Mae’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cymorth ar draws Cymru ar gyfer pobl gymwys i ennill sgiliau uwch eu lefel a fydd yn galluogi’r unigolion hyn i gyrchu ystod ehangach o swyddi a/neu gyflogaeth uwch ei lefel.
Nod sylfaenol rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ydy galluogi pobl i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y sectorau â blaenoriaeth, i wella eu gyrfa a’u darpar enillion.
Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.
Rhaid i unigolion:
Hefyd, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
Ni fydd unigolion yn gymwys ar yr adeg gwneud cais os ydyn nhw’n un o’r canlynol:
Fel rhan o’ch cais am arian, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth adnabod(ID) ategol yn dystiolaeth o’ch cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:
Os yn gyflogedig: 3x slip cyflog y 3 mis diwethaf. (Bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm yn disgyn o dan y trothwy)
Os yn hunan-gyflogedig, tystiolaeth o rif UTR a HEFYD tystiolaeth o incwm y 3 mis diwethaf (e.e. cyfrifon/ anfonebau banc), (bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm o dan y trothwy).
Os mewn perygl o gael eu diswyddo: Llythyr gan eich cyflogwr bod eich swydd mewn perygl.
Os yn staff asiantaeth: 3x slip talu y 3 mis diwethaf (os yn bosibl – os na allwch eu cynnig, trafodwch gyda’r tîm pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl cyflwyno’ch cynllun hyfforddi)
Os yn ofalwr: Tystiolaeth o daliad lwfans gofalwyr ar gyfer y 3 mis diwethaf NEU lythyr gan ymgynghorydd gofal yn cadarnhau mai gofalwr ydych chi.
Sylwer, mai dim ond 90 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi sydd gennych i gwblhau eich cais am arian, ar gyfer cymeradwyo’ch cais ac i gael eich ymrestru ar eich dewis gwrs. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol ac y byddwch angen cychwyn ar gais newydd am arian.
Battery Storage (Electrical Energy Storage Systems)
In partnership with CTG
BPEC Air Source Heat Pumps
In partnership with CTG
BPEC Ground Source Heat Pumps
In partnership with CTG
BPEC/Cert-ain Unvented Hot Water Systems
In partnership with CTG
BPEC Water Regulations
In partnership with CTG
BPEC Solar Photovoltaic Systems
In partnership with CTG
CITB SEATS (Site Environment Awareness Training)
In partnership with PCR Global
City & Guilds Level 3 Award in the Design and Installation of Domestic and Small Commercial Electric Vehicle Charging Installations
In partnership with Trydan Training
City & Guilds Level 3 Electrotechnical Experienced Worker Qualification 2346-03
In partnership with Trydan Training
EAL Level 3 Installation of Electric Vehicle Charging Points
In partnership with CTG
EAL Level 3 Award in the Installation of Small Scale Solar Photovoltaic Systems
In partnership with Trydan Training
EAL Level 3 Design, Install and Commission of Electrical Energy Storage Systems (EESS)
In partnership with Trydan Training
IEMA Foundation Certificate in Environmental Management
In partnership with Astutis
IEMA Certificate in Environmental Management Level 5
In partnership with Astutis
IEMA Pathways to Net Zero
In partnership with Astutis
IEMA Environmental Sustainability Skills for Managers
In partnership with Astutis
NEBOSH Certificate in Environmental Management
In partnership with Astutis and Ligtas
Six Sigma – Yellow Belt
In partnership with Creative Difference
Six Sigma – Green Belt
In partnership with Creative Difference
Six Sigma – Black Belt
In partnership with Creative Difference
Solar Thermal Hot Water Systems (BPEC NOS for MCS)
In partnership with CTG
Gyda’n rhestr helaeth o’r cyrsiau sydd ar gael o dan y Cyfrif Dysgu Personol, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’ch cwrs perffaith.
Sylwch, mai dim ond un cwrs ar y tro y gallwch ei gyrchu drwy ddefnyddio cyllid CDP. Os ydych eisoes wrthi’n prosesu’ch cais, yn aros i’ch cwrs gychwyn neu eisoes ar gwrs a ariennir, cwblhewch y cwrs hwn cyn gwneud cais am gyllid CDP am gwrs arall.
Cychwynnwch ar eich cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy gwblhau a chyflwyno Cynllun Hyfforddi ar-lein yma.
Cyflwynwch un Cynllun Hyfforddi yn unig. Os dymunwch wneud cais am nifer o gyrsiau, dim ond un Cynllun Hyfforddi dylech chi ei gyflwyno ar gyfer eich cwrs cychwynnol. Ar ôl i chi sicrhau eich cyllid a chwblhau’ch cwrs, gallwch gyflwyno ail Gynllun Hyfforddi ar gyfer eich cwrs nesaf.
Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am ddogfennau ychwanegol i gwblhau eich cais am gyllid.
Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â’ch siomi. Sylwch, ni ymatebir i unrhyw gyflwyniad anghymwys.
Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod y cyllid wedi’i gymeradwyo, fe weithiwn gyda chi i sicrhau’r dyddiad cychwyn fyddai orau i chi.
Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw cwrs dan arweiniad personol yn syth.
Heb allu dod o hyd i gwrs o’ch dewis? Gwiriwch ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Gwyrdd a’n cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Digidol. Os nad yw eich dewis gwrs ar gael drwy’r Cyfrif Dysgu Personol, neu os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid, siaradwch ag aelod o’r tîm, ynglyn â ffioedd ein cwrs masnachol neu ewch i’n tudalen Cyrsiau Masnachol.
Heb allu dod o hyd i gwrs o’ch dewis? Gwiriwch ein cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol (CDP) Craidd a’n cyrsiau Cyfrif Dysgu Personol Digidol. Os nad yw eich dewis gwrs ar gael drwy’r Cyfrif Dysgu Personol, neu os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cyllid, siaradwch ag aelod o’r tîm, ynglyn â ffioedd ein cwrs masnachol neu ewch i’n tudalen Cyrsiau Masnachol.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR