’n tîm Dysgu Seiliedig ar Waith i drafod y cyrsiau sydd ar gael ac i ddechrau eich cais. Dewch o hyd i’r manylion cyswllt perthnasol yma.

Y cytundeb

Byddwch chi, eich cyflogwr a’r Coleg yn cytuno ar raglen ddysgu ar gyfer eich prentisiaeth.

Cofrestru

Bydd ein tîm Prentisiaethau yn cwblhau’r broses gyda chi’ch hun drwy eich cofrestru ar eich rhaglen hyfforddi prentisiaeth.

Gweler ein rhaglenni Prentisiaeth isod

Literacy, Numeracy and Digital Skills Strategy | Literacy, numeracy and digital skills are an essential aspect of your overall development within learning. We want to ensure we never miss an opportunity to help you improve these skills as part of your learning experience so will embed support within our overall course delivery

Additional Learning Support Strategy | We recognise that each of our learners will have a unique set of strengths and challenges and carry out an initial induction with each learner to help us tailor a learning experience individual to your preferences and needs.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol | The Coleg Cymraeg creates training and study opportunities in Welsh and inspires learners, students and apprentices to use the Welsh skills they have. We are grateful to the Coleg Cymraeg Cenedlaethol for the investment and support.

Bilingual Delivery Strategy | As a partnership, we pledge to promote and offer Welsh-medium and bilingual learner opportunities to all learners and raise awareness of Welsh language and culture with both learners and employers. We pledge to create a supportive environment and help facilitate staff and learners’ upskilling to feel confident using, and developing, their Welsh language skills. To schedule a meeting with a Bilingual Representative and discuss our Welsh/bilingual provision please speak with your assessor or a member of the Work Based Learning department.

Skills Academy Wales (SAW) | Coleg y Cymoedd is proud to be part of the SAW training consortium. SAW are responsible for monitoring how you are doing whilst on your Apprenticeship programme and will request feedback at several stages of your apprenticeship to support shape continuous improvements

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau