--->
Chwilio Am Gwrs
Chwilio Am Gwrs:
Maes Pwnc
Any
Lefelau A
Mynediad i Addysg Uwch
Modurol
Busnes
Astudiaethau Gofal a Phlentyndod
Arlwyo a Lletygarwch
Cyfrifiadura a TG
Adeiladu
Celfyddydau Creadigol
Addysg a hyfforddiant
Peirianneg ac Electroneg
Dysgu Sylfaenol
Trin Gwallt a Harddwch
Sgiliau Byw'n Annibynnol
Ieithoedd a Sgiliau
Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwyddoniaeth
Chwaraeon
Teithio
Chwilio am yrfa

Celfyddydau Creadigol

Ymunwch â’r Ysgol Diwydiannau Creadigol arloesol i ddatblygu, ymestyn a mireinio sgiliau diwydiant mewn llu o ddisgyblaethau creadigol, yn cynnwys: Cyfryngau Creadigol, Ffilm a Theledu, Creu Gwisgoedd, Creu Propiau, Celfyddydau Cynhyrchu (Colur yn y Cyfryngau), Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio.

Bydd staff perthnasol sydd â phrofiad helaeth mewn diwydiant yn arwain ac yn meithrin eich datblygiad o sgiliau ymarferol, creadigol a pherfformio y mae galw amdanyn nhw, gan roi’r hyder i chi symud ymlaen at Addysg Uwch neu yrfa mewn sector creadigol lleol sy’n ehangu.

Gyda chyfleusterau arbenigol o’r radd flaenaf, ar draws ein campysau yn Aberdâr, y Rhondda a Nantgarw, gallwn ddarparu amgylchedd dysgu sydd wedi’i gynllunio’n benodol i gynnig pob cyfle i chi archwilio a datblygu eich creadigrwydd gan ddefnyddio adnoddau a ystyrir o “safon diwydiant”. Mae gan yr Ysgol, gyda’i hethos proffesiynol, staff angerddol a chysylltiadau diwydiant perthnasol, hanes cyfoethog o gynhyrchu dysgwyr sydd wedi ennill gwobrau, a chreu cyfleoedd cyflogaeth i ddysgwyr ar draws y ddarpariaeth

Yr hyn rydyn ni’n ei gynni

Celf a Dylunio

Profiad o gyfleusterau stiwdio ar gyfer dylunio print, 3D a graffeg, celfyddyd gain a ffasiwn, gwisgoedd a thecstilau i gyd wedi’u cefnogi gan TGCh i safon diwydiant.

Y Celfyddydau Perfformio

Lle mae gan fyfyrwyr foethusrwydd stiwdios dawns ac ymarfer pwrpasol gyda theatr dechnegol o’r radd flaenaf.

Gwallt, colur cyfryngau ac effeithiau arbennig

Nod y cyrsiau yw darparu technegau gwaith a ddefnyddir yn niwydiant y cyfryngau, a datblygu ac ehangu eich portffolio o sgiliau mewn gwallt, colur ac effeithiau arbennig ar gyfer ffilm a theledu.

Y cyfryngau

Gallwch ymarfer eich sgiliau ffilmio, cynhyrchu a golygu mewn stiwdios ac ystafelloedd golygu â’r holl offer angenrheidiol.

Technoleg Cerdd

Defnyddiwch y stiwdios recordio a chymysgu yn ogystal â chyfleusterau ymarfer a pherfformio byw.

Ffotograffiaeth

Gallwch ddatblygu profiad ymarferol o argraffu traddodiadol, prosesu a thriniaeth ddigidol gan ddefnyddio’r offer arbenigol mewn ystafelloedd ffotograffiaeth anhygoel.

Amlgyfrwng

Os mai Amlgyfrwng sy’n mynd â’ch bryd, ni chewch eich siomi gyda’n cyfres o gyfrifiaduron Apple Mac sydd wedi’u llwytho gyda meddalwedd fel Adobe Photoshop, Illustrator, Dreamweaver, Flash ynghyd â rhestr hir o feddalwedd golygu.

Adeiladu Gwisgoedd

Byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau cyffrous gyda WNO, BBC a Theatre Mappa Mundi, yn dylunio ac yn creu gwisgoedd. “Mae llawer o gyfleoedd yn y coleg ac mae gweithio mewn diwydiant yn rhan fawr o’r cwrs ac yn hwb enfawr i’r hyder.” Emma

Gwneud Propiau

Gweithio gyda deunyddiau a phrosesau a ddefnyddir yn y diwydiant, megis cerflunio, mowldio/castio a gwneuthuriad metel.

Mae cyrsiau yn rhedeg o Lefel 1 i Lefel 3 mewn Addysg Bellach, a Lefel 4 (Gradd Sylfaen/Diploma Cenedlaethol Uwch) i Lefel 6 (BA Anrh.) mewn Addysg Uwch drwy fasnachfreintiau marchnad arbenigol gyda Phrifysgol De Cymru.

Mae pob cwrs Lefel 3 yn eich galluogi i ennill y pwyntiau UCAS angenrheidiol i symud ymlaen i’r brifysgol o’ch dewis, ac yn caniatáu i chi ddatblygu portffolio proffesiynol sy’n gwella’ch cyfleoedd cyflogaeth yn eich dewis faes.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau