

Digwyddiadau, dyddiadau a gweithgareddau allgyrsiol. Popeth sydd ei angen arnoch i gael y gorau o’ch amser yng Ngholeg y Cymoedd.
Rydyn ni’n gwybod y byddwch chi eisiau taflu eich hun i fywyd coleg o’ch diwrnod cyntaf ar y campws.
Yma gallwch ddod o hyd i’r holl fanylion, dyddiadau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan a manteisio ar bopeth sydd gan Goleg y Cymoedd i’w gynnig.
Dysgwch am yr holl weithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt a chael gwybodaeth ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd yn y coleg.
Cydbwyswch eich astudiaethau ag ehangu eich gorwelion. Clybiau, gweithgareddau a rhagor.
Gosod meddalwedd a systemau’r coleg. Mae cymorth TG ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Popeth sydd angen i chi ei wybod am drafnidiaeth a chael bws am ddim i’r coleg.
Mae cymaint mwy i Goleg y Cymoedd na dim ond addysg wych. Dyma beth sydd angen i chi ei wneud i wneud y gorau o’r cyfleoedd a’r cyfleusterau rydyn ni’n eu cynnig.

Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n dysgu ac yn tyfu cymaint y tu allan i’r ystafell ddosbarth ag ynddo. Dyna pam mae ystod lawn o weithgareddau chwaraeon, cymdeithasol a diwylliannol i roi cynnig arnyn nhw yng Ngholeg y Cymoedd.
Cymoedd Xtra yw’r lle i ddechrau. Yma gallwch ddarganfod yr holl ffyrdd y gallwch gymryd rhan ochr yn ochr â dysgwyr sydd â’r un hobïau a diddordebau.
Hefyd, gallwch fwynhau rhai o’r cyfleusterau chwaraeon coleg gorau yn ardal De Cymru, gan gynnwys y Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon yn Nantgarw. Darganfyddwch sut i gymryd rhan gydag un o’n timau neu gofrestru ar ein rhaglen TASS. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd y brig.

Gadewch i ni eich helpu chi i roi trefn ar bethau, o’ch diwrnod cyntaf yn y coleg, i’r diwrnod canlyniadau hollbwysig hwnnw.
Rhagor o wybodaeth am:
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




